Thursday, December 18, 2014

Pol diweddaraf Ashcroft

Mi fydd darllenwyr rheolaidd y blog yn gwybod fy mod yn hoff o bolio'r Arglwydd Ashcroft.  Mae'r ffordd mae Ashcroft yn mynd ati yn wahanol i'r cwmniau polio eraill i'r graddau ei fod yn polio etholaethau unigol ac yn edrych ar fathau gwahanol o etholaethau.  Mae hefyd yn gofyn dau gwestiwn am fwriad pleidleisio - barn gyffredinol a bwriad mewn etholaeth benodol.  Rydym yn gwybod bod tirlun etholiadol etholaethau penodol yn annog pobl i bleidleisio yn wahanol i sut y byddant yn arfer pleidleisio.  Mae hynny felly yn syniad synhwyrol.

Mae'r ymarferiad diweddaraf yn edrych ar etholaethau ymylol Tori / Llafur a seddi Llafur sydd mewn perygl o syrthio i UKIP, yn ogystal a sedd y Blaid Werdd - Brighton Pavilion.  Tra bod yr holl ymarferiad yn ddifyr, y canfyddiad cyntaf ar y tabl cyntaf sy'n arwyddocaol o safbwynt y blog hwn.

Mae pol Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn awgrymu bod pleidlais Llafur, y Toriaid,a'r Lib Dems am gwympo tra bod pleidlais UKIP a Phlaid Cymru am gynyddu.  O edrych ar y glo man mae'n amlwg bod UKIP yn niweidio pob plaid ond am Blaid Cymru, tra bod Plaid Cymru yn niweidio'r Lib Dems a Llafur yn arbennig, ond ddim UKIP.

Rwan, un pol ydi hwn wrth gwrs, ac mae'n anoeth i ddod i ormod o gasgliadau o bol unigol - yn arbennig felly un sy'n edrych ar sedd unigol - ac yn arbennig cyn bod pol Cymru gyfan diweddar gan UKIP yn awgrymu mai aros yn ei hunfan fydd y Blaid y flwyddyn nesaf.  Ond mae pol Ashcroft Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn dangos patrwm digon tebyg i bol blaenorol gan Ashcroft ym Mrycheiniog a Maesyfed, er nad oedd hwnnw'n awgrymu cwymp yn y bleidlais Lafur.

Mae'r ddwy sedd yn rhai gwahanol iawn i'w gilydd, ac mae hynny'n arwydd da ynddo'i hun.  Ond rhywbeth arall i'w ystyried ydi lleoliad Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn y De Orllewin.    Petai'r un patrwm yn dal mewn etholaethau cyfagos, yna byddai Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr yn ddiogel iawn i'r Blaid, a byddai Llanelli yn ymylol iawn - yn arbennig ag ystyried y gweithgarwch llawr gwlad sylweddol gan y  Blaid yn yr etholaeth honno.  Byddai'r Toriaid yn dal Penfro / Preseli heb fawr o drafferth hefyd.

Dau bol ni wnant haf wrth reswm, ond mae pethau'n dechrau edrych yn well i'r Blaid na maent wedi ei wneud ers cryn gyfnod.





2 comments:

Unknown said...

Mae hyn wir yn ddiddorol. Fel ymgeisydd seneddol mae'r casgliadau yn cyd-fynd a beth rydym yn ffeindio ar stepan drws (falle bod Llafur yn gwybod hyn hefyd - mae'n egluro fath o ymateb anhygoel rydym wedi gweld ganddynt yn Llanelli. Gwaith caib a rhaw sydd angen (fwy fyth os yn bosibl yn Llanelli!)

O ran mis Mai - Duw awyr beth ddigwyddith ond rydym yn gwneud popeth posibl i sicrhau ein bod yn creu hanes yn Llanelli. Fel dywed y Sais - gwyliwch y gofod!

YMLAEN at hanes yn 2015! Cam yn ol dim yn opsiwn - ymlaen yn unig!



Penderyn said...

Cofier hefyd fod arolygon Ashcroft hefyd wedi darogan cynnydd i'r Blaid yng Nghanol Caerdydd a Gogledd Caerdydd. Pedair pol etholaethol felly yn awgrymu cynnydd!