Monday, December 21, 2009

Syniad gwych Mr Kilfoyle


'Dwi dipyn yn hwyr ar hon, ond ta waeth mi ddyweda i air neu ddau.

Syniad cynhyrfus aelod seneddol Llafur Walton, Peter Kilfoyle ydi cael maer tros Lerpwl, Warrington, Ellesmere Port, Neston, Gaer, Gaer a Sir y Fflint. Wele adroddiad Dail y Post isod:

A MERSEY MP has called for a directly-elected mayor to give real power to the Liverpool "city- region" – branding the current set- up a toothless "cosy cabal".

Walton MP Peter Kilfoyle commissioned his own independent research to analyse the failings of an arrangement he claims is letting down Merseyside.

The study has been sent to fellow MPs and key city bodies including The Mersey Partnership and Liverpool Vision, urging them to embrace the need for radical change.

Among the key conclusions are calls for:

A directly-elected mayor – akin to London's Boris Johnson – to "bring vision, innovation and real accountability";

A 12-strong assembly – with six directly-elected members, because its current leadership is a "closed and incestuous shop";

Tax and spend powers – perhaps over waste charges, road-pricing, local income tax, higher business rats, or a tourism tax;

A bigger city-region – perhaps including Warrington, Ellesmere Port and Neston, Chester and even Wrexham and Flintshire.

The study, by Liverpool firm KIP Research Ltd, pulls no punches in criticising the current city-region, warning that multi-area agreements (MAAs) – the basis of the Government's model – have "no power", because they impose no duties on councils to co-operate.

It claims the so-called "Cabinet" of the six council leaders lacks imagination and gives them "potential conflicts of interest" and has been weakened by Liverpool City Council's poor public image of "in-fighting, factionalism and allegations of unprofessionalism and mismanagement".

The report said the weaknesses were laid bare by the "bolshie squabbling" over Everton Football Club's plans to move out of Liverpool, to Knowsley.

Just because Liverpool City Council isn't working why should we carry the can? I wonder whether this has been discussed at the Mersey Dee Alliance?


Hmm - 'dydi Capel Celyn ddim digon i Peter, mae o ar ol Wrecsam a Fflint rwan. Mae'n debyg y byddai dweud mai dyma'r math o syniad y byddai dyn yn ei ddisgwyl o ddinas sydd wedi ei hadeiladu ar gaethweisiaeth yn ymfflamychol, felly wna i ddim gwneud y sylw.

Mae trafodaeth digon bywiog ar y pwnc ar un o flogiau ymgyrchu gorau Cymru - Plaid Wrecsam. Wna i ddim ailadrodd y pwyntiau sy'n cael eu codi yno, ond mi af ar ol dau bwynt ychwanegol:

Dyma boblogaethau rhannau gwahanol ymerodraeth arfaethiedig Mr Kilfoyle - Fflint 150,000, Wrecsam 130,000, Lerpwl 440,000, Gaer (y cyngor, nid y ddinas) 330,000, Ellesmere Port 64,000, Neston 15,000, Warrington 185,000. I edrych ar hynny mewn ffordd ychydig yn wahanol byddai poblogaeth Gymreig yr ymerodraeth yn 280,000 (21%) tra bydda'r boblogaeth Seisnig yn 850,000 (79%). Rwan o lle rydych chi'n meddwl y bydd maer newydd Fflint a Wrecsam yn dod?

Mae'r ail bwynt yn ymwneud a datganoli. Rwan, cyn nad ydi Martyn Jones, cyn gadeirydd y pwyllgor dethol ar faterion Cymreig yn gwybod llawer am y pwnc, efallai ei bod yn anheg disgwyl i Mr Kilfoyle wybod llawer chwaith. Serch hynny mae'n ffaith bod llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr yn cael eu hariannu mewn ffyrdd gwahanol. Daw grantiau bloc awdurdodau Cymru o'r Cynulliad, a rhai Lloegr o San Steffan.

