Sunday, January 10, 2016
Saturday, January 09, 2016
Llafur yn ymgyrchu yn erbyn deilliannau eu polisiau eu hunain - eto
Mae'r blog yma wedi nodi yn y gorffennol mai un o nodweddion rhyfedd y Blaid Lafur Gymreig ydi ei hangen i fod yn bopiwlistaidd wrth sefydliadol ac yn sefydliadol ar yr un pryd. O bryd i'w gilydd mae'r ymgais yma i reidio dau geffyl sy'n aml yn carlamu i gyfeiriiadau cwbl wahanol yn arwain at sefyllfaoedd digon gogleisiol - fel pan aeth Aelod Cynulliad y Rhondda - Mr Leighton Andrews- allan ar y strydoedd i brotestio yn erbyn cau ysgol - rhywbeth oedd yn ddeilliant i Gyngor Llafur yn ufuddhau i ofynion polisi y Gweinidog Addysg - Mr Leighton Andrews.
Yn naturiol ddigon mae ein cyfeillion ym Mhlaid Lafur Arfon yn rhan o yn union yr un diwylliant. Esiampl dda o hyn ydi'r hw ha maent yn geisio ei achosi oherwydd bod Cyngor Gwynedd bellach yn casglu sbwriel na ellir ei ail gylchu pob tair wythnos (cesglir sbwriel ail gylchu yn wythnosol).
Cyn mynd ymlaen mae'n debyg y dyliwn aros i wneud sylw ar y defnydd mynych o'r gair trychineb neu trychinebus mewn perthynas ag amgylchiadau lle bod cyfuniad o'r drefn newydd, trefniadau 'Dolig a'r tywydd garw wedi arwain at sbwriel yn hel y tu allan i dai rhai o drigolion Gwynedd. Mae sbwriel y tu allan i'r ty yn anghyfleus, ond dydi o ddim yn drychineb. Mae llawer o'r bobl rydym yn eu gweld yn llifo ar draws cyfandir Ewrop ar ol golli eu cartrefi, cael eu carcharu a'u harteithio neu weld anwyliaid yn cael eu lladd wedi profi trychineb, ond dydi pobl sydd a sachau sbwriel wrth eu ty heb - neu byddai rhannau mawr o Dreganna (Cyngor Caerdydd, Llafur) wedi ei ddatgan yn ardal trychineb wythnos diwethaf. Mae'r defnydd o'r ansoddair yn blentynaidd a di chwaeth.
Ta waeth, mae stori'r newidiadau mewn trefniadau casglu sbwriel yn cael ei yrru gan ddau beth - rheoliadau ail gylchu llywodraeth Cymru a'r toriadau yn yr arian sydd ar gael i awdurdodau lleol.
Mae gan llywodraeth Cymru dargedau ail gylchu i'w cwrdd, felly maent yn gorfodi awdurdodau lleol yng Nghymru i gynyddu'n sylweddol - ac yn gynyddol - ar faint o sbwriel sy'n cael ei ail gylchu. Os nad ydi 'r awdurdodau yn cwrdd a'r targedau hynny, maent yn cael dirywon sylweddol. Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni mae'r awdurdodau yn cymryd camau megis torri ar gasgliadau sbwriel cyffredin er mwyn annog pobl i ail gylchu cymaint a phosibl.
Yn ychwanegol - fel mae pawb yn gwybod - mae yna doriadau sylweddol mewn gwariant cyhoeddus ar lefel y DU - ac mae hyn yn effeithio yn negyddol ar faint o adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Mae Llafur yn hoffi cyfeirio at y toriadau hyn fel toriadau Toriaidd - ond toriadau Toriaidd / Lib Dem / Llafur ydyn nhw mewn gwirionedd. Aeth mwyafrif llethol aelodau seneddol Llafur trwy lobiau San Steffan efo'r Toriaid ym mis Chwefror y llynedd i bleidleisio tros £15bn o doriadau mewn gwariant cyhoeddus. £15bn.
Fel y dywedwyd mae'r adnoddau sydd ar gael i lywodraeth Cymru felly yn llai o lawer oherwydd penderfyniadau'r Toriaid / Llafur / Lib Dems yn San Steffan. Ond dydi'r toriadau sy'n cael eu trosglwyddo i'r awdurdodau lleol ddim yn gyfartal - mae rhai Llafur - at ei gilydd - yn cael llai o doriadau na chynghorau sydd ddim yn rhai Llafur. Felly mae'r toriad mae Gwynedd dlawd yn ei gymryd yn uwch na'r toriad mae Caerdydd gyfoethog yn ei gymryd. Penderfyniad gweinyddiaeth Lafur ym Mae Caerdydd ydi hynny. Canlyniad anhepgor hyn oll ydi bod pob awdurdod lleol - ac yn arbennig rhai sydd ddim yn rhai Llafur - yn gorfod crafu o gwmpas i chwilio am ffyrdd o arbed arian. Un ffordd o wneud hynny ydi casglu sbwriel yn llai aml. Mae'r ffaith bod arbed arian yn y ffordd yma yn cyd fynd a rheoliadau ail gylchu Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r cymhelliad i dorri ar gasgliadau sbwriel cyffredin wrth gwrs.
Felly mae Llafur Arfon yn ceisio gwneud elw etholiadol o sefyllfa sy'n cael ei chreu gan doriadau mewn gwariant cyhoeddus maent wedi pleidleisio trostynt yn San Steffan, cyfundrefn ariannu anheg maent wedi ei greu yng Nghaedydd a rheoliadau ail gylchu maent yn gorfodi awdurdodau lleol i'w mabwysiadu ar boen dirwyon anferth.
Fel mae'r ddelwedd isod yn ei dangos - mae cynghorau Llafur o dan bwysau digon tebyg - er nad ydyn nhw'n gorfod ysgwyddo cymaint o doriadau.
Mae'r math yma o wleidydda yn sylfaenol anonest, ond mae hefyd yn blentynaidd - gwleidyddiaeth ysgol feithrin.
Mae hefyd wrth gwrs yn nodweddu'r Blaid Lafur ar lawr gwlad.
Friday, January 08, 2016
Goroesiad gwleidyddol Doughty - gwendid Llafur
Dwi ddim eisiau tramgwyddo ar alar preifat - ond mae yna rhywbeth braidd yn boncyrs mai ymateb Llafur i'r cytundeb rhwng y Bib ac Aelod Seneddol De Caerdydd - Stephen Doughty - iddo ymddiswyddo o gabinet cysgodol Llafur yn fyw yn ystod cyfweliad, ydi cwyno wrth y Bib.
Mae'n amlwg o amseriad yr ymddiswyddiad bod y Bib a Doughty eisiau achosi cymaint a phosibl o niwed i'r Blaid Lafur. Petai Doughty yn perthyn i unrhyw blaid arall, neu i'r Blaid Lafur cyn Corbyn - byddai'n colli'r chwip. Duw a wyr pam y byd y byddai plaid eisiau cadw aelod seneddol sy'n gwneud pob dim o fewn ei allu i'w niweidio.
Y diweddaraf gan Golwg
Nid colofn Gwilym Owen ydi'r offrwm o Golwg sy'n derbyn sylw yr wythnos yma - er ei bod werth ei darllen. I dorri stori hir yn fyr mae Gwil wedi - fel sy'n arferol - sgwennu rhywbeth hyll am rhywrai neu'i gilydd yn ei golofn, mae un o'r rheiny wedi 'sgwennu llythyr at Golwg yn dweud rhywbeth hyll am Gwilym - ac mae'r hen fabi wedi dechrau udo crio a mynd ati i lenwi ei golofn efo manylion ei hanes meddygol mewn ymgais i'n cael ni i gyd i grio efo fo. Tour de force mewn hunan dosturi, hunan gyfiawn. Dim ond yng Nghymru mae'r math yma o rybish myfiol yn cael ei ystyried yn addas ar gyfer cylchgrawn materion cyfoes.
