Mi fydd gwrandawyr rheolaidd Radio Cymru yn gwybod bod nifer gymharol fach o aelodau o 'r pleidiau unoliaethol yn cael eu dewis i baldaruo yn rhyfeddol o aml ar yr orsaf. Yr eithafwr o Dori - Felix Aubel - ydi un o'r rhain - Duw a wyr pam, dydi o ddim yn wleidydd - gweinidog yr Efengyl ydi o.
Ta waeth, dwi ddim yn cwyno'n ormodol - mae'n anodd dychmygu bod y cymysgedd rhyfedd o rwdlan arall fydol ac eithafiaeth adain Dde yn gwneud unrhyw beth ond drwg i blaid Felix. Ond yr hyn sydd ychydig yn bisar ydi'r ffaith ei fod mor awyddus i hysbysu'r ymddangosiadau radio ar ei gyfri trydar, a hynny'n uniaith Saesneg. Mae'r cyfri i bob pwrpas yn un uniaith Saesneg, ond byddai dyn yn disgwyl y byddai'n cyfaddawdu rhyw fymryn ar ei reol Saesneg ac yn hysbysu rhaglenni uniaith Gymraeg trwy gyfrwng y Gymraeg. Wedi 'r cwbl go brin bod unrhyw un sydd methu deall y Gymraeg am drafferthu i wrando ar y rhaglenni Cymraeg mae Felix yn eu hysbysu 'n Saesneg.
Ond wedyn efallai mai ymarferiad di bwrpas ydi ceisio deall sut mae meddwl Felix yn gweithio.
3 comments:
Pa beth a wnelem heb gymeriadau fel Felix - mae fel crwt ar ochor arall y ffens i gymeriadau fel 'Bwlchllan' a 'Pontsian'. Mae eisiau pobol wahanol a dweud y gwir, ac mae Felix yn llanw bwlch heb os nac onibai.
Wel ia - dyna'n union mae Cymru ei angen - boi i egluro i ni pa mor ddrwg ydi tramorwyr.
"Mi fydd gwrandawyr rheolaidd Radio Cymru yn gwybod bod nifer gymharol fach o aelodau o 'r pleidiau unoliaethol yn cael eu dewis i baldaruo yn rhyfeddol o aml ar yr orsaf."
Rwy'n amau mai'r gwir yw mai'r rhain yw'r rhai sy'n fodlon cyfranu yn hytrach na'u bod yn cael eu dewis gan Radio Cymru.
Post a Comment