Wednesday, December 23, 2009

Problem Glyn


Tra bydd Glyn Davies, cyn aelod Cynulliad tros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn c'noi ei dwrci y 'Dolig hwn mi fydd rhan o leiaf o'i feddwl ar yr etholiad cyffredinol ym Maldwyn, a'i obeithion o ddiorseddu'r Lib Dem ecsentrig, Lembit Opik. Chwi gofiwch i Glyn ddatgan ei fwriad i sefyll i fynd i San Steffan yn fuan wedi colli ei sedd Cynulliad.

Ar yr olwg, 'does gan Glyn ddim gobaith o gwbl. Unwaith yn unig ers oes yr arth a'r blaidd mae'r Rhydfrydwyr wedi colli'r sedd, ac maent wedi llwyddo i'w dal ar adegau pan nad oeddynt yn gallu dal fawr ddim arall ar hyd y DU. Mae mwyafrif y Lib Dems yn uchel - 24% bron. Er bod y polau 'cenedlaethol' yn awgrymu bod gogwydd oddi wrth y Lib Dems i'r Toriaid, mae'n llawer llai na'r 12% a fyddai ei angen. Ar ben hynny, mae'r Lib Dems yn draddodiadol yn hynod effeithiol am ddal seddi wedi iddynt eu hennill, hyd yn oed pan mae gogwydd cyffredinol yn eu herbyn. Serch hynny, mae yna gryn son wedi bod y gallai Glyn ennill - gan Glyn ei hun ymysg eraill.

Mae'r optimistiaeth hwn wedi ei seilio i raddau helaeth ar y ffaith bod Lembit wedi bod yn treulio cyfran go lew o'r bedair mlynedd a hanner diwethaf yn ymddwyn fel - wel, lembo. Mae yna bethau eraill hefyd- fel mae Glyn yn nodi ei hun, perfformiad cryf y Toriaid yn yr etholaeth mewn etholiadau diweddar, y ffaith bod persona cyhoeddus (o leiaf) Glyn yn fwy atyniadol i'r rhan fwyaf o bobl nag un Lembit, llyfr Sian Lloyd ac mae'r ods mae'r bwcis yn eu rhoi iddo (7/2) yn ddigon rhesymol.

Fodd bynnag, os ydi Glyn am ennill bydd rhaid iddo neidio tros ben un clwyd go fawr. Mae Lembit a Mick Bates yn ennill yn hawdd yn Nhrefaldwyn oherwydd eu bod yn dda am berswadio pobl sy'n gogwyddo tuag at Blaid Cymru neu Lafur i bleidleisio trostyn nhw er mwyn cadw'r Toriaid allan.

Dyma ydi arbenigedd y Lib Dems - cael pobl i fotio iddynt nid am eu bod yn arbennig o hoff ohonynt, ond oherwydd eu bod yn drwg licio rhywun arall mwy. Gallant wneud hyn mewn amrediad o etholaethau gwahanol - maent yn cymryd pleidleisiau oddi wrth Lafur a'r Toriaid yng Ngheredigion ar y sail nad nhw ydi Plaid Cymru, oddi wrth Plaid Cymru a Llafur ym Maldwyn ar y sail nad Toriaid ydynt, ac oddi wrth y Toriaid yng Nghanol Caerdydd am nad ydynt yn Llafurwyr. Rydym wedi edrych sawl gwaith yn y gorffennol ar gam ddefnydd di gywilydd y Lib Dems o graffiau ac ystadegau. Maent yn ddibynol yn aml ar y math yma o beth oherwydd mai eu prif apel ydi'r ffaith nad ydynt yn rhywun arall.

'Rwan, os ydi Glyn i ennill mae'n rhaid iddo droi'r patrwm yma ar ei ben - hynny yw mae'n debyg y bydd rhaid iddo berswadio pobl sy'n gogwyddo tuag at Plaid Cymru a Llafur i bleidleisio'n dactegol tros y Toriaid yn erbyn y Lib Dems. Byddai gwneud hyn yn gryn gamp - un nad oes neb wedi llwyddo i'w chyflawni o'r blaen. Mae'n ymddangos i mi yn llawer mwy tebygol y byddai lled Lafurwyr a lled Bleidwyr sydd methu stumogi Lembit yn mynd yn ol adref at eu pleidiau naturiol.

Os ydi hyn yn digwydd, mae'n dal yn bosibl i Glyn ennill - ond byddai angen gogwydd cryn dipyn yn uwch na 12% oddi wrth y Lib Dems - mae hyn yn bosibl wrth gwrs, ond dydi symudiadau felly ddim yn digwydd yn aml iawn. Mae'n wir bod Maldwyn yn wledig ac yn geidwadol yn ystyr c fach ceidwadiaeth, ond mae hyd yn oed llefydd felly yn llai piwritanaidd heddiw nag y buont. Ac hefyd wrth gwrs, os oes mewath o wirionedd yn y dywediad Saesneg, all publicity is good publicity, mi fydd Lembit yn cael ei ail ethol - er gwaethaf pawb a phopeth - a fo'i hun.

2 comments:

Hogyn o Rachub said...

Dwi'n dueddol o gytuno efo chdi - fydd Lembit dal yn AS yr adeg hon flwyddyn nesa'.

Fodd bynnag, ar bwynt hollol bedantaidd, swni'n dueddol o anghytuno efo perfformiad Mick Bates yn y Cynulliad - roedd ei fwyafrif yn llai na 2,000 y tro diwethaf, dim ond 8.9%, felly mae'n gwbl bosibl y bydd Maldwyn yn las yn 2011 - yn enwedig tasa Glyn yn mynd amdani.

Cai Larsen said...

A mae Mick yn mynd wrth gwrs.