Na, colofn arall yn yr wythnosolyn sy'n dennu'r sylw - y brif erthygl am Carwyn Jones a llifogydd yr A55 - Carwyn yn Tawelu'r Dyfroedd. Bydd darllenwyr Blogmenai yn ymwybodol bod storm o feirniadaeth wedi udo uwch ben y Prif Weinidog ers ddydd San Steffan - oherwydd ei arafwch i ymateb i'r llifogydd, oherwydd iddo drio roi'r bai ar Ieuan Wyn Jones am lanast ei lywodraeth, oherwydd iddo ddisgwyl bedwar diwrnod cyn dod i'r Gogledd, oherwydd iddo fethu a chyfarfod a thrigolion Tal y Bont, oherwydd iddo ddod yn ol mewn panic bedwar diwrnod yn ddiweddarach i wneud hynny, oherwydd iddo ddweud - yn gwbl anghywir - bod yr arian i ddelio a phroblem yr A55 wedi ei ryddhau gan ei lywodraeth, oherwydd iddo honni'n gwbl ddi sail mai bai'r deiliaid tir lleol oedd y rheswm pam nad oedd y broblem wedi derbyn sylw, oherwydd iddo feio' n gwbl anheg swyddogion y cyngor oherwydd iddo ddianc yn ol i Gaerdydd cyn cwrdd a thrigolion Tal y Bont, oherwydd bod un o'i weinidogion wedi tyngu na fyddai llifogydd 2012 yn cael eu hailadrodd.
Beth bynnag - er bod yr erthygl yn son am un neu ddwy o'r beirniadaethau - mae'n derbyn eglurhad cwbl anghredadwy Carwyn Jones yn hollol anfeirniadol - ac yn dod i'r casgliad bod y dyn wedi tynnu 'r gwynt o hwyliau ei feirniaid, ac wedi dod, gweld a choncro. Ym myd bach rhyfedd Golwg mae gwleidyddion pob amser yn eirwir 'da chi'n gweld. Yn y cyfamser - yn y Byd go iawn roedd y beirniadu'n dal i ruo.
Swnio tipyn bach fel Pravda yn nyddiau olaf yr Undeb Sofietaidd yn dal i adrodd ar lwyddiannau economaidd ysgubol yr Undeb, poblogrwydd rhyfeddol Gorbachev a diolchgarwch y werin iddo - fel roedd yr holl sioe'n syrthio'n ddarnau o'i gwmpas.
Wednesday, January 06, 2016
'Bai pawb ond fi ydi o'
Gydag ymddiheuriadau i'r sawl yn eich plith nad ydynt yn byw yng Ngogledd Cymru, mae gen i ofn ein bod yn dychwelyd at lifogydd yr A55, ac ymddygiad y Prif Weinidog, Carwyn Jones ers i'r llifogydd hynny ddigwydd ar ddydd San Steffan.
Ymddengys bod Prif Weinidog Cymru yn ceisio osgoi cymryd cyfrifoldeb personol, beio pobl eraill am fethiannau ei lywodraeth ei hun a chamarwain etholwyr Gogledd Cymru. Dydi hyn ddim yn adlewyrchu'n dda arno.
Wna i ddim mynd tros hen dir - rydym eisoes wedi edrych ar ei ymddygiad bisar ers y 26ed o Ragfyr. Fodd bynnag dychwelodd i'r Gogledd ddoe gan ymweld a Thal y Bont a'r Bontnewydd. Yn ystod yr ymweliad dywedodd y bydd cynllun Cyngor Gwynedd i atal dwr rhag llifo ar yr A55 yn cael yr arian i fynd rhagddo. Yn amlwg mae hynny'n fater i'w groesawu. Ond aeth ati wedyn i geisio trosglwyddo'r bai oddi wrth ei lywodraeth a thuag at bobl eraill.
Yn y bon gwnaeth dri honiad sydd - a bod yn garedig - yn hynod amheus. Honodd bod yr £1.5m ar gael o'r dechrau'n deg, bod deiliaid y tir o gwmpas yr A55 yn gyfrifol am atal y gwaith rhag mynd rhagddo'n brydlon ac mai bai swyddogion Cyngor Gwynedd oedd 'camddealltwriaeth' wythnos diwethaf.
Mae'r cynghorydd lleol - Dafydd Meurig wedi ymateb i'r holl honiadau amheus. Amgaeaf yr ymateb hwnnw isod.
1. Dywedodd bod yr arian wedi bod yno o’r cychwyn. Nid yw hyn yn wir. Rwyf wedi gweld llythyrau gan Lywodraeth Cymru dyddiedig Mehefin a Medi 2015 yn cydnabod cais Gwynedd, ond yn dweud nad oes penderfyniad ar y cyllid wedi ei wneud.
2. Dywedodd mai materion efo tirfeddiannwyr oedd wedi dal y prosiect yn ei ôl. Mae hyn yn nonsens. Bore ‘ma fe gadarnhaodd dau Gynghorydd Cymuned gyda’r tirfeddiannwyr bod y trafodaethau wedi eu cwblhau ers tro byd.
3. Rhoddodd Carwyn Jones y bai am gamddealltwriaeth wythnos diwethaf ar swyddogion Cyngor Gwynedd. Nid yw hyn yn wir ac mae’r swyddogion yn gandryll.
Ymddengys bod Prif Weinidog Cymru yn ceisio osgoi cymryd cyfrifoldeb personol, beio pobl eraill am fethiannau ei lywodraeth ei hun a chamarwain etholwyr Gogledd Cymru. Dydi hyn ddim yn adlewyrchu'n dda arno.
Y cwestiwn diddorol ydi - Pam? Mae'r ateb i'w gael yma.
Mae Vaughan yn gwbl gywir bod Llafur o dan bwysau sylweddol yng Ngogledd Cymru, ac y gallai perfformiad gwael yma arwain at ddiwedd cyfnod Carwyn Jones fel Prif Weinidog. Cafodd Llafur gweir yn eu dwy sedd darged yn y Gogledd ym mis Mai - er gwario'n sylweddol ar y ddwy. Collwyd un sedd yn gwbl anisgwyl, a daethwyd o fewn trwch blewyn i golli sedd arall.
Record llywodraeth Carwyn Jones a'r canfyddiad cyffredinol bron yn y Gogledd bod y rhanbarth yn cael ei anwybyddu'n llwyr gan y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd sy'n gyfrifol am y pwysau hwnnw, yn ogystal ag ymddygiad rhyfedd y Prif Weinidog - y bownsio i lawr ac i fyny o'r De i'r Gogledd, y panic lloerig a'r camarwain trwsgl. Wedi'r cwbl - fel rydym eisoes wedi nodi - mae'r hyn ddigwyddodd ar yr A55 ar Wyl San Steffan yn wenwyn pur o safbwynt y Blaid Lafur yn y Gogledd. Mae'n crisialu difaterwch y blaid a'r blaenoriaethau gwariant gwrth Ogleddol i'r dim.
Monday, January 04, 2016
Contract canser Plaid Cymru
Mae canser yn effeithio ar y rhan fwyaf o bobl yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol rhywbryd yn ystod eu bywydau.
Does yna'r unman sy'n lle da i gael cansar - yn amlwg - mae yna rai llefydd yn waeth na'i gilydd. Mae'r rhestrau aros am ddeiagnosis yma yn fater o warth cenedlaethol. Er enghraifft mae tua traean o gleifion yng Nghymru yn aros am chwech wythnos neu chwaneg, 1% a 6% ydi'r ffigyrau cymharol yn Lloegr a'r Alban.
