Thursday, November 13, 2008

Peter Hain yn y cachu drachefn?


Mae'n ddrwg iawn gan blogmenai ddeall bod yna hen bobl ddrwg, di egwyddor yn gwneud pethau yn anodd i Peter Hain druan unwaith eto. '

Gyda'r heddlu eisoes yn ymchwilio i ymddygiad Peter, byddai dyn wedi disgwyl iddo fod mymryn bach yn ofalus ynglyn a derbyn arian o ffynonellau tramor ac anghofio datgan hynny i'r awdurdodau priodol. Wedi'r cwbl gwneud cam ddefnydd o ffynonellau arian a'u sianelu trwy ddulliau dan din er mwyn hyrwyddo ei fuddiannau gwleidyddol ei hun ydi'r hyn mae'r heddlu yn ei ymchwilio ar hyn o bryd. Dydi'r broblem ddiweddaraf ddim yn anhebyg i hyn - ddim yn anhebyg o gwbl.

Diddorol gweld bod y brawd Wayne David yn un o'r siaradwyr yng 'nghynhadledd' Almaeneg Peter. Chwi gofiwch i Wayne wichian fel mochyn bach ar y ffordd i ladd dy am wythnosau pan cafodd Aelodau Seneddol Plaid Cymru eu hunain mewn mymryn o ddwr poeth wedi etholiadau'r Cynulliad y llynedd. Roedd hwnnw yn fater bach wrth yml gweithgareddau Peter Hain - gweithgareddau a allai fod yn rhai troseddol.

1 comment:

Alfred said...

Pryd nad yw e yn y cachu ac yn gaglau i gyd! Dyma ddyn sy'n ddigon parod i bwyntio bys, ond sy' ddim yn diolch i chi am ddangos y trawstiau yn ei lygaid ei hun, ayyb ayyb.