Monday, May 26, 2014

Y Ffigyrau yn llawn

Mi gewch chi ddadansoddiad pan ga i funud i feddwl - dwi i fod ar fy ngwyliau.

Cliciwch ar y ddelweddau i'w gweld yn glir.

Dwi wedi dwyn y delweddau gan Welsh not British


5 comments:

William Dolben said...

Dim syndod i mi fod UKIP yn cael pleidleisiau yn y Fro Gymraeg gan fewnfudwyr o Saeson fyddai'n fotio i'r Torïaid ac yn y blaen gynt. Y rhai sy'n blagardio Cyngor Gwynedd. Sgwn i faint o Gymry a fwriodd eu pleidlais dros UKIP.....
Cwestiwn i Gai: Beth mae fotwyr Llain Gwynedd yn ei wneud? A oedd LL Gwynedd yn sefyll?

Ond pur bryder fod yr UKIP wedi gwneud mor dda nes dôd yn ail blaid yn y Rhondda, Merthyr a bellu. Roeddwn i`n meddwl fod yr hen syniad o Brydeindod wedi darfod ond ai apêl plaid sy'n hiraethu am yr ymerodraeth Brydeinig ynteu siom lethol hefo gwleidyddiaeth sy'n esbonio hyn? Neu hwyrach yr unig reswm ydi fod Cymru yn gaeth i'r cyfryngau Prydeinig adeg lecsiwn Prydain Fawr....

Tybed beth ddaw o fôts UKIP yn etholiad y cynulliad?

UKIP wedi arbed croen Jill Evans y tro'ma trwy ostwng pleidlais y Blaid Lafur

Yr unig lygedyn o obaith ydi os gall UKIP droi seddi diogel y cymoedd yn farginals dairffordd a helpu PC i ennill mewn llefydd fel Llanelli a hyd yn oed Rhondda a Chaerffili . Gwelais fod y Blaid Lafur ar y blaen yn y 80 o seddi pwysig a all newid dwylo adeg yr etholiad yn ôl Ashcroft. Effaith cystadleuaeth bedair neu bum ffordd lle gall plaid ennill hefo 23-25% o'r bleidlais os na fydd pobl yn pleidleisio'n dactegol

Ioan said...

Un pwynt bach William - yng Ngwynedd a Cheredigion oedd pleidlais isaf UKIP - 20% yn y ddwy sir.

Merthyr oedd eu canlyniad gorau (34%)

william dolben said...

Hylo Ioan,

Dwi'm yn dallt dy bwynt, sorri

Ioan said...

Fwy o ffaith nac o bwynt deud y gwir - do'n ni ddim yn anhytuno am unrhyw bwynt...!

William Dolben said...

diolch!
nid oedd pob Sais wedi fotio dros UKIP felly!!!!