Tuesday, November 01, 2011

Rhodri Glyn hefyd o'r farn mai rhanbarth ydi Cymru

'Does yna neb y gwn i amdano sy'n well nag Mike Haggett - awdur y blog Syniadau - am ddod o hyd i esiamplau ACau Plaid Cymru yn gwrthwynebu polisi annibyniaeth y Blaid.  Rhodri Glyn Thomas sydd wedi cael ei ddal y tro hwn yn ymateb i gwestiwn gan Adrian Masters:

Adrian Masters:  Shouldn't [Wales] have more [influence in Europe]? I'm going to caricature your position, Rhodri Glyn Thomas. This is what Plaid would argue: that an independent Wales within Europe would have a bigger say, would be able to speak directly to Europe.
Rhodri Glyn Thomas:  Let me say it's not my view. It may be the party's view, but it's never been my view. I believe in interdependence of regions and countries within Europe.
Mae Syniadau wedi tynnu sylw at ddatganiadau tebyg gan Dafydd Ellis Thomas yn y gorffennol.  Mae MH yn gywir i boeni am sefyllfa lle nad ydi rhai o aelodau Cynulliad y Blaid yn gweld bod yna fawr o broblem iddynt ymddangos ar y cyfryngau yn gwrth ddweud polisiau creiddiol eu plaid eu hunain.  Dyma pam:

  1. Un o broblemau hanesyddol y Blaid ydi'r diffyg naratif clir sy'