Sunday, May 25, 2014

Y Bib ac etholiadau yng Nghymru

Roger  Scully ar ei gyfri trydar ddoe oedd yn tynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng ymdriniaeth ar lein BBC Gogledd Iwerddon o'r etholiadau lleol ac ymdriniaeth ein fersiwn ni o'r Bib.  Mae'n gwbl gywir - elfennol iawn ydi'r ymdriniaeth Gymreig tra bod gan BBC Gogledd Iwerddon adnodd rhyngweithiol i'w gynnig.

Ond dydi hwnnw yn  ddim o'i gymharu a'r hyn sydd gan RTE - manylion llawn, enw pob ymgeisydd, ystadegau, graffiau neges trydar pob tro mae rhywun yn cael ei ethol ac ati a phob dim yn cael ei adnewyddu yn syth wedi'r datganiadau o'r canolfannau cyfri.

Llwm iawn oedd ymdriniaeth y Bib o is etholiad Ynys Mon y llynedd wrth gwrs - neb yn cael ei anfon i fyny i ddilyn yr etholiad, dim ymdrech o gwbl i ddilyn y cyfri, dim camerau, dim gohebwyr, dim.  Roedd yr is etholiad yn hynod bwysig wrth gwrs - roedd y cwestiwn o lywodraeth fwyafrifol yn y fantol.  Cafwyd ymdriniaeth byw o gyfrifon dwy is etholiad i Senedd yr Alban gan BBC Scotland tua'r un pryd - er nad oedd fawr ddim ag eithrio'r seddi eu hunain yn y fantol.

Rwan dwi'n sylwi nad oes gan BBC Cymru yr un adnoddau nag RTE na'r Bib yn Llundain.  A dweud y gwir mae gwefan etholiadau RTE yn llawer gwell (a mey drudfawr) nag un y Bib yn ganolog.  Ond byddai dyn yn disgwyl y gallai'r Bib yng Nghymru gynnig gwasanaeth tebyg i un yr Alban a Gogledd Iwerddon.  Pan mae rhywbeth sy'n bwysig i'r Bib yn Nghymru yn digwydd llwyddir i ddod o hyd i'r adnoddau i ymdrin a fo.  Pan geir ymweliadau brenhinol, jiwbilis brenhinol, taith y fflam Olympaidd ac ati ceir ymdriniaeth llawn.  Yn wir pan oedd fflam Gemau Olympaidd Llundain llwyddwyd i anfon gohebwyr, camerau a'r pariffenalia i gyd i pob twll a chornel o'r wlad er mwyn ceisio adeiladu cefnogaeth hysteraidd i'r digwyddiad Llundeinig.

Y broblem yn y pen draw ydi nad yw'r Bib yn cymryd gwleidyddiaeth Cymru o ddifri.  Mae'n cymryd gwahanol ddigwyddiadau sy'n tanlinellu ein cysylltiad efo'r wladwriaeth Brydeinig yn ddifrifol iawn.  Mae'r Bib yn y pen draw yn ystyried y broses ddemocrataidd yng Nghymru yn is raddol i'r status quo cyfansoddiadol a'i amrywiol symbolau.  Adlewyrchiad o hynny ydi ymdriniaeth bisar a thameidiog y Bib o wleidyddiaeth Cymru.

2 comments:

Anonymous said...

...a'r hyn sydd waeth yw fod staff newyddion BBC Cymru Wales wir yn credu fod Cymru'n cael 'dêl dda' o'r meistri yn Llundain. Mae nhw wirioneddol ddiolchgar am y briwsion. Mae'r uchelgais mor isel fel fod nhw ddim hyd yn oed yn cwestiynu'r byd-olwg.

Mae nhw go iawn yn credu fod gwasanaeth newyddion BBC Cymru yn dda ac yn edrych lawr eu trwynau ar wasanaethau eraill!

Template Newyddion BBC Cymru:

ysgol/ward ysbyty yn cau
ffarmwr yn cwyno
anhap tywydd
stori dramor yn syth o Lundain
stori royalist
stori am minor-seleb Brydeinig
stori am iaith Gymraeg
rygbi/pêl-droed a criced Lloegr


Dyna'r template.

Does dim byd-olwg Gymreig.

Mae'r adnoddau ganddynt i gynnig gwasanaeth ddiddorol, herfeyddiol ond dydy'r ewyllus ddim yno. Dydy ddim yno o ddewis chwaith.






Anonymous said...

Gwrandawais ar Radio Wales y prynhawn yma tra yn y car. Roeddwn yn methu cael derbyniad da i Radio Cymru. Dyma Mal Pope yn ymdrin a'r stori am Fllam y Gymanwlad yn mynd drwy Cymru.....gallwch ei ddychmygu'r gwlychu ei hunan wrth wneud. A dyma ef yn dweud....."....as the flame makes it's way through the Principality". Mae hynna yn dweud y cyfan wrthoch am agwedd y BBC tuag at Gymru.