Saturday, May 10, 2014

Betio gwleidyddol efo Paddy Power.

Un o'r gwefannau gorau ar gyfer betio gwleidyddol ydi un y bwci Gwyddelig, Paddy Power.  Maen nhw'n cynnig prisiau ar hyn o bryd ar gyfer nifer o etholaethau Cymreig yn etholiadau San Steffan, 2015.

Gall dilyn prisiau betio fod  yn ffordd effeithiol o ragweld sut mae pethau'n mynd o safbwynt etholiadol.  Tra mai'r bwci sy'n gosod y prisiau cychwynol, faint o bres sy'n mynd ar yr ymgeiswyr sy'n gyrru'r prisiau wedyn.  Gan nad ydi y rhan fwyaf o bobl yn rhoi eu pres i ffwrdd ar chwarae bach, gellir mentro bod pobl wedi meddwl am sut maent yn betio.

Dyna pam y gall prisiau betio roi cystal darlun o'r tirwedd etholiadol a pholau piniwn.






1 comment:

Dai said...

Mae gan Ladbrokes rhestr hir o brisiau etholaethau hefyd.

Wy ddim wedi edrych ers sbel on roedd hi'n bosibl betio ar Ganol Caerdydd gyda Ladbrokes a Paddy Power - un yn rhoi ods digon da ar Lafur a'r llall ar y dems Rhydd ac fe allech chi ddim colli (a bwrw bod un o'r ddwy yn enill). Enillwch chi ddim lot ond fe gollwch chi ddim.

Ond efallai bod y prisiau wedi newid erbyn hyn.