'Dydi'r targed o sicrhau bod 95% o achosion sy'n cael eu cyfeirio trwy'r llwybr brys yn derbyn triniaeth o fewn 62 diwrnod erioed wedi ei gwrdd - mae'r perfformiad tua 8% yn salach nag yw yn yr Alban. Does yna fawr unman yn Ewrop lle mae'r tebygolrwydd o oroesi'r clefyd yn waeth.
Bwriad Contract Canser Plaid Cymru - a gyhoeddwyd heddiw - ydi lleihau amseroedd aros, gwella mynediad at gyffuriau a chefnogi cleifion
Bydd cynlluniau Plaid Cymru i wella gwasanaethau canser yn cyflymu diagnosis ac yn sicrhau y gall cleifion gael y cyffuriau a’r triniaethau mae arnynt eu hangen.
Bydd cynlluniau Plaid Cymru i wella gwasanaethau canser yn cyflymu diagnosis ac yn sicrhau y gall cleifion gael y cyffuriau a’r triniaethau mae arnynt eu hangen.
Mae Contract Canser 3 phwynt Plaid Cymru yn ymrwymo i’r canlynol:
- Dod ag amseroedd aros i lawr - diagnosis neu ddweud nad oes canser ymhen 28 diwrnod
- Cronfa triniaethau newydd: gallu mynd at feddyginiaethau newydd ar sail beth mae’r meddyg yn ragnodi, nid eich cod post
- Cefnogaeth unigol i bob claf cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth
Mae'r cynllun hefyd yn anelu at ostwng nifer y marwolaethau y gellir eu hosgoi trwy ofalu bod y brechlyn HPV yn cael ei roi am ddim i fechgyn yn ogystal â merched, trwy gymryd camau pellach i atal pobl rhag ysmygu, trwy gyflwyno treth ar ddiodydd llawn siwgr, a thrwy sicrhau gwell mynediad at feddygon teulu trwy ein cynllun i hyfforddi a recriwtio mil o feddygon yn ychwanegol.
Tros yr wythnosau nesaf bydd cyfres o ddatganiadau polisi pwysig eraill yn cael eu gwneud gan y Blaid. Bydd y datganiadau hyn yn rhoi dewis clir i bobl Cymru ym mis Mai - dewis rhwng llywodraeth sy'n bwriadu gwneud gwahaniaeth go iawn trwy fynd i'r afael a rhai o broblemau mwyaf di symud Cymru, a'r status quo o ddiffyg uchelgais a than berfformiad parhaus.
Bydd etholwyr Cymru yn cael y cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn fis Mai. Mae'n hanfodol bod y cyfle'n cael ei gymryd.
Sunday, January 03, 2016
Llongyfarchiadau i Blaid Cymru Gorllewin Caerdydd _ _ _
_ _ _ ar lwyddo i gyrraedd eu targed o £1,000 ar gyfer ymladd etholiad y Cynulliad ym mis Mai. Mae'r targed wedi ei ymestyn i £1,500 - felly mae cyfle i chi gyfrannu o hyd.
Saturday, January 02, 2016
Helynt Tal y Bont - cwestiwn o arweinyddiaeth
Yn ystod ei ymweliad byrhoedlog a'r Gogledd gwnaeth Carwyn Jones ddatganiad digon rhyfedd i'r Daily Post:
But facing calls from Plaid Cymru for planned drainage works at the Aber/Tai Meibion section of the A55 to be stepped up, the First Minister stood firm, adding: There was a plan in 2009 to deal with the A55, the Plaid Cymru minister at the time decided not to press on with those proposals. But we want to make sure those works can move on now in January 2017.
Rwan yn anffodus mae hyn yn edrych fel ymgais fwriadol i gamarwain etholwyr gan Brif Weinidog yn y misoedd cyn etholiad Cynulliad. Fel mewn llawer o ymgeisiadau i gamarwain mae'n defnyddio'r dechneg o gywasgu dwy stori debyg i un stori, ac wedyn cymryd yr hyn mae ei angen i gamarwain o'r stori newydd.
Mae'n wir bod cynllun i uwchraddio'r A55 heb fynd rhagddo pan oedd Ieuan Wyn Jones yn gyfrifol am ffyrdd yn ol yn 2009. Ond nid cynllun delio efo llifogydd oedd hwnnw, uwchraddiad cyffredinol oedd o. Ni fyddai wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i'r llifogydd yn ardal Tal y Bont / Abergwyngregyn. Byddai gormodedd dwr yn y caeau cyfagos wedi gwneud ei ffordd i'r A55 yr un fath yn union.
Rhoddodd Cyngor Gwynedd gynllun at ei gilydd i ddelio efo llifogydd yn yr ardal dan sylw yn dilyn llifogydd yn 2012. Cynllun penodol i ddelio efo llifogydd oedd hwnnw. Byddai wedi sicrhau bod gormodedd dwr yn cael ei ffrydio i Afon Ogwen cyn iddo gyrraedd yr A55. Gofynwyd am adnoddau i ariannu'r cynllun gan Lywodraeth Cymru, ond ni ryddhawyd yr £1.5m y fyddai ei angen i weithredu'r cynllun gan lywodraeth Carwyn Jones. Pe byddai'r adnoddau wedi eu rhyddhau byddai'r gwaith wedi ei wneud tros haf y llynedd, ac ni fyddai llanast Gwyl San Steffan erioed wedi digwydd. Efallai bod Mr Diog yn ddiog, ond dydi o ddim digon diog i wneud ychydig o gamarwain.
Mae yna ddau bwynt yn codi o hyn oll. Yn gyntaf mae 'n ymddangos o ddatganiad Carwyn Jones ei fod o dan yr argraff bod y cynlluniau i uwchraddio'r A55 yn 2017 am ddelio efo'r broblem llifogydd yn Tal y Bont / Abergwyngregyn. Dydyn nhw ddim. Os mai dyna 'r unig beth sydd ganddo i'w gynnig bydd yr un lle yn cael ei foddi y flwyddyn nesaf, neu 'r un wedyn, neu 'r un wedyn. Os yw eisiau delio efo'r broblem mae o angen rhyddhau'r arian i weithredu cynllun Cyngor Gwynedc a chael y gwaith wedi ei wneud tros yr haf. Haf 2016.
Mae'r ail yn ymwneud ag arweinyddiaeth. Dydi'r diogi a'r ymlwybro araf i 'r Gogledd mewn cyfnod o argyfwng heb adlewyrchu 'n dda ar arweinyddiaeth Carwyn Jones. Dydi 'r ras wyllt yn ol i lawr i'r De heb adlewyrchu'n dda arno fo chwaith, na 'r addewid brysiog i ddod yn ol i'r Gogledd eto. Mae'r dyn yn edrych yn fwy tebyg i io io nag arweinydd. Ond dydi camwarwain ddim yn adlewyrchu 'n dda ar ei arweinyddiaeth chwaith. Fel mae'r blog yma wedi pregethu trosodd a throsodd yn y gorffennol, 'dydan ni ddim yn ceisio camarwain y sawl rydym yn eu parchu. Os ydi Carwyn Jones yn parchu pobl Tal y Bont - a Chymru 'n ehangach, dylai dderbyn ei gyfrifoldebau, cyfaddef i fethiant pan mae angen gwneud hynny, a mynd ati i unioni'r methiant yn hytrach na cheisio hwrjo'r gyfrifoldeb am ei fethiannau ei hun ar eraill trwy gamarwain yr etholwyr.
