Thursday, May 01, 2014

Hollt yn y grwp Llafur yng Ngwynedd?

Bydd y sawl sy'n dilyn gwleidyddiaeth Gwynedd yn ymwybodol i'r Blaid Lafur adael y glymblaid sy'n rhedeg y sir yn ddiweddar, gan adael Plaid Cymru i wneud y joban ar ei phen ei hun.

Mae'n ddiddorol felly i'r Cyng Sion Jones, Bethel gefnogi enwebiad Llais Gwynedd - y Cynghorydd Cyng Dilwyn Lloyd, ar gyfer is gadeiryddiaeth y cyngor yn gynharach heddiw.  Enwebiad Plaid Cymru sef Cyng Dilwyn Morgan gafodd gefnogaeth y ddau aelod Llafur arall oedd yn bresenol - y Cynghorydd Gwen Griffiths a'r Cynghorydd Gwynfor Edwards. Doedd y pedwerydd - y Cynghorydd Brian Jones ddim yn bresenol yn y cyngor. 

Y Cynghorydd Dilwyn Morgan a gafodd ei ethol i'r swydd.

2 comments:

Anonymous said...

Hollt fwy yn Plaid. Cymru heddiw. Hywel Williams AS yn galw am i'r cyngor ail edrach ar ffolineb penderfyniad hel rybish bob tair wythnos !!!!!! Teg edrych tuag adref ........

Anonymous said...

Wel am flog twp. Dim hollt ydi hynny ond unigolion yn pleidleisio fel meant yn meddwl am pwy ydi'r unigolyn gorau, yn lle dilyn y ddafad golledig. Hefyd fe fydd Plaid Cymru yn newid eu safon ar y biniau gwyrdd cyn yr etholiad gan ei fod yn benderfynniad mwyaf gwirion erioed fydd yn colli pleidleisiadau iddynt, dyna pam mae Hywel yn dod yn ei erbyn. Mae ganddo ofn colli ei sedd mewn amser.