Mae ganddynt ganllawiau cyllido gwahanol, ac nid ydynt yn cael arian ar gyfer yr un pethau (mae arian addysg yng Nghymru yn mynd i'r awdurdodau yn gyntaf, mae'n mynd i ysgolion yn uniongyrchol yn Lloegr er enghraifft). Mae trefniadau arolygu a goruwchwylio llywodraeth leol yn y ddwy wlad yn wahanol, ac mae manylion treth y cyngor yn y ddwy wlad yn wahanol. Mewn geiriau eraill byddai syniad Mr Kilfoyle yn creu anhrefn gweinyddol ar sawl lefel petaent yn cael eu gwireddu.

Hwyrach y byddai Mr Kilfoyle yn fodlon gwirfoddoli i sortio'r blydi llanast allan?

1 comment:

Huw said...

Gall hyn cael ei gysylltu gyda'r cynllun Cynghrair Merswy-Dyfrdwy. Y cynllun yw i greu is-ranbarth o siroedd Ddinbych, Wrecsam, Y Fflint, Gorllewin Caer a Lerpwl, ble fydd mwy o gydweithrediad.

Y gwir yw fod Lerpwl heb le ar gyfer 'datblygu economiadd', ac mae Caer gyda gwregysau glas o amgylch y ddinas ac yn gwrthod adeiladu arnynt. Yn ogystal a hyn nid yw gogledd Cymru'n wynebu'r union un drafferthion diolch byth i'r ffiniau gweinyddol. Bwriad dan dîn Lerpwl a Chaer yw taflu eu sdoc tai ar ogledd Cymru, nad nad ydyn nhw eu heisiau, a chreu Gogledd Ddwyrain Cymru yn ardal cymudo i Loegr.

Yn rhan o'r cynlluniau yma yw adeiladu 2,000 o dai ym Modelwyddan, pentref sydd ond efo 1,700 yn barod, ac adeiladu tai ar hyd a lled y gogledd orllewin. Cofiwch am helyntion Erddig yn gwerthu tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i adeiladu stadau o dai, a thomen sbwriel ger Wrecsam ble mae sbwriel Cilgwri yn mynd bellach.

Gwladychu gogledd-orllewin Cymru ar raddfa systematig yn enw datblygu economaidd yw hwn. Ni fydd y pobol sy'n byw yn y tai ma'n lleol. Ni fydd nhw'n gweithio'n lleol gan eu bod gyd yn mynd dros y ffin. Ni fyddent nhw'n siarad Cymraeg, gan mai o Loegr ydynt. Bydd pwysau enfawr ar yr is-adeiledd blaenorol gan nad oes gynlluniau i hyd yn oed adeiladu ysbytai, ysgolion ac unrhyw gyfleusterau eraill.

Mae hwn yn waeth na Thryweryn. Iawn, yr ydym wedi cwyno a chlywed digon o nadu am bwnc sydd wedi disoli nifer reit bach o bobol, ond mae'r prosiect yma ar raddfa enfawr. Bydd Cymru yn colli chwarter o'i thir ac nid tir yn unig, ond iaith, diwylliant a chymeriad lleol. Bydd pobol brodorol yn cael eu boddi mewn ardal sydd yn derbynt mewnlifiad peryglus yn barod. (Mae dros 50% o sir Conwy ddim hyn yn oed wedi eu geni yng Nghyrmu, dim ots am sir Ddibych ac Y Fflint!)

Y peth gwaethaf oll yw fod y Cynulliad yn cefnogi hyn. Yn amlwg, mae'r gweision sifil yn Ne Cymru ddim yn gyfarwydd a phroblemau'r gogledd gyda mewnlifio. Mewn ardaloedd fel Blaenau Gwent mae 95% o'r boblogaeth wedi eu geni'n Nghymru. Cymharwch hwne â'r gogledd!

Ni fydd y bobol newydd ma'n pleidleisio dros unrhyw Gynulliad neu hyd yn oed y syniad o Gymru. Cymudwyr byddent. Cysgu yng Nghymru ond yn byw yn Lloegr. Maesyniad Mr Kilfoyle yn enghraifft arall o bobol gogledd-orllewin Lloegr yn ceisio cipio rhan o Gymru.