Tuesday, December 22, 2009

Mr Smith, Mr Merton a Blog Ceidwadwyr Aberconwy



'Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud mai Adam Smith fathodd y term the law of unintended consequences gyntaf. Son oedd Smith am ei briod faes, economeg wrth gwrs. Dadlau oedd yn erbyn ymyraeth ormodol gan lywodraethau mewn materion economaidd gan bod hynny (yn ei farn o) yn amlach na pheidio yn arwain at ddeilliannau anragweladwy - deilliannau oedd yn fynych yn negyddol o ran eu heffaith.

Daeth y term yn boblogaidd yn yr ugeinfed ganrif yn sgil gwaith cymdeithasegydd Americanaidd o'r enw Robert K Merton a ddangosodd bod pob math o gynllunio cymdeithasegol yn arwain at ddeilliannau anisgwyl ac anragweladwy.

Yn naturiol ddigon (ac yn gwbl ragweladwy) mae meddwl dyn yn crwydro at Merton a Smith pan mae'n ymweld a blog Ceidwadwyr Aberconwy ac yn darllen eu sylwadau ar flogiau eraill. Wedi'r cwbl un o risgiau mawr 'sgwennu ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol, a blogio gwleidyddol yn arbennig ydi bod yr ysgrifennwr yn ceisio dweud un peth ond bod y darllenwr weithiau yn dod i gasgliadau cwbl wahanol o'r hyn mae wedi ei ddarllen.

Cymerer y blogiad diweddaraf er enghraifft. Y stori fawr yma ydi bod Laura McAllister wedi ei phenodi yn gadeirydd y Cyngor Chwaraeon. Mae hyn yn fater o dristwch mawr i Geidwadwyr Aberconwy. Ymddengys mai'r rheswm am hyn ydi bod Laura yn Bleidwraig, bod y Gweinidog Treftadaeth (sydd yn y pen draw yn gyfrifol am chwaraeon a hamdden) yn Bleidiwr, a bod llyfr ar hanes y Blaid gan Laura wedi gwneud Ceidwadwyr Aberconwy yn rhy sal i fwyta eu vol-au-vents.

Rwan, byrdwn y blogiad ydi bod y penodiad mewn traddodiad diweddar Cymreig o benodiadau gwleidyddol i gyrff a elwir gan bawb arall yn quangos, ond yn cwangos ar flog menai. Chwi gofiwch mai acronym am quasi-autonomous non-governmental organisation ydi'r term. Cyrff ydi'r rhain sydd a rol mewn llywodraethu, ond sydd ddim yn rhan o adrannau llywodraethol fel y cyfryw a sydd felly'n rhannol annibynnol oddi wrth weinidogion llywodraethol.

Daeth y cwangos cyntaf yng Nghymru i fodolaeth (fel y bydd Ceidwadwyr Aberconwy yn cofio'n dda) yn y 1980au pan roedd rhywun o'r enw Mrs Thatcher yn rhedeg y sioe. O 1987 ymlaen ychydig iawn o gynrychiolaeth etholiadol oedd gan y Toriaid yng Nghymru, felly aethant ati i reoli'r wlad trwy greu efallai 200 o gwangos oedd gyda thua 1,800 o unigolion yn eistedd arnynt - gyda'r sawl oedd yn gwasanaethu yn aml yn - wel agos at y Toriaid - o ran gwleidyddiaeth.

Pan ddaeth y Cynulliad i fodolaeth addawyd (gan Lafur) i daflu'r job lot ar goelcerth, ond ni ddigwyddodd hyn mewn gwirionedd. Mae llawer o'r cwangos yn parhau, ond mae proses gydnabyddedig ac agored (ac un sydd i raddau helaeth yn annibynnol o wleidyddion etholedig) i benodi aelodau cwangos bellach.

Yn yr achos mae Ceidwadwyr Aberconwy yn ei godi, roedd Laura eisoes yn is gadeirydd y Cyngor Chwaraeon. Roedd wedi ei phenodi i'r Cyngor pan roedd Alun Pugh (Llafur) yn Weinidog, a chafodd ei phenodi yn is gadeirydd cyn Cymru'n Un. Roedd y broses benodi yn un cwbl agored, ac mae barn aelodau'r Cyngor am Laura'n eithaf adnabyddus - mae cryn barch tuag ati. Mae hefyd yn gyn beldroediwr a chwaraeodd tros Gymru.