Friday, January 01, 2016
Diwedd drwg i 2015 i Mr Diog
I'r sawl yn eich plith sydd ddim ddigon hen (neu o bosibl ddigon ifanc) i gofio'r cymeriadau rhaglen plant Mr Men, nodaf ddisgrifiad o un o'r cymeriadau hynny - Mr Lazy - 'dwi wedi ei godi o Wikipedia.
Number 17
Where does he live?
Sleepyland
Mr Lazy is the laziest person in the world. He can sleep for hours upon hours upon hours. In Lazyland, they don't even get up in the morning, they get up in the afternoon. One day, when Mr Lazy was taking a nap outside in a chair, he was woken up suddenly by the sound of someone shouting "WAKEUPWAKEUP!". That person was in fact two people, Mr Busy and Mr Bustle. These strange two men made sure that Mr Lazy got to work as there was wood to chop, floors to clean, coal to get, windows to polish, and a lot more things. Mr Lazy had never done this much work in his life, but luckily for him, the two visitors only turned out to be a big dream!
Mr Lazy Facts:
• In Sleepyland, there are only 4 hours in the day, instead of our usual 12!
• Mr Busy and Mr Bustle made Mr Lazy go on a walk as well as doing the chores.
• When they blew a whistle to make him run, it only turned out to be his kettle that he left on!
Mae gen i ofn i Brif Weinidog Cymru - Carwyn Jones - fy atgoffa braidd o Mr Diog tros ddyddiau olaf 2015. Ei ymateb cadarn a chyflym i'r llifogydd yng Ngogledd Cymru oedd y trydariad isod.
A dyna fo am bedwar diwrnod. Wedi hir a hwyr ymlwybrodd tua'r Gogledd (wedi anogaeth Mr Busy a Mr Bustle yn ddi amau), egluro iddo aros i ffwrdd cyhyd rhag bod o dan draed, ymweld a chwpl o lefydd, sefyll ar ben pont i edrych ar yr A55 a'i gwneud hi am adref mor gyflym a roedd ei anian yn caniatau er mwyn ceisio ei gwneud hi adref erbyn dathliadau'r flwyddyn newydd.
Ac yna - och a gwae - mae rhywun yn dweud wrth Mr Busy a Mr Bustle bod trigolion Tal y Bont a gohebwyr wedi bod yn sefyll yn y glaw yn disgwyl i siarad efo Mr Diog. Felly dyma orfod ymlwybro'n ol i'r Gogledd pell unwaith eto, gan obeithio cyrraedd yno mewn pedwar diwrnod arall.
Thursday, December 31, 2015
Diolch _ _
_ _ i bawb fu'n ddigon caredig i alw draw yn ystod y flwyddyn.
Fel y gwelwch bu 'n flwyddyn mwy llewyrchus na'r un arall ers i ni ddechrau cyfri yn hwyr yn 2008. Yn wir mae'r cyfanswm o ymweliadau unigryw - y mesur pwysicaf - wedi cynyddu pob blwyddyn ers hynny. Mae'r niferoedd yn arbennig o foddhaus ag ystyried bod llawer llai o flogio heddiw - yn arbennig blogio trwy gyfrwng y Gymraeg - nag oedd pan gychwynodd y blog.
Bydd yn anodd gwneud yn well y flwyddyn nesaf - ond mi wnaf fy ngorsu.
Awgrym am adduned blwyddyn newydd - cyfrannu i fuddugoliaeth i Blaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd
IUn o'r cwestiynau sy'n cael ei godi'n aml yn sgil llwyddiant ysgubol yr SNP tros y blynyddoedd ddiwethaf ydi - Pam bod Cymru'n wahanol?
Mae sawl ateb i'r cwestiwn hwnnw - ac mae'n fater cymhleth. Thema ar gyfer blogiad arall o bosibl. Ond un rheswm ydi bod yna hollt yng Nghymru nad yw'n bodoli yn yr Alban - un ieithyddol. Oherwydd bod cefnogaeth Plaid Cymru yn gryfach yn y Gorllewin yn gyffredinol a'r Gorllewin Cymraeg ei iaith yn benodol mae wedi bod yn weddol hawdd portreadu cenedlaetholdeb Cymreig fel rhywbeth sy'n perthyn i siaradwyr Cymraeg. Gan mai tua phumed o 'r boblogaeth sy'n siarad yr iaith, mae'r canfyddiad yma'n cael negyddol ar hynt etholiadol y Blaid.
Tra'n cydnabod nad ydym fel plaid wedi gwneud digon i wrth wneud y canfyddiad yma yn y gorffennol, mae hefyd yn wir i ddweud bod y pleidiau unoliaethol wedi defnyddio'r iaith yn eithaf di drugaredd i lesteirio ar dwf y Blaid yn yr ardaloedd di Gymraeg. Os ydi'r Blaid am ddatblygu i fod yn brif blaid Cymru - ac mae'n bwysig er lles y wlad bod hynny'n digwydd yn gynt yn hytrach na'n hwyrach - mae'n hanfodol bod y canfyddiad ffug mai rhywbeth i Gymry Cymraeg yn unig ydi cenedlaetholdeb Cymraeg yn cael ei ddad wneud yn llwyr.
Does yna ddim ffordd well i wneud hyn na thrwy ennill sedd Cynulliad ddinesig - un y tu allan i'r Gymru Gymraeg, ac yn wir y Gymru Gymreig. Does yna ddim gwell cyfle i gyflawni'r gamp honno na'r cyfle a ddaw yng Ngorllewin Caerdydd y flwyddyn nesaf.
Fel mae'r enw'n awgrymu mae'r etholaeth yn cwmpasu Gorllewin y brifddinas - wardiau Caerau, Treganna, Creigiau/Sain Ffagan, Trelai, Tyllgoed, Llandaf, Pentyrch, Radyr, a Glan yr Afon i'r sawl yn eich plith sy'n adnabod y ddinas yn dda.
Ar yr olwg gyntaf nid dyma'r etholaeth fwyaf enilladwy yng Ngymru. Trydydd oedd y Blaid yn etholiadau San Steffan 2015 a Cynulliad 2011, dwy sedd cyngor sydd ganddi yn yr etholaeth (y ddwy yn y Tyllgoed) ac ni lwyddwyd i ennill yr un o'r is etholiadau a gafwyd yn yr etholaeth ers 2011.
Ond o graffu mae'r rhagolygon yn well - yn well i lawer. Er enghraifft o graffu ar berfformiad 2015 dwblodd y Blaid ei phleidlais gan symud ymlaen 6.9% - y trydydd perfformiad gorau yng Nghymru o ran cynyddu canran y bleidlais. Dim ond yn y Rhondda ac Arfon y cafwyd mwy o gynnydd. Cafwyd cwymp hefyd ym mhleidlais y dair blaid unoliaethol draddodiadol.
O edrych ar y gyfres o is etholiadau a gafwyd ers 2011 mae'n amlwg bod y Blaid - pan rydym y tu hwnt i amgylchiadau arbennig etholiad cyffredinol - yn rhedeg yn ail, ac ail cryf. Mae'r blog yma wedi rhybuddio yn erbyn darllen gormod i is etholiad unigol yn y gorffennol - ond mae yna batrwm amlwg iawn yma. Wele is etholiadau Glan yr Afon (dwy ohonynt,), Treganna a Phentyrch.
Ac mae yna ffactorau eraill sydd o gymorth i'r Blaid yma hefyd. Fel mae'r blog yma wedi croniclo - mae'r argyfwng yng ngrwp Llafur Cyngor Caerdydd yn mynd o ddrwg i waeth - gyda'r grwp bellach yn cael ei fonitro gan y Blaid Lafur 'Gymreig'. Mae Mark Drakeford yr aelod cynulliad presenol yn gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd - y methiant gwaethaf o holl fethiannau llywodraeth Cymru.
