Sunday, December 14, 2014

Dechrau newydd i Gwm Cynon

Mae'n debyg y dylid llongyfarch Ann Clwyd ar gael ei hail ddewis yn ymgeisydd Llafur yng Nghwm Cynon.  Erbyn diwedd y senedd nesaf mae'n debygol y bydd yn ymylu at fod yn 85 oed. Er bod Ann wedi dod i enwogrwydd yn ddiweddar yn ymosod ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, am ei hymdrechion i ddechrau rhyfel Irac y bydd yn cael ei chofio orau.

Yn ystod yr amser pan roedd pob math o gelwydd yn cael eu rhaffu - bod Irac yn paratoi arfau niwclear, bod yr wlad yn llawn o arfau cemegol a biolegol, bod taflegrau gan Irac a allai gael eu tanio at y DU mewn tri chwarter awr, bod a wnelo'r wlad ag ymysodiadau 9/11, bod llwyth o awerynnau di beilot gan Irac yn barod i ledaenu nwyon gwenwynig tros bawb ac ati -  roedd Ann yn gefnogwraig llafar iawn  - os nad hysteraidd - i'r ymyraeth anghyfreithlon.  Yn wir roedd ganddi ei stori liwgar os bisar ei hun i'w daflu ganol y grochan fyrlymus o gelwydd a nonsens - roedd rhywun wedi dweud wrthi bod gan Saddam shredar pobl.  Dwi ddim yn tynnu coes.  Roedd o'r farn bod  Saddam yn taflu pobl yn fyw i mewn i shredar - traed yn gyntaf er mwyn iddynt weld beth oedd yn digwydd - i bwrpas eu troi'n fwyd pysgod.

Beth bynnag - arweiniodd y cymysgedd rhyfedd o gelwydd at ryfel, ac arweiniodd y rhyfel a'r anhrefn a ddilynodd y rhyfel at farwolaeth rhwng 110,000 a 650,000 o bobl.  Os ydych chi eisiau cymhariaeth 43,000 o sifiliaid Prydeinig a laddwyd yn ystod y Blits yn 1940 / 1941. 


Mae'r ffaith i'r rwdan ryfelgar, wenwynig yma gael ei dewis eto fyth yn dweud yr oll sydd angen ei ddweud am y Blaid Lafur Gymreig.

No comments: