Friday, May 30, 2014

Plaid Cymru ac UKIP yn ennill yr etholiad

Iawn - mae'r teitl dipyn bach yn ddi gywilydd ag ystyried mai pedwerydd oedd y Blaid yn etholiadau Ewrop, ond dwi'n meddwl ei bod yn ddigon teg nodi mai'r Blaid enillodd yr ymgyrch ei hun - neu o leiaf i'r Blaid ddod yn ail i UKIP.  Dydan ni ddim yn gorfod edrych yn hir iawn ar y polau i allu gweld hynny.  

Roedd pol YouGov mis Ebrill yn awgrymu'n gryf iawn y byddai'r Blaid yn colli'r sedd - roedd y Blaid ar 11%, UKIP ar 20%, Lib Dems7%, Toriaid 18% a Llafur 39%.  Ar y diwrnod roedd Llafur ar 28% (-11% o gymharu a phol Ebrill), Toriaid 17% (-1%), Lib Dems 4% (-3%), Plaid Cymru 15% (+4%) ac UKIP 28% (+8%).

Pedwar peth sy'n drawiadol - y cwymp enfawr ym mhoblogrwydd Llafur yn ystod yr ymgyrch, haneru poblogrwydd y Lib Dems, cynnydd o 4% yng nghefnogaeth y Blaid (tra'n derbyn yr amheuon a fynegwyd yma am fethodoleg YouGov) a chynnydd o bron i 8% yng nghefnogaeth UKIP.  

Ar ddechrau'r flwyddyn roedd rhai o wleidyddion Llafur yn brolio eu bod am gael 3 sedd, ac roedd disgwyliad clir y byddai Llafur yn cael dwy hyd y diwedd.  Ond - fel rydym wedi son eisoes - roedd ymgyrch Llafur yng Nghymru yn drychinebus o aneffeithiol - anfon eu gohebiaeth allan wedi i lawer o bobl bleidleisio, methu gwneud defnydd o boblogrwydd eu harweinydd Cymreig ac ati.  Os oes yna erioed unrhyw blaid wedi taflu eu gobeithion am sedd Ewrop -dyma'r achlysur.

Ond fyddai methiant Llafur ddim yn ddigon ynddo'i hun wrth gwrs - roedd rhaid i'r Blaid fanteisio ar hynny - a chafwyd ymgyrch llawr gwlad digon effeithiol.  Soniais ar y cychwyn mai ail i UKIP oedd y Blaid o ran ymgyrch - ond ymgyrch gyfryngol oedd un UKIP - ymgyrch llawr gwlad oedd un y Blaid - y ground war y byddwn yn son amdani weithiau.  

Tri achlysur diweddar arall y gallaf feddwl amdano lle enilliodd y Blaid yr ymgyrch llawr gwlad yn hollol glir - is etholiad Ynys Mon, etholiad Cynulliad 99 ac etholiad Cynulliad 2007 Da iawn bawb.

18 comments:

Vaughan Williams said...

Diddorol iawn Cai. Credaf o hyd dan y math amgylchiadau gwelon ni yn ystod yr etholiad a'r hinsawdd etholiadol presennol fod cael 111,000 o bleidleisiau 15% yn camp! Mae sawl cwestiwn o hyd - am ba hyd bydd y 'canol' yn symud i'r dde yn wleidyddol? Beth a ble ydy pendraw hyn i gyd? Dydw i ddim yn siwr?! Roedd UKIP wedi rhedeg fath o ymgyrch gwahanol iawn (cytuno), roedden ni y trethdalwyr wedi talu am lawer o'u hymgyrch, cyfryngau megis BBC ayyb! Posib y bydd UKIP yn mynd a phleidleisiau y Blaid Lafur y flwyddyn nesaf hefyd. YR UNIG OFID sydd gyda fi ydy neges y Blaid Lafur y flwyddyn nesaf Cai, byddan nhw'n bendant yn ceisio codi ofn ar bobl trwy ddweud bydd clymblaid trwy UKIP a'r Toris a'r unig ffordd o stopio hynny bydd i bleidleisio drostyn nhw! Beth ydy dy darn di am hynny, perygl bydd pleidlais y Blaid yn cael ei gwasgu? YMLAEN!

Anonymous said...

Wn i ddim lle i gychwyn.

Fel awdur blogiadau lu yn datgan fod YouGov ddim yn gywir ac fod y Ceudwadwyr am golli y sedd mae honni llwyddiant i ymgyrch PC yn ddim llai na propoganda go wael.

Os di'r perfformiad gwanaf ers 1984 yna plesio yna pob lwc. Dyma'r math o weld du yn wyn fydd yn gweld PC yn parhau i fethu.

Twyllo ti dy hun di'r bwriad ta ti'n credu dy gelwydd?

Ian Johnson said...

John, mae angen dangos i bobl fod Llafur ddim yn wahanol i'r pleidiau eraill Prydeinig.

Fel dywedodd Chris Leslie heddiw:
http://www.theguardian.com/politics/2014/may/29/labour-cannot-afford-undo-coalition-spending-cuts

Hogyn o Rachub said...

Ian, mae angen i Blaid Cymru ddangos ei bod hi'n wahanol iddyn nhw hefyd! Dydi hi ddim wedi llwyddo gwneud hyn o gwbl.

Vaughan Williams said...

Cytuno Ian, 100%, Hynny ydy, dim ond 13aelod seneddol Llafur oedd wedi pleidleisio yn ERBYN cap ar fudd-daliadau ayyb. Bydd angen i ni fod gyda llais gref a dweud wrth y bobl y gwirionedd am y Blaid Lafur #redtories.
http://www.morningstaronline.co.uk/a-2c5d-Labour-backs-Con-Dems-welfare-cap/#.U4huryjyQk4

Anonymous said...

Larsen bach ym myd y breuddwydio eto. Cradur.

Anonymous said...

OMG plaid cymru lawr 3% a'r nifer isaf o bleidleisiau ers etholiadau ewrop ddechrau a mae Larsen DAL yn meddwl ei fod yn llwyddiant. Haleliwia !!!! Un peth da, mae yn rhoi ukip a pc yn yr un pennawd - rybish di egwyddor i gyd hefo'i gilydd .

Anonymous said...

C'mon Cai.

Mae isio bach o onestrwydd fan hyn.

Sut fedri di ddisgrifio colli 26,000 o fots ers 2009 yn unrhyw fath o fuddugoliaeth mewn gwirionedd?

Ymgyrch fflat a di-fflach oedd hon wnaeth ddim ysbrydoli neb. Dim momentwm o is-etholiad Ynys Mon y llynedd.

A chafwyd dim bowns o refferendwm Yr Alban o gwbl- a hynny'n rhannol gan na fu unrhyw ymdrech o gwbl i geisio cysylltu Cymru hefo'r hyn sydd yn digwydd yno.

Eironi'r sefyllfa ydi mai UKIP achubodd sedd PC trwy fwyta i fewn i bleidlais y Blaid Lafur.

Does ond gobeithio y cawn ni well siap ar bethau erbyn haf nesaf!

Ian Johnson said...

Hwn oedd etholiad Ewropaidd gyntaf dan PR gyda llywodraeth Tori yn San Steffan, felly yn wahanol i unrhyw etholiad ers 99, beth bynnag. Ni ddaeth pleidlais protest yn erbyn y llywodraeth i'r Blaid tro ma. Aeth pleidlais protest yn erbyn San Steffan i UKIP, plaid gydag adnoddau anferthol (i gymharu gyda Plaid Cymru) a sylw yn y wasg dyddiol prif lif.

Roedd y polau piniwn yn dangos, hyd yn oed wythnos diwethaf, roedd y Blaid mynd i golli sedd. Naethon ni cadw fe. Tu fewn ffiniau cul etholiad, roedd hwn yn ganlyniad dda iawn.

Mae'r canlyniadau o gwmpas Cymru yn wers i'r Blaid, wrth gwrs. Lle mae na peiriant lleol sy'n gweithio, roedd na canlyniad eitha da, ond heb y peiriant lleol, roedd canlyniadau yn siomedig.

Fel dywedais yn gynharach heddiw (ac yn cytuno i raddau gyda Hogyn o Rachub fod dyn ni ddim wedi gwneud digon o hyn) mae angen i'r Blaid dangos gwahaniaeth rhwng ni a'r 'Westminster consensus' - un sy'n amlwg iawn os dych chi'n edrych at record pleidleisio San Steffan er enghraifft - a mae rhaid gwneud hyn yn fwy dros y flwyddyn nesaf.

Cai Larsen said...

Diolch gyfeillion - rhai sylwadau da yma.

John - ti'n hollol gywir i awgrymu bod UKIP wedi gwneud llawer mwy o niwed i Lafur nag i neb arall - mae hynny'n amlwg iawn o'r ffigyrau. Dydi o ddim yn rhywbeth a welwyd gan YouGov a dydi o ddim yn rhywbeth sydd wedi cael sylw gan y cyfryngau Cymreig. Ti hefyd yn gywir i ddweud mai gweddi 'Fotiwch i ni neu mi eith y Toris / UKIP i mewn' ac mae'r rheini yn bwyta babis ac yn lluchio'r henoed i Cei Llechi' fydd tachteg Llafur y tro nesaf - dyna'r unig dachteg sydd ganddyn nhw byth yng Nghymru.

Dwi'n meddwl hefyd ei bod yn bwysig nad ydan ni'n bod yn rhy hyderus ar ol canlyniadau pathetig Llafur yn Arfon a Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr - bydd etholiad 2015. Yn hollol wahanol i hon.

Anon 11.37 - Dwi yn derbyn dy sylw am y Toriaid - mi wnaethan nhw'n well nag oeddwn i'n disgwyl. O ran methodoleg YouGov efallai dy fod wedi cam ddeall rhyw gymaint - tua 1.5% o dan gyfrifo pleidlais y Blaid fyddai y busnes cyfri gormod o Saeson yn ei greu -dwi erioed wedi honni dim arall. Byddai hefyd yn arwain at dan gyfrifo pleidlais Llafur o tua 1%.

Jason - cytuno 100% - diffyg USP ydi prif broblem y Blaid ar hyn o bryd ac mae'n rhaid mynd i'r afael efo hynny rwan.

Anon 1.22 Mae gen ti hawl i dy farn wrth reswm, ond dwi'n delio mewn ffeithiau. Os ti am anghytuno byddai'n fwy effeithiol dod o hyd i ffeithiau gwell / mwy perthnasol na galw enwau.

Anon 1.26 Dwi'n meddwl dy fod tithau'n cam ddeall. Mae'r blogiad yn delio efo'r ymgyrch, nid efo perfformiad y Blaid yn gyffredinol. Ystyria hyn - os ydym yn defnyddio perfformiad Etholiad Cyffredinol 2010 fel gwaelodlin llwyddodd PC i gael 67% o'r sawl fotiodd trostynt bryd hynny allan. Ffigwr Llafur oedd 54%, un y Toriaid oedd 43% ac un y Lib Dems oedd 10% - roedd rhaid i mi edrych ar honna eto. Ar lefel cael y bleidlais allan roedd y Blaid yn llawer gwell na neb arall (ond UKIP). Dyna oedd bwriad yr ymgyrch. Cyfeirio at yr ymgyrch mae'r blogiad.

Anon 1.32 - gweler yr ateb i'r uchod. O ran yr ymgyrch nid ymgyrch fflachiog oedd hi i fod - ymgyrch oedd yn targedu cefnogwyr ac yn eu cael nhw allan i fotio. Ymgyrch ddistaw ydi un felly. Wnaethom ni ddim llwyddo 100% o bell ffordd - ond mi wnaethom ni'n well na neb arall - ond UKIP.

Ian - cytuno efo pob dim yn y fan yna.

Anonymous said...

Ymgyrch egniol ar lawr gwlad gan aelodau lleol yn y Gorllewin yn arwain at ganlyniadau calonogol iawn,, ond ymgyrch genedlaethol gwbl ddi-fflach a chanlyniadau hynod siomedig yn y de a'r dwyrain.

Y newyddion da yw fod yr ymdrech leol yn y gorllewin yn golygu fod sail i fod yn obeithilol iawn o gadw Arfon, cipio Ceredigion ac o bosib Môn yn 2015.

Mae cwestiynau amlwg y bydd angen eu hateb dros y misoedd nesaf ynglyn a'r strwythurau ymgyrchu cenedlaethol a'r strategaeth i gyfleu'r neges ac ysbrydoli etholwyr yn y Dwyrain, y De a'r cymoedd.

Mae cwestiynnau amlwg hefyd wrth gwrs am y ffaith mai trydydd digon tila oedd y Blaid yn y Rhondda - cartref Jill a Leanne a sedd a oedd yn nwylo'r Blaid yn y cynulliad gwta ddeg mlynedd yn ol. Sut mae egluro'r ffaith fod Jac yr Uned a'r cyn-fancwr Nigel Farrage yn denu mwy o bleidlisiau yma na'r ddraig goch ar ddwy arweinwydd sosialaidd lleol?

Anonymous said...

Anon 8:59 - Yn ol pob sôn, enillodd Plaid Cymru yn y Rhondda - rydych chi'n cyfeirio at sir Rhondda Cynon Taf, sy'n cynnwys dwy etholaeth arall yn ogystal â'r Rhondda.

Anonymous said...

Anon 7.35

O weld Llafur ddeg mil ar y blaen yn RCT mae'n anodd credu fod y bleidlais wedi croni'n ddigonol i weld buddugoliaeth yn etholaeth y Rhondda. Gallwn gredu ail i PC yn y Rhondda ond mae hawlio buddugoliaeth ar sail cyfanswm pkedleisiau RCT yn ymddangos fel spin a dim llawer mwy.

Anonymous said...

Sgersli bilîf Anon 8:59

Anonymous said...

Sori - sgersli bilîf Anon 7:35 oeddwn i'n feddwl!

Anonymous said...

Anon 11.00

Sgersli belif be? Fod OC yn ail yn etholaeth y Rhondda? Falle wir.

Ar y llaw arall os mae amau canlyniad RCT wyt ti yna gwna dy waith cartref - 10k o wahaniaeth rhwng PC a Llafur.

Gyda llaw, tydi sgersli belif ddim yn cyfrannu llawer a deud gwir gan fod hi'n anodd gweld am be ti'n son.

Alwyn ap Huw said...

Rwy'n cytuno yn rhannol efo Cai ac yn rhannol efo'r sylwebyddion dienw sydd yn ei blagardio.
Roedd y canlyniad yn ganlyniad ardderchog i Blaid Cymru. Wrth gwrs bod pob plaid yn dymuno ennill pob sedd ond y realiti yw ers i Gymru colli ei 5ed sedd does neb wedi disgwyl , go iawn, i Blaid Cymru ennill ail sedd. Ar ddechrau'r ymgyrch diwethaf y cwestiwn oedd a byddai Plaid Cymru yn gadw gafael ar ei hunig sedd? Roedd digon o ddarogan gwae bod Jill Evans ar ei ffordd i'r ciw dôl, bod hi wedi canu ar y Blaid, hyd at y pôl olaf (beth bynnag eich barn am bolau) roedd gobeithion y Blaid yn edrych yn uffernol o wael. Mae'r ffaith bod Plaid Cymru wedi cadw gafael ar y sedd yn erbyn y disgwyliadau yn ganlyniad penigamp, gwych ac yn achos o orfoledd.

Ond o ystyried mae Plaid Cymru oedd yr unig blaid genedlaetholgar Gymreig ar y tocyn pleidleisio a gan hynny bod achos y genedl wedi cipio cefnogaeth dim ond 15% o'r bleidlais a 4% pitw o'r bleidlaisfraint roedd yn ganlyniad trychinebus i'r achos cenedlaethol.

Unknown said...

Mae Cai wastad yn dweud wrthaf fy mod ddim yn deall gwleidyddiaeth Gymraeg. Ond mae canlyniadau yr etholiad Ewropaidd yn dangos un glir bod cenedlaetholdeb Brydeinig yn gryfach na cenedlaetholdeb Gymreig tu allan i'r ardaloedd traddodiadol Cymraeg. Nid yw gwahaniaeth amlwg rhwng gwleidyddiaeth Gymreig a gwleidyddiaeth Brydeinig yn rhan fwyaf Cymru.