Mae amgylchiadau ehangach hefyd yn milwrio yn erbyn Llafur - mae cyfuniad o'r ffraeo di ddiwedd ymysg arweinwyr y Blaid Lafur Brydeinig, record dreuenus y Blaid Lafur Gymreig mewn llywodraeth a'r teimlad o lywodraeth wedi blino llywodraethu. Bydd datganiadau polisi'r Blaid tros y misoedd nesaf yn cymharu'n ffafriol iawn efo'r diffyg uchelgais a dychymyg sy 'n nodweddu cyfeiriad llywodraeth Carwyn Jones. Dwi ddim yn meddwl bod y Toriaid wedi mynd ati i ddewis ymgeisydd eto chwaith.
Ac wedyn mae yna bersenoliaethau'r prif ymgeiswyr. Mae Neil McEvoy - ymgeisydd y Blaid - yn hynod adnabyddus ar lawr gwlad (neu lawr stryd efallai) Gorllewin Caerdydd. Mae'n gyn ddirprwy arweinydd y cyngor, yn gynghorydd lleol yn y Tyllgoed, ac wedi cymryd rhan mewn nifer dirifedi o ymgyrchoedd lleol - bach a mawr - yng Ngorllewin Caerdydd. Nid yn aml y gellir dweud bod gweinidog yn y llywodraeth yn llai adnabyddus yn ei etholaeth ei hun nag ymgeisydd sy'n sefyll yn ei erbyn - ond dyma un eithriad.
Mae yna gyfle gwirioneddol i'r Blaid wneud rhywbeth sydd heb ei wneud o'r blaen yma - cael gynrychiolaeth genedlaethol mewn ardal ddinesig. Yn wir ychydig iawn o gynghorwyr sydd wedi eu hethol ar ran y Blaid mewn dinasoedd tros y degawdau.
Felly gwnewch rhywbeth i helpu. Os ydych yn byw yng Nghaedydd cymrwch ran yn yr ymgyrch. Mae yna sesiwn bamffledu yn cychwyn am 10:30 o siopau Wilson Road yn Nhrelai er enghraifft. Os nad ydych mewn sefyllfa i ymgyrchu, beth am wneud cyfraniad trwy Crowdfunder?
Os na fedrwch chi wneud hynny chwaith, gallwch ddarparu linc i'r wefan codi arian ar eich gwefannau cymdeithasol.
Mae'n gyfle gwych i gyfranu i ganlyniad hanesyddol.
Tuesday, December 29, 2015
Ariannu gwleidyddol yn arwain at embaras cenedlaethol a rhyngwladol
Mae'n debyg nad oes yna unrhyw symbol mwy pwerus nad ydi 'r Gogledd - nag unrhyw le i'r gogledd o Ferthyr - yn flaenoriaeth o unrhyw fath i lywodraeth Cymru na'r A55 a'r diffyg sylw gaiff honno. Mae hefyd yn symbol o'r arfer o benderfynu ar y defnydd o arian cyhoeddus mewn cyd destun gwleidyddol - rhywbeth sy'n nodweddu'r Gymru ddatganoledig. I'r sawl yn eich plith sydd ddim yn gyfarwydd efo'r anghenfil yma, dyma bwt o gefndir.
Yr A55 ydi rhan gyntaf y brif ffordd rhwng Dulyn a Brussels. Mae'n rhedeg o Gaergybi i Gaer ac mae'n ffordd ddeuol ar ei hyd ag eithrio pan mae 'n croesi'r Fenai ar Bont Britannia. Mae yna dagfeydd dyddiol yn y fan honno - yn ystod oriau brig ac o gwmpas amser cinio yn fuan wedi i nifer o longau fferi ddocio yng Nghaergybi. Oherwydd natur tirwedd Gogledd Cymru bu'n rhaid tyllu nifer o dwneli yn ardal Penmaenmawr a cheir twnel sylweddol o dan aber Afon Conwy.
Cwblhawyd y rhan sy'n ymestyn o Gaergybi i Bont Britannia yn 2000 gydag arian o gynllun PFI. Fel y rhan fwyaf o waith a wnaed o dan y cynllun ariannu ideolegol adain Dde yma mae wedi bod yn ddrud iawn, ac wedi arwain at drosglwyddiad adnoddau sylweddol o'r sector gyhoeddus i'r sector breifat. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gorfod talu £193m o dan amodau'r cynllun hyd yn hyn – £100m oedd cost gwreiddiol y gwaith. Mae'n debyg y bydd mwy na £400m wedi ei wario erbyn i 'r taliad olaf gael ei wneud yn 2028.
Fel sy'n wir am y rhan fwyaf o lonydd eraill mae'r defnydd ohoni wedi cynyddu'n sylweddol ers ei hadeiladu, a gall unrhyw waith ffordd achosi anrhefn a thagfeydd sylweddol - yn arbennig os ydynt yn cael eu cynnal yn agos at ardaloedd poblog arfordir Gogledd Cymru. Mae yna rannau o'r lon hefyd sydd a hanes o ddioddef oherwydd llifogydd. Cafodd yr ardal waethaf - yr un ger Abergwyngregyn / Talybont yn nwyrain Gwynedd ei boddi ddeuddydd yn ol, ar Wyl San Steffan, gan gau un o ffyrdd cysylltu pwysicaf dwy wlad - Cymru a'r Iwerddon. Yn wir gan bod yr A5 a'r A470 yn ogystal a dwsinau o fan ffyrdd wedi gor lifo ar yr un pryd, roedd Gogledd Orllewin Cymru wedi ei dorri i ffwrdd oddi wrth weddill y Byd i bob pwrpas am gyfnod. Parhaodd y sefyllfa ar yr A55 am y rhan fwyaf o Wyl San Steffan, a bu'n rhaid i drigolion Aber ddioddef anhrefn, llanast ac anghyfleustra sylweddol.
Rwan glaw ydi glaw a llifogydd ydi llifogydd a dwr ydi dwr. Mae Gogledd Orllewin Cymru ymysg y llefydd gwlypaf yn y Byd. Ond yn achos yr A55 ochrau Abergwyngregyn / Talybont mae'r llifogydd yn gwbl ragweladwy. Mae'r un rhan o'r lon wedi cael ei foddi dair neu bedair gwaith tros y pum mlynedd diwethaf. Nid yn unig hynny, ond cafodd cynllun ei greu gan Gyngor Gwynedd i fynd i'r afael a'r sefyllfa wedi i rhywbeth tebyg i ddigwyddiadau dydd Sadwrn ddigwydd yn 2012. Cost gwireddu'r cynllun fyddai tua £1.5m. Gwrthododd Llywodraeth Cymru ryddhau'r adnoddau, er bod Carl Sargeant wedi tyngu na fyddai'r A55 yn cael ei boddi yn Aber yn dilyn llanast 2012.
Yn y cyfamser, i lawr ar goridor yr M4 mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwario £38m ar uwchraddio 'r M4 ger Twnel Brynglas yng Nghasnewydd. Bydd y cynllun hwnnw yn costio £1bn ar y lleiaf un erbyn ei gwblhau.
Tra bod Cameron wedi bod yn mynd o gwmpas Gogledd Lloegr yn ei welingtons, dydi Carwyn Jones ddim wedi cynhyrfu rhyw lawer. Ymddengys ei fod wedi penderfynu peidio cymryd y risg o gael socsan yn y Gogledd, ac felly mae wedi aros adref. Fel y gwelir o'r llun gall ddod o hyd i'r Gogledd yn iawn pan mae'r tywydd yn braf ac etholiad yn agos.