Mewn geiriau eraill, hi oedd y person gorau, ac yn wir y person mwyaf naturiol i wneud y job. Mae yna rol i'r Gweinidog yn hyn oll wrth gwrs - ond mae hynny reit ar ddiwedd y broses - sef arwyddo'r papur yn caniatau'r penodiad, neu ei wrthod. Os ydi'r Gweinidog yn dewis gwrthod (ac anaml iawn y bydd hynny'n digwydd) mae'n rhaid wrth reswm dilys tros wneud hynny. 'Dydi aelodaeth (neu ddiffyg aelodaeth) o blaid wleidyddol ddim yn rheswm dilys. 'Dydi plesio Ceidwadwyr Aberconwy ddim yn reswm dilys chwaith.

Felly, beth sydd gennym yma ydi troelli gwleidyddol. Ar un olwg mae hyn yn ddigon naturiol, mae'n tynnu am etholiad wedi'r cwbl. Er nad oes fawr ddim sylwedd y tu ol i'r stori, mae'n droelli mwy derbyniol na'r hel clecs am brosesau etholiadol pleidiau eraill heb ddatgelu ffynonellau, a ddim mor desperet a chodi straeon am gig, cigyddion a Chyngor Gwynedd o fedd sydd wedi hen setlo.

A daw hyn a ni'n ol at gyfraith canlyniadau anfwriadol. Sedd sydd yn nwylo Llafur ydi Aberconwy wrth gwrs, ond fyddai rhywun ddim yn credu hynny o ddarllen y blog na sylwadau Guto ar y blog hwn. Yn ol damcaniaethu etholiadol UK Polling Report (doedd etholaeth Aberconwy ddim yn bodoli yn 2005) pedwerydd sal fyddai'r Blaid y tu ol i'r Lib Dems, y Toriaid a Llafur. Anaml y bydd y blog yn cyfeirio at y Lib Dems, ceir cyfeiriadau mynych at y Blaid, a cheir rhai at Lafur hefyd. Fel rheol mae'r cyfeiriadau at Lafur yn ymysodiadau arnynt ar lefel Cynulliad, a bron yn ddi eithriad bydd Plaid Cymru yn cael ei chysylltu efo nhw. Weithiau gellir cyfiawnhau'n wrthrychol gwneud hynny (ProAct yn Aberconwy er enghraifft), ond yn amlach na pheidio ni ellir (gwahaniaeth mewn lefel gwariant ar addysg er enghraifft - digwyddodd hynny i gyd cyn Cymru'n Un).

Deilliant anfwriadol blog Ceidwadwyr Aberconwy ydi tanlinellu'r ffaith, i unrhyw un sy'n dewis ei ddarllen bod y Toriaid yn gwybod i'r tirwedd etholiadol newid yn llwyr yn yr ardal ers 2005, ac mai Plaid Cymru ydi'r prif fygythiad i'r Toriaid yn Aberconwy, nid Llafur ac yn sicr nid y Lib Dems.

A'r wers i'w chymryd o hyn oll ydi hon - os ydych yn byw yn Aberconwy, ac os ydych am osgoi cael eich cynrychioli yn San Steffan gan y Blaid Geidwadol, pleidleisiwch i Blaid Cymru.

5 comments:

Guto Bebb said...

O na, fi eto!!!!!!

Dwi'n gwybod fod Plaid ar chwal yn Aberconwy a dwi'n edmygu dy ymdrechion i ymladd yr ymgyrch ar ei rhan. Ond o ddifrif, rho'r gorau i'r ffolineb 'ma Cai.

Cai Larsen said...

Cymer faqntais o'r sylw tra ei fod ar gael.

Mi fyddwn ni'n symud tua'r De yn o fuan.

Guto Bebb said...

Rwan at grynswth dy ddadl.

Ydi Plaid Cymru wedi gwrthwynebu penodiadau aelodau o'r Blaid Lafur i'r quangos yn y gorffennol? Do.

Ydi Alun Ffred wedi gwneud awgrymiadau o ffafriaeth gwleidyddol i benodiadau i quangos yn y gorffennol? Do.

Ydi Plaid Cymru wedi honni yn y gorffennol na benodwyd Wigley yn Gadeirydd y WDA oherwydd ffafriaeth gwleidyddol? Do.

'Do as we say not as we do' Cai?

