Tuesday, May 20, 2014

Cip arall ar fyd bach cul a chwerw'r Blaid Lafur yn Arfon

Doeddwn i ond newydd sgwennu'r blogiad am negyddiaeth neges etholiadol Llafur yn Arfon ddoe pan ddaeth stori arall i law am naratif etholiadol y blaid leol ar y stepan drws - mae pleidlais i Blaid Cymru yn wastraff o bleidlais oherwydd nad oes ganddyn nhw dim ond tri aelod.

Rwan os ydi rhywun yn eistedd yn ol a meddwl am oblygiadau gweithredu ar y canfyddiad na ddylid ond pleidleisio tros bleidiau efo niferoedd mawr o aelodau etholedig, mae'n amlwg y byddai'r goblygiadau yn - wel lloerig.  Er enghraifft mae'n amlwg nad ydi Plaid Lafur Arfon yn credu y dylai pobl bleidleisio i ymgeiswyr Llafur i Gyngor Gwynedd - pedwar aelod sydd ganddynt ac ni fyddant byth yn trafferthu cyflwyno llawer o ymgeiswyr gerbron yr etholwyr.  Mae'n flynyddoedd maith ers i neb sefyll yn enw'r blaid yn rhannau helaeth o'r sir.  Yn wir fedra i ddim cofio ymgeisydd yn sefyll yn Nwyfor erioed. 

Ymddengys hefyd bod Llafur Arfon yn credu na ddylai neb bleisleisio i ymgeiswyr Llafur ar gynghorau Mon, Ceredigion, Powys na Phenfro chwaith.  Bychan iawn ydi eu cynrychiolaeth ar pob un o'r cynghorau hynny. 

Nid yn unig hynny ond mae'n ymddangos nad ydi'r Blaid Lafur yn Arfon yn credu y dylai'r Blaid Lafur fod wedi dod i fodolaeth o gwbl.  0.2% o'r bleidlais a dau aelod  gafodd y Blaid Lafur bryd hynny.  Mae'n debyg y byddai Llafur Arfon wedi mynd o gwmpas Merthyr a Derby yn yr etholiad ganlynol yn ceisio dwyn perswad ar bobl i bleidleisio i'r Rhyddfrydwyr yn hytrach nag i Kier Hardy a Richard Bell oherwydd mai dim ond dau aelod oedd gan Lafur bryd hynny.

Yn wir os ydi Plaid Lafur Arfon yn credu'r hyn maent yn ei ddweud go iawn yna maent o'r farn y dylai strwythurau etholiadol gael eu ffosileiddio am byth, byth bythoedd - y dylai gwleidyddiaeth y DU fod yn frwydr dragwyddol rhwng y Toriaid a'r Whigs. 

Ond wrth gwrs dydyn nhw ddim yn credu yr hyn maent yn ei ddweud.  Esiampl arall ydyw o'u negyddiaeth a'u tlodi syniadaethol.  Does ganddyn nhw ddim oll sy'n gadarnhaol i'w ddweud, does ganddyn nhw ddim record o lwyddiant i gyfeirio ati.  Yr unig beth sydd ganddynt i'w gynnig ydi'r ddadl mwyaf elfennol a di ddychymyg y gellid meddwl amdani - dydan ni ddim yn Doriaid ac mae yna lawer ohonon ni. 

4 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Dyw'r ddadl ddim yn gwneud ryw lawer o synnwyr mewn cyd-destun Ewropeaidd chwaith gan bod aelodau PC yn cael eu hethol i blaid Ewropeaidd ehangach sydd â 58 ASE.

Anonymous said...

Bu Now Gwynys yn aelod llafur am sbel do ar ôl cael ei swyno gan Ron Davies, ond dw j ddim yn meddwl iddo gael ei ethol fel aelod llafur

Cai Larsen said...

Do - mi'r oeddwn i'n cofio am Now - ond cyfnod byr oedd hwnnw a wnaeth o ddim ymladd etholiad yn enw Llafur.

Gwynfor Owen said...

Ei swyno gan Tony Blair wnaeth Now