Ond mae yna fwy o fynd yn Carl Sargeant. Mae yntau o leiaf wedi gwneud ei ffordd i ddwy ardal sydd wedi dioddef efo'r llifogydd - Llanelwy a Llanrwst. Yn anffodus 'dydi o heb lwyddo i gael ei hun i Dalybont - efallai mai embaras oherwydd ei addewidion gwag sy'n gyfrifol am hynny - neu efallai'r ffaith bod Aber yn Arfon lle nad oes gan Lafur obaith caneri ym mis Mai, tra bod Llanelwy a Llanrwst mewn etholaethau lle mae cefnogaeth Llafur ychydig yn gryfach. Pwy a wyr?
Fel awgrymwyd ar y cychwyn mae'r holl stori anymunol yn dweud y cwbl sydd angen ei ddweud am yr hyn ydi Cymru heddiw. Mae'n wlad sy'n cael ei rhedeg gan blaid oedd o'r dechrau'n deg yng Nghymru yn gweld diwallu anghenion grwpiau o'i chleiantiaid ei hun fel rhan o'i phwrpas creiddiol. O gael ei dwylo - ar delerau parhaol hyd yn hyn - ar lefrau grym yn sgil datganoli aeth ati i weithredu ar y reddf honno bymtheg y dwsin.
Un canlyniad ydi anghydbwysedd gwariant - lle mae mwy o wariant cyfalaf mewn ardaloedd Llafur na mewn lleoedd eraill, lle mae awdurdodau lleol mewn ardaloedd Llafur yn cael eu hariannu yn well nag awdurdodau lleol eraill, lle mae ysgolion mewn ardaloedd Llafur yn cael eu hariannu'n well na rhai mewn ardaloedd eraill, ac ati, ac ati.
Canlyniad arall ydi diwylliant lle mae byrddau cyhoeddus yn cael eu stwffio efo cefnogwyr ac aelodau'r Blaid Lafur, lle ceir disgwyliad o ffyddlondeb i 'r Blaid Lafur gan gyrff cyhoeddus a lle mae'r cyfryngau newyddion Cymreig wedi eu sugno i mewn i'r ragdybiaeth ei bod yn hollol naturiol i ddylanwad plaid wleidyddol benodol ymgyraedd i pob twll a chornel o fywyd cyhoeddus y wlad.
Canlyniad hynny yn ei dro ydi llywodraethiant sydd a'i blaenoriaethau wyneb i waered a chanlyniad hynny yn ei dro ydi llywodraethiant aneffeithiol. Llywodraethu llwythol sydd i raddau helaeth yn gyfrifol am y methiannau a than berfformio di ddiwedd mewn meysydd datganoledig yng Nghymru.
Mae'n bryd newid llywodraeth er mwyn cael byw mewn gwlad decach - gwlad lle mae pethau'n gweithio'n well. Daw cyfle ym mis Mai.
Monday, December 28, 2015
Radio Cymru i 'r di Gymraeg
Mi fydd gwrandawyr rheolaidd Radio Cymru yn gwybod bod nifer gymharol fach o aelodau o 'r pleidiau unoliaethol yn cael eu dewis i baldaruo yn rhyfeddol o aml ar yr orsaf. Yr eithafwr o Dori - Felix Aubel - ydi un o'r rhain - Duw a wyr pam, dydi o ddim yn wleidydd - gweinidog yr Efengyl ydi o.
Ta waeth, dwi ddim yn cwyno'n ormodol - mae'n anodd dychmygu bod y cymysgedd rhyfedd o rwdlan arall fydol ac eithafiaeth adain Dde yn gwneud unrhyw beth ond drwg i blaid Felix. Ond yr hyn sydd ychydig yn bisar ydi'r ffaith ei fod mor awyddus i hysbysu'r ymddangosiadau radio ar ei gyfri trydar, a hynny'n uniaith Saesneg. Mae'r cyfri i bob pwrpas yn un uniaith Saesneg, ond byddai dyn yn disgwyl y byddai'n cyfaddawdu rhyw fymryn ar ei reol Saesneg ac yn hysbysu rhaglenni uniaith Gymraeg trwy gyfrwng y Gymraeg. Wedi 'r cwbl go brin bod unrhyw un sydd methu deall y Gymraeg am drafferthu i wrando ar y rhaglenni Cymraeg mae Felix yn eu hysbysu 'n Saesneg.
Ond wedyn efallai mai ymarferiad di bwrpas ydi ceisio deall sut mae meddwl Felix yn gweithio.
Cymru a dull pleidleisio STV
Digwydd sylwi ar y sylwadau yma sy'n rhan o ddadl faith rhwng David Taylor, Dafydd Trystan ac eraill ar trydar y bore 'ma wnes i.
Dadl oedd hi ar y gyfundrefn etholiadol yng Nghymru - roedd Dafydd yn awgrymu trefn STV gyda thair sedd i pob etholaeth, ac roedd David yn awgrymu y byddai hynny o fantais i'r trydydd blaid - hy Plaid Cymru. Dydi'r canfyddiad hwnnw ddim yn un cywir - neu ddim yn un cyson gywir - fel y cawn weld yn ddiweddarach. Dull pleidleisio a ddefnyddir yn Iwerddon a'r Alban mewn etholiadau lleol ydi STV.
Efallai y dyliwn gychwyn trwy roi eglurhad brysiog o sut mae'r dull yn gweithio. Mae i pob etholaeth fwy nag un aelod (3-5 yn achos etholiadau Dail Eireann yn Ne Iwerddon, 6 yn achos etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon). Caiff yr etholwr bleidleisio i gymaint, neu gyn lleied o ymgeiswyr ag mae eisiau, ond rhaid gwneud hynny mewn trefn - 1,2,3,4 ac ati. Y bleidlais gyntaf a gyfrifir yn gyntaf. Os, o gyfri'r pleidleisiau cyntaf, bod un ymgeisydd yn cyrraedd y trothwy i gael ei ethol (quota) yna fe'i etholir. Mae union faint y trothwy yn ddibynnol ar sawl sedd sydd i'w dyrannu - os mai tair sydd ar gael mae'r trothwy yn 25% + 1, os mai 4 mae'n 20% + 1, os yw'n 5 mae'n tua 16.5% + 1, ac os yw'n 6 mae'n tua 14.5% + 1.
Gyda bod rhywun wedi cyrraedd y trothwy bydd ei bleidleisiau ychwanegol (hy y nifer sy'n uwch na'r trothwy) yn cael eu dosbarthu (yn unol a'r ail ddewis). Os nad oes rhywun yn cyrraedd y trothwy wedi rownd o gyfri, bydd yr ymgeiswyr ar y gwaelod yn cael eu tynnu allan a bydd eu hail (neu drydydd) pleidleisiau yn cael eu dosbarthu. Bydd y broses yma'n mynd rhagddi, tan y bydd pob sedd wedi ei llenwi - gan amlaf trwy gael y nifer anghenrheidiol o ymgeiswyr yn cyrraedd y trothwy. O ganlyniad bydd pob etholaeth efo mwy nag un aelod. Gall nifer o'r aelodau fod o'r un plaid (mae 5 o 6 aelod Cynulliad West Belfast yn perthyn i Sinn Fein er enghraifft), neu gall pob un fod o bleidiau gwahanol.
