Thursday, July 14, 2011

Cynlluniau cynhyrfus diweddaraf Peter Hain

Mae'n ymddangos bod Peter Hain eisiau difa'r Cynulliad - sefydliad a ddaeth i fodolaeth yn rhannol oherwydd ymdrechion Peter.

Ymddengys ei fod yn meddwl y dylid cael 30 o aelodau ar gyfer y sefydliad fyddai oll wedi eu hethol yn uniongyrchol - o gymharu a'r 60 aelod presennol.  Byddai gan y Cynulliad felly lai na hanner nifer aelodau sydd gan y rhan fwyaf o gynghorau unedol yng Nghymru.  Byddai ganddo gymhareb o tua un aelod i 75,000 o etholwyr o gymharu ac un i pob 11,000 yng Ngogledd Iwerddon.  Byddai hefyd yn debygol o arwain at lywodraeth un plaid Llafur parhaol.  Mae'n debyg y byddai'n rhaid i'r bleidlais Lafur syrthio i lli na 30% cyn iddynt fethu a chael mwyafrif llwyr pe gwireddid cynllun Peter.  Yn 2007 cafodd Llafur 60% o'r seddi etholaeth gyda 32.2% o'r bleidlais.

Felly dyna freuddwyd fawr Peter ar gyfer y Senedd Gymreig - un o'r siambrau deddfu lleiaf o ran aelodaeth yn y Byd (os nad y lleiaf), sydd pob amser yn dychwelyd yr un blaid - hyd yn oed pan mae hyd at 70% o'r etholwyr yn pleidleisio yn ei herbyn.  Gwneud i ddyn feddwl am Ogledd Korea rhywsut.

Petai'r dyn wedi eistedd i lawr, crafu ei ben a meddwl am ffordd o ddifa hygrededd datganoli yng Nghymru, byddai wedi gwneud yn dda i feddwl am  ddull mwy effeithiol.

4 comments:

Dylan said...

Mae Hain yn awgrymu ethol 2 aelod via FPTP ym mhob etholaeth, felly byddai 60 aelod o hyd.

Ond mae dal yn syniad gwallgof. Dw i wir methu deall pam byddai cael ffiniau etholaethol gwahanol ar gyfer y Cynulliad a San Steffan yn creu cymaint o hafoc. Mae Hain yn dweud bod etholwyr yr Alban mewn penbleth llwyr gan fod etholaethau gwahanol ar gyfer Holyrood a San Steffan, ond does dim tystiolaeth รข hynny o gwbl hyd y gwela i.

Yr unig ymateb synhwyrol i'w honiad nad oes cymhelliad pleidiol-wleidyddol i'w syniad ydi chwerthin yn ei wyneb.

Gog Amlieithog said...

Ar ol ddarllen y straeon am awgrymiad Peter Hain, mae'n sonio i fi fel petai o'n eisio cadarnhau ac ehangu'r sefyllfa'r blaid Lafur yn y Cynulliad, ac felly yn creu sefyllfa ble ddim on un blaid fydd yn llywodraethu dros Gymru, cywirwch fi os dwi 'di camddeall.

Cai Larsen said...

Mae Hain yn awgrymu ethol 2 aelod via FPTP ym mhob etholaeth, felly byddai 60 aelod o hyd.

Diolch Dylan. Byddai dau aelod a FPTP yn sicrhau bod circa 30% i Lafur yn dod a 50%+ o'r seddi i Lafur.

Anonymous said...

Ond does dim gobaith caneri gydag e o gael y sistem yma....oes e?