Monday, December 15, 2014

Ymgyrch Llafur yn Arfon yn mynd i'r cyfeiriad arferol _ _

_ _ _ hynny yw tua'r gwter.

Mae'n ymddangos bod eu hymgeisydd, Alun Pugh yn llafurio o dan yr argraff mai'r ffaith i bobl fotio i Blaid Cymru sy'n gyfrifol am y dreth llofftydd, TAW o 20% a thoriadau treth i'r cyfoethog.  Mae'n bosibl mai fo ydi 'r unig berson yn y Byd sy'n credu hyn.

Gan mai'r unig reswm i fotio trosto y gall Alun feddwl amdani ydi'r mantra arferol bod pleidlais i 'r Blaid yn bleidlais i'r Toriaid mewn gwirionedd, hoffwn gynnig her bach iddo.  Ydi Alun yn gallu cyfeirio at unrhyw etholiad cyffredinol mewn hanes etholiadol lle mae pleidleisiau i Blaid Cymru wedi arwain at lywodraeth Doriaidd?  Mae ganddo 21 etholiad i edrych arnynt ers i'r Blaid sefyll gyntaf yn 1929.  Mi fyddai jyst un yn gwneud y tro yn iawn.



Hefyd mae Alun yn parhau i feddwl ei fod am fod yn rhywbeth mwy nag aelod mainc gefn os caiff ei ethol - mae o dan yr argraff y gallai ddiddymu comisiynwyr yr heddlu petai'n cael ei ethol.

1 comment:

Elis said...

O styried fod Arfon (a Chaernarfon cyn hynny) yn sedd darged i Lafur, pryd oedd y tro dwytha iddyn nhw gael ymgeisydd credadwy, gwerth ei ethol i sefyll drostyn nhw mewn unrhyw etholiad?