Friday, December 26, 2014

Ffigyrau iaith Ynys Mon 68/69

Ffigyrau am Ynys Mon ydi'r diweddaraf i'w cymryd o'r gyfres o adroddiadau sydd wedi eu hanfon ataf gan William Dolben.  Rydan ni'n meddwl i'r ffigyrau gael eu coledu yn y flwyddyn 1968 / 1969.  

Dydi'r ffigyrau heb eu gosod mewn trefn gall - yn anffodus roedd pwy bynnag oedd yn gyfrifol am ddod a'r adroddiad at ei gilydd yn grwpio yn ol maint ysgol.  

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod yr iaith yn gyffredinol gadarnach nag oedd yn yr un cyfnod yng Ngheredigion, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu heddiw wrth gwrs.  Ceir tystiolaeth o Seisnigeiddio yn rhai o'r trefi - yn arbennig felly Amlwch, Porthaethwy a Chaergybi.  Mae'r patrwm a geir heddiw ym Mon o arfordir Seisnig a pherfedd dir mwy Cymreig i'w weld hefyd - er bod y canrannau bryd hynny yn uwch yn y rhan fwyaf o achosion nag ydynt heddiw.  

Mae ambell i syndod - mae'r canrannau iaith gyntaf yn is yn yr ardal Llanfairpwll / Llangefni nag ydyw heddiw yn ol pob tebyg.  Mae'n bosibl bod hyn yn ganlyniad i fudo mewnol - fel y gwelwyd yn yr ardal Caernarfon / Llanrug / Bethel yr ochr arall i'r Fenai. Mae'r iaith wedi ei chynnal yr ardal honno gan fudo o rannau Cymreig o'r Gogledd Orllewin gan bobl yn chwilio am waith a gwasanaethau.

Tra bod yr iaith wedi gwanio erbyn heddiw fel mamiaith plant, dydi'r patrwm ddim mor amlwg nag oedd yng Ngheredigion.  A fel yn yr adroddiadau eraill rydym wedi edrych arnynt, mae'r canfyddiad o symud o fyd Cymreig iawn i un Saesneg iawn yn or symleiddiad - roedd llawer o blant nad oeddynt yn siarad y Gymraeg fel mamiaith ar Ynys Mon yn chwe degau'r ganrif ddiwethaf.


Dwyran 57% y Gymraeg, 21.5% Saesneg, 21.5% y ddwy.
Carreglefn 84/8/8
Llanbedrgoch 91/9/0
Llandrygarn 100/0/0
Llanddeusant 81/13/6
Llanfachraeth 84/16/0
Llanddona 82/16/2
Llanfaethlu 56/41/3
Rhosybol 93/7/0
Talwrn 84/3/13
Ty Mawr 93/3.5/3.5
Llanddaniel 67/31/2
Llangaffo 73/27
Aberffraw 73/3/21
Bodffordd 89/11/0
Bryngwran 82/6/12
Brynsiencyn 72/24/4
Kingsland 40/53/7
Llandegfan 70/23/7
Llanfellech 61/32/7
Llanbedrgoch 92/7/1
Llanrhuddlad 72/15.5/12.5
Niwbwrch 73/15/12
Pentraeth 59/16/25
Rhoscolyn 35/64/1
Penrallt 50/46/4
Tyngongl 33/63/4
Bodedern 55/45/0
Bodorgan 74/24/2
Cemaes 50/50/0
Gaerwen 77/17/6
Llangoed 43/57
Gwalchmai 83/9/7
Llaingoch 44/54/2
Llanerch y Medd 89/9/2
Rhosneigr 46/54/0
Santes Fair 0/100/0
Beaumares 21/74/5
Llangaffo 37/63
Llanfairpwll 58/34/8
Amlwch 39/60/1
Llangefni 67/25/8
Thomas Ellis 30/69.5/0.5
Porthaethwy 34/65/1
Llanfawr 17/76/7
Y Parc 22/78/0

1 comment:

William Dolben said...

HYlo Cai,

Cofio darrllen yn Lloyd ardderchog Ckive Betts: Culture in Crisis, sylwad am Llangefni. Yn ôl Betts by cryn buddsoddi yn ardal Llangefni: ffatrïoedd newydd a bellu ond ni ddirywiodd y Gymraeg rhwng 1961 a 1971 yn sgil y datblygu economiaidd

With gwrs roedd Llangefni'n fwy Cymraeg nag Aberteifi ac Aberystwyth. Yn debycach I Dregaron a bu'r mewnfudo cynhenid / fewnol yn gaffaeliad I Gymreicttod y dref.