Gyda bod rhywun wedi cyrraedd y trothwy bydd ei bleidleisiau ychwanegol (hy y nifer sy'n uwch na'r trothwy) yn cael eu dosbarthu (yn unol a'r ail ddewis). Os nad oes rhywun yn cyrraedd y trothwy wedi rownd o gyfri, bydd yr ymgeiswyr ar y gwaelod yn cael eu tynnu allan a bydd eu hail (neu drydydd) pleidleisiau yn cael eu dosbarthu. Bydd y broses yma'n mynd rhagddi, tan y bydd pob sedd wedi ei llenwi - gan amlaf trwy gael y nifer anghenrheidiol o ymgeiswyr yn cyrraedd y trothwy. O ganlyniad bydd pob etholaeth efo mwy nag un aelod. Gall nifer o'r aelodau fod o'r un plaid (mae 5 o 6 aelod Cynulliad West Belfast yn perthyn i Sinn Fein er enghraifft), neu gall pob un fod o bleidiau gwahanol.
Ond dydan ni ddim yn gorfod chwilio ymhell i ddod o hyd i etholaethau tair sedd sydd ddim yn ffafrio'r trydydd blaid. Donegal South West er enghraifft. Yma y bedwerydd plaid sy'n elwa o'r drefniant tair sedd - Thomas Pringle. Dydi'r trydydd plaid ddim hyd yn oed yn cael sedd.
Yn Dublin North West yr ail blaid (SF) sy'n elwa. Byddai pedair sedd wedi sicrhau sedd i'r trydydd blaid (FG), ond byddai dwy sedd wedi arwain at un yr un i SF a Llafur.
Ym Meath East y trydydd plaid sydd yn elwa o gyfundrefn tair sedd ond ar draul yr ail - unwaith eto mae FF yn methu a sicrhau sedd.
Y trydydd plaid (Llaf) sy'n elwa o drefn pedair sedd Dinas Limerick. Petai'r etholaeth yn un tair sedd dim ond FG a FF fyddai wedi ennill sedd.
Yn Dublin Mid West mae'r ddwy brif blaid yn elwa o drefn pedair sedd - byddai trefn tair sedd wedi elwa'r ail blaid (Llaf). Byddant wedi cael mwy o drosglwyddiadau mewn etholaeth fel Dublin Mid West. Byddai pum sedd wedi sicrhau sedd i'r trydydd plaid (SF).
Yn Louth mae'r drefn bedair sedd yn elwa'r blaid gyntaf,(FG) petai yna ond tair sedd ar gael byddai FG yn colli un, petai pump ar gael, byddai 'r bedwerydd blaid (FF) yn cael sedd.
Dwi wedi dewis yr etholiadau hyn ar fympwy o etholiad 2011 yng Ngweriniaeth Iwerddon. Dwi ddim yn meddwl y byddai dewis gwahanol o etholaethau wedi dangos patrwm gwahanol iawn. Felly dydi David ddim yn gywir i ddweud y byddai cyfundrefn tair sedd yn fanteisiol i'r drydydd blaid, ond mae'n gywir y byddai'n anfanteisiol i Lafur. Mae rhyw gyfundrefn gyfrannol am fod yn anfanteisiol i'r blaid honno, oherwydd bod y drefn sydd ohoni o fantais iddynt.
Wedi dweud hyn oll rydw i'n bersonol yn anghytuno efo Dafydd Trystan ynglyn a nifer y seddi ym mhob etholaeth. Y ffordd y byddwn yn gwneud hyn ar lefel Cymru gyfan fyddai trwy ddiddymu'r etholaethau presennol a gwneud pob sir yn etholaeth seneddol, a dosbarthu seddi yn ol poblogaeth y siroedd hynny. Er enghraifft gellid rhoi un sedd ar gyfer pob 50,000 o bobl sy'n byw mewn sir, ac un arall ar ben hynny i pob sir. Byddai hyn yn rhoi tair sedd i Wynedd, dwy i Fon ac efallai 7 i Gaerdydd. Mi fyddai gan o leiaf dwy o'r pleidiau gynrychiolaeth ym Mon (mae'n debyg) a Gwynedd, ac mae'n debyg y byddai pob un o'r prif bleidiau gyda chynrychiolaeth yng Nghaerdydd. Byddai hyn yn golygu cynnydd yn y nifer o ASau Cymreig - i tua 82 (o 60).
Sunday, December 27, 2015
Edrych ymlaen i 2016 - rhan 2
Mi gawn ni olwg ar etholiadau Gogledd Iwerddon - sydd i'w cynnal ym mis Mai. O'r pleidiau sydd efo seddi ar hyn o bryd mae gennym Sin Fein a'r SDLP ar ochr genedlaetholgar pethau, y DUP, UUP, TUV a UKIP ar yr ochr unoliaethol - y Gwyrddion ac Alliance yn rhywle yn y canol.
O'r saith degau cynnar tan ddechrau'r ganrif yma roedd y bleidlais genedlaetholgar wedi cynyddu'n rheolaidd - roedd hyn yn cael ei yrru gan ddemograffeg - cynnydd yn y bleidlais Babyddol. Daeth hyn i ben yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda'r ochr unoliaethol yn cadarnhau eu goruwchafiaeth. Cynrychiolir hyn yn arbennig gan y ffaith i'r UUP adennill Fermanagh South Tyrone eleni - yr etholaeth eiconig a enillwyd gan Bobby Sands ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth yn 1981. Roedd y bleidlais genedlaetholgar wedi hollti yno tra bod y bleidlais unoliaethol yn unedig, ond roedd y canlyniad yn un anisgwyl serch hynny.
Nid newidiadau demograffig sy'n gyfrifol am hyn - mae yna dystiolaeth sylweddol bod y boblogaeth Babyddol yn parhau i gynyddu tra bod yr un Brotestanaidd yn gostwng. Mae'n debyg mai cwymp yn y niferoedd o Babyddion sy 'n pleidleisio a chynnydd yn y niferoedd Protestanaidd sydd ar waith.
Beth bynnag dwi ddim yn gweld llawer o newid ym mis Mai o gymharu a 2011. Mae'n debyg y bydd y blaid adain Chwith- PBP - yn cymryd un o seddi SF yng Ngorllewin Belfast (er y gallai sedd yr SDLP syrthio yr un mor hawdd), ond maent yn debygol o gael sedd ychwanegol yn Lagan Valley - ffliwc ystadegol oedd yn gyfrifol iddynt fethu yn 2011. Os ydi Martin McGuiness yn sefyll yn Foyle yn hytrach na Mid Ulster, gallai SF ddod o flaen yr SDLP ac ennill un o'u seddi yn ninas Derry.
Bydd y DUP yn gwneud yn dda yn Fermanagh South Tyrone er na wnaethant sefyll yno yn yr Etholiad Cyffredinol - mae eu harweinydd newydd Arlene Foster yn cynrychioli'r etholaeth, ond byddant yn colli sedd yn Gogledd Down os ydi Sylvia Hermon (yr aelod seneddol annibynnol) yn sefyll. Beth bynnag - fel hyn 'dwi 'n ei gweld hi.
Gogledd Belfast - DUP 3, SF 2, SDLP1
De Belfast - SDLP 2, DUP 2, Alliance 1, SF 1
Gorllewin Belfast - SF 4, SDLP 1, PBP 1
Foyle - SDLP 3, SF 2, DUP 1
De Down - SDLP 3, SF 2, DUP 1
Dwyrain Antrim - DUP 3, SF 1, Alliance 1, UUP 1
De Antrim - DUP 1, UUP 3, SF 1, Alliance 1
Gogledd Antrim - DUP 3, UUP 1, TUV 1, SF 1
Newry Armagh - SF 3', SDLP 1, UUP 1, DUP 1
Gorllewin Tyrone - SF 3', SDLP 1, UUP 1, DUP 1
Mid Ulster - SF 3', SDLP 1, UUP 1, DUP 1
Fermanagh South Tyrone - SF 3, DUP 2, UUP 1
Strangford - DUP 3, Alliance 1, UUP 1, UKIP 1.
Lagan Valley - DUP 3, UUP 1, Alliance 1, UKIP 1
Dwyrain Londonderry - DUP 3, UUP 1, SF 1, SDLP 1
Upper Bann - DUP 2, UUP 2, SF2.
Gogledd Down - DUP 3, UUP 1, Alliance 1, Gwyrdd 1.
Felly DUP 36 (-1) SF 29(-), UUP 16 (+1) SDLP 14( -) Alliance 8(-) UKIP 2(+1) PBP 1 (+1) TUV (-1) Gwyrdd 1 (-).
Un ddiflas mae gen i ofn - ychydig iawn o newid yn ol pob tebyg. Ond mae yna bosibilrwydd na fydd pethau yn mynd yn ol y disgwyl. Bydd yr etholiadau yn fuan ar ol y Pasg - a dathliadau Gwrthryfel 1916 - ac ar ben hynny mae'n debyg y bydd SF newydd gael etholiad dda yn y De - ac efallai y byddant mewn llywodraeth. Petai 'r cyfraddau pleidleisio Pabyddol yn codi yn sgil hynny, lle'r oedd yn y 90au, gallaii nifer o seddi anisgwyl syrthio i'r pleidiau cenedlaetholgar - ac yn arbennig felly SF. Does yna ddim ffordd o wybod os y bydd hynny 'n digwydd.
Saturday, December 26, 2015
Edrych ymlaen i 2016 - rhan 1
Mi fydd y flwyddyn nesaf yn un gyda nifer anarferol o etholiadau fydd o ddiddordeb i Flogmenai - etholiadau Cynulliad, Holyrood, Stormont, refferendwm Ewrop, etholiadau am Gomiwsiynwyr yr Heddlu, ac etholiad cyffredinol yng Ngweriniaeth Iwerddon. Byddwn yn edrych ymlaen at pob un ohonynt tros y diwrnodiau nesaf.
Fel y gwelwch o'r tablau mae'r system bleidleisio yn wahanol i'r un arferol - mae papurau'r sawl nad ydynt yn gyntaf neu'n ail yn cael eu ail ddosbarthu ac ail bleidleisiau yn cael eu cyfri os nad oes neb yn cyrraedd 50% o'r bleidlais ar ol y cyfri cyntaf. Yr ail beth i'w nodi ydi absenoldeb Plaid Cymru a'r trydydd ydi'r canrannau chwerthinllyd o isel a bleidleisiodd yn yr etholiadau. Mae'r tri ffaith yn arwyddocaol wrth edrych ymlaen i fis Mai.
Y peth cyntaf i'w ddweud ydi y bydd yn llawer anos i ymgeiswyr annibynnol y flwyddyn nesaf. Oherwydd bod yr etholiadau yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod ag etholiadau'r Cynulliad bydd y cyfraddau pleidleisio yn uwch o lawer, ac yn cael eu hymladd yng nghysgod ymgyrch y Cynulliad. Yn ychwanegol bydd peiriannau etholiadol y gwahanol bleidiau yn weithredol yn ystod cyfnod yr etholiad a bydd ymdrech yn cael ei gwneud i lusgo cefnogwyr y pleidiau allan i bleidleisio. Bydd gan Winston Roddick (os yw'n sefyll) y cymhlethdod ychwanegol bod llawer o'i bleidlais yn 2012 wedi dod o berfedd diroedd Plaid Cymru yn y Gogledd Orllewin yn absenoldeb y Blaid a bod nifer o wleidyddion y Blaid wedi ei gefnogi. Bydd y Blaid yn sefyll y tro hwn, ac mae gan yr ymgeisydd gysylltiadau agos efo'r Gogledd Orllewin a chefnogaeth gwleidyddion amlwg y Blaid. Mae'n bosibl i ymgeiswyr annibynnol ennill - ond mae'n anodd iawn. Yr unig lwybr mewn gwirionedd ydi dod yn ail i'r blaid gryfaf ac yna cael pleidleisiau tactegol y pleidiau sydd wedi dod yn drydydd, pedwerydd ac ati. 'Dwi ddim yn disgwyl serch hynny i unrhyw ymgeiswyr annibynnol gael eu hethol yn 2016.
O ran y ffigyrau moel mae'n anodd iawn gweld sut y gallai Llafur beidio ag ennill yn ardaloedd Gwent a De Cymru. Mae'n debygol y bydd y Toriaid yn colli Dyfed Powys ar yr ail bleidlais - hyd yn oed os byddant yn llwyddo i ddod ar y blaen yn y bleidlais gyntaf (sydd ddim yn debygol ). Bydd y rhan fwyaf o'r ail bleidleisiau yn mynd yn eu herbyn. Er gwaetha'r gystadleuaeth ffyrnig rhwng Llafur a Phlaid Cymru mae pleidleiswyr y naill blaid yn llawer mwy tebygol o roi eu hail bleidlais i'r llall nag i 'r Toriaid. Plaid Cymru sy'n debygol o elwa o hyn yn Nyfed Powys a byddwn yn disgwyl ennill yma.
Mae pethau yn debygol o fod yn dyn iawn yn y Gogledd - gyda chefnogaeth Plaid Cymru, Llafur a'r Toriaid yn weddol debyg ar lefel Cynulliad. Eto dwi ddim yn disgwyl i'r Toriaid ennill gyda naill ai Plaid Cymru neu Lafur yn ennill wedi'r ail gyfrif. Er nad yw Winston Roddick yn debygol o ennill, gallai effeithio ar y canlyniad. Petai 'n llwyddo i gymryd digon o bleidleisiau Plaid Cymru yn y gorllewin i'w hatal rhag dod yn y ddau le cyntaf, byddai hynny'n debygol o sicrhau'r sedd i Lafur petai nhw a'r Toriaid yn y ddwy brif safle.
Mae yna nifer o bethau sydd ymhell o fod yn glir y tro hwn. Er enghraifft mae'n dra anhebygol y gall UKIP (os ydyn nhw'n sefyll) ennill yn unrhyw un o'r pedwar rhanbarth, ond gallant gael effaith ar y canlyniadau. Tra bod UKIP yn effeithio ar pob plaid mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, mae'r effaith yn anghyson. Er enghraifft gallai diwrnod da i'r blaid adain dde arwain at bleidlais llawer is na'r disgwyl i Lafur yng Ngwent, neu'r Toriaid yn Nyfed Powys. Gallai arwain hefyd at bleidlais is na'r disgwyl i'r ddwy brif blaid unoliaethol yn y Gogledd.
Ac mae yna'r cwestiwn nid bychan o'r ymgeiswyr. Dydi hi ddim yn glir pwy fydd yn sefyll yn lle ar hyn o bryd - ond dwi 'n deall mai rhwng Tal Michael a David Taylor mae ymgeisyddiaeth Llafur yn y Gogledd. Dwi hefyd yn deall bod Mr Taylor wedi bod yn lobio aelodau - sy'n rhan o'r gem wrth gwrs. Mae'n debyg y bydd diffyg llwyddiant etholiadol Tal Michael yn pwyso ar aelodau Llafur yn y Gogledd - perfformiodd yn wael yn is etholiad Cynulliad Ynys Mon yn ogystal a'r etholiad am Gomiwsiynydd Heddlu yn 2012. Ond dydi record etholiadol Mr Taylor ddim yn wych chwaith. Ymddengys bod Llafur yn y Gogledd yn ystyried dau ymgeisydd sydd a hanes o fethu'n etholiadol. Gall hynny fod yn hynod bwysig pan ddaw diwrnod yr etholiad.
Subscribe to:
Posts (Atom)














































