Saturday, December 20, 2014

Cofio etholiad cyffredinol 1983

IK1983 oedd yr etholiad diwethaf lle'r oedd yn ymddangos bod y gyfundrefn etholiadol yn y DU am gael ei thorri.  Nid UKIP a'r SNP oedd yn bygwth newid pethau bryd hynny, ond y glymblaid SDP / Rhyddfrywyr.

Hollt yn y Blaid Lafur yn sgil colli etholiad cyffredinol 1979 a lleoliad adain chwith y blaid honno o dan arweinyddiaethMichael Foot roddodd fodolaeth i'r SDP yn 1981. Gadawodd pedwar o aelodau blaenllaw'r Blaid Lafur - Roy Jenkins, David Owen, Shirley Williams a Bill Rogers, a daethant i gytundeb yn fuan efo Rhyddfrydwyr David Steel i beidio a sefyll yn erbyn ei gilydd.  Roedd y cyfryngau wedi mopio'n lan ar hyn oll wrth gwrs, ac fe gafwyd cyfres o fuddugoliaethau mewn is etholiadau.  Llwyddodd Simon Hughes i sicrhau y gogwydd mwyaf erioed mewn etholiad Prydeinig yn Bermondsey yn dilyn o bosibl yr ymgyrch etholiadol fwyaf gwenwynig erioed.  

Roedd y polau piniwn yn gadarnhaol iawn o safbwynt y gynghrair newydd.  Ym misoedd diwethaf 1981 a misoedd cynnar 1982 roeddynt ymhell, bell o flaen y ddwy brif blaid Brydeinig - roeddynt yn polio cymaint a 50% weithiau. 

Yna digwyddodd dau beth ar fwy neu lai yr un pryd - Rhyfel y Malfinas a gwelliant ym mherfformiad economaidd y DU.  Roedd diweithdra wedi croesi'r 3,000,000 ym mlynyddoedd cynnar llywodraeth Thatcher, ac roedd y wladwriaeth wedi bod ar ei gliniau ar sawl cyfrif economaidd.  Ail sefydlodd y Toriaid eu goruwchafiaeth yn y polau, ond roedd pethau'n agos iawn rhwng Llafur a'r Gynghrair.  Pan ddaeth etholiad 1983 cafodd y Toriaid 42.4% o'r bleidlais a 397 o seddi.  27.6% yn unig gafodd Llafur, ond daeth hyn a 209 sedd iddynt.  23 sedd yn unig oedd 25.4% y Gynghrair ei werth.  Roedd pleidlais Llafur wedi ei chanoli ar ddinasoedd ac ardaloedd diwydiannol / ol ddiwydiannol eraill, tra bod cefnogaeth y Gynghrair yn fwy cyson.  Felly mae ein cyfundrefn etholiadol yn gweithio - mae pleidlais gyson yn dod a rhy ychydig o seddi oni bai bod y gefnogaeth honno yn cyrraedd 40% i 45%.  Mae cefnogaeth gyson yn dod a llawer o seddi wedyn ( dyna pam bod rhai polau yn darogan y bydd yr SNP yn mynd a bron i pob dim yn yr Alban y flwyddyn nesaf).  

Ymunodd dwy blaid y Gynghrair yn dilyn etholiad 1987 a ffurfiwyd y Lib Dems.  Ni chafwyd 25% o'r bleidlais wedyn, ond daeth y Lib Dems yn llawer mwy effeithiol am dargedu seddi.  O'r naw degau ymlaen roeddynt yn cael llai o bleidleisiau ond mwy o seddi.  

Oherwydd UKIP dwi'n codi 1983 wrth gwrs.  Does yna neb yn disgwyl i UKIP gael 25% o'r bleidlais, ond mae'n fwy na phosibl y byddant yn cael tua 15%.  Maent yn sicr o ddal eu gafael ar Clacton, ond does yna'r un sedd arall yn un sicr iddynt - er bod rhai yn llawer llai tebygol nag eraill.  Mae'n fwy na phosibl y bydd UKIP yn cael dwywaith pleidlais y Lib Dems a llai na hanner eu haelodau seneddol.  

Yn ol yn 1983 daeth y Gynghrair yn ail yn 70% o seddi a enillwyd gan y Toriaid.  Dod yn ail, neu o leiaf gwneud yn barchus mewn amrediiad eang o seddi fydd hanes UKIP y tro hwn.  Ar yr un pryd bydd y Lib Dems yn colli llawer iawn (cannoedd o bosibl) o ernesau, ond byddant yn gystadleuol mewn ( o bosibl) chwe deg o seddi, a byddant yn ennill rhywbeth yn yr amrediad 20-35.  Mae hefyd yn bosibl gyda llaw - ar y ffigyrau sydd gennym ar hyn o bryd - y bydd yr SNP yn cael mwy o'r seddi na'r Lib Dems ac UKIP efo'i gilydd, er nad ydynt ond yn sefyll mewn 59 sedd.  
A dyna ni - mae'r oll o'r uchod yn bosibl os nad yn debygol - ac mae'n ganlyniad i system etholiadoul anarferol o anemocrataidd.  Yr hyn sy'n llai amlwg fodd bynnag ydi effaith pleidlais dda i UKIiP ar hynt a helynt y pleidiau eraill.  Mae'n siwr o gadw pleidlais y ddwy blaid unoliaethol fawr ii lawr.  Mae'n bosibl y byddant yn cael cyn lleied a 60% rhyngddynt.  Ond byddai pleidlais dda iddynt yn gallu effeithio ar  dynged llawer o seddi.  Mae yna nifer o'ri rhain yng Nghymru - Brycheiniog a Maesyfed, Trefaldwyn, Ynys Mon, Aberconwy a Llanelli yn eu plith.  

2 comments:

BoiCymraeg said...

Dwi'n rhagweld taw'r SNP fydd yn dod yn 3ydd o ran seddi, er bydd y Dems rhydd yn dod yn 4ydd agos.

Cymro said...

Diolch, dadansoddiad diddorol.

Un pwynt bach: Oni fyddai'n well dweud "Y Falklands" nag "Y Malfinas" gan fod yr ail yn gwrthwynebu'r hawl i ymreolaeth?