Ac o ystyried dy ddirmyg tuag at Alun Pugh mae'n rhyfeddol, yn rhyfeddol, dy fod rwan yn honni fod dewis Laura McAlliser fel dirprwy gadeirydd ganddo yn dystiolaeth o'r ffaith mae hi oedd yr ymgeisydd gorau.

Wrth gwrs, hwn yw'r Alun Pugh a enllibwyd bron gan aelodau Plaid Cymru dros benodiad Meri Hughes i Fwrdd yr Iaith. Dim son bryd hynny am allu rhyfeddol Mr Pugh i ddewis yr ymgeisydd gorau.

Ac un pwynt arall cyn gorffen Cai. Gan fod dewis dy AC mor gywir ac fod Ms McAllister yn amlwg yr ymgeisydd gorau yna a fyddi cystal a rhoi gwybod i dy ddarllenwyr pwy oedd yr ymgeiswyr eraill? Na, go brin.

Mewn glwad o amrywiol chwaraeon y mae'n rhyfeddol, bron yn anhygoel, fod y person gorau i Gadeirio Cyngor Chwaraeon Cymru yn ddarlithydd gwleidyddiaeth. Oess 'na neb arall yng Nghymru fach oedd a mwy i'w gynnig o ran ysbyrdoli Cyngor Chwaraeon Cymru?

Wrth gwrs, fe all fod yna neb arall oedd yn aelod o Blaid Cymru ond mater arall fydde hynny Cai.

Edrychaf ymlaen at dy gyfraniad nesaf chwerw a di-sail am fy ymgyrch yn Aberconwy. Hyd yma dwi wedi cael tri person (dim ond un yn yr etholaeth yn anffodus) yn datgan fod dy vendetta yn golygu na fyddent yn bwrw pleidlais dros dy Blaid yn 2010. Oes yna unrhyw obaith i ti ddoethinebu mwy tros y misoedd nesaf? Does ond angen i ti gario'n mlaen tan ddiwedd Mawrth neu efallai ddechrau Mai.

Cymru X said...

Ma Guto Bebb yn hileriys!
Ar chwal wir....

Cai Larsen said...

Twt, twt Guto paid a gweithio dy hun i fyny fel hyn a chymryd pethau mor bersonol, mae'n Ddolig wir Dduw - ceisia ymlacio.

Dydi'r blogiad ddim yn chwerw nac yn ymysodiad personol arnat - gwneud pwynt syml oeddwn i bod y troelli gwrth Plaid Cymru yn adlewyrchu'r ffaith mai'r Blaid honno ydi'r prif fygythiad i'r Ceidwadwyr yn Aberconwy.

Rwan, ti'n mynd yn ol at benodiad LM ac yn dal i awgrymu bod rhywbeth amhriodol wedi digwydd - er nad oes gen ti unrhyw dystiolaeth nad ydi canllawiau'r broses wedi eu dilyn. Mi fyddwn i'n derbyn dadl nad ydi'r broses yn un berffaith (er ei bod llawer gwell nag un y Toriaid pan oedd rheiny mewn grym wrth gwrs)ond ti'n ymddangos i ddadlau bod y canllawiau wedi eu torri heb gynnig tystiolaeth i egluro pam - unwaith eto.

Mae'r cyfeiriadau at Mr Pugh yn od a dweud y gwir Guto - hyd y gwn i dwi prin 'rioed wedi gwneud sylw amdano (ag eithrio nodi na wnaeth Kim ffafr a fo efo amseriad ei ddatganiad). Os ti eisiau gwybod beth oeddwn i'n feddwl amdano fel Gweinidog (nid bod hynny o bwys), roedd yn gwneud joban go lew ar ddilyn set o bolisiau cachu.

Mae'r ensyniad bod Alun Pugh wedi wedi rhoi joban i LM am resymau gwleidyddol yn bisar braidd ag ystyried eu bod yn perthyn i bleidiau gwahanol.

Tra fy mod yn ddiolchgar am dy ddiolchiadau (fel petai) ac yn awyddus i helpu yn yr ymgyrch yn Aberconwy, hyn a hyn o amser fydd gen i mae gen i ofn - rhwng bod a job i'w dal i lawr, ymgyrchu cig a gwaed yn Arfon, 40 etholaeth i'w hystyried ar y blog, materion teuluol a hamdden ac ati. Gobeithio dy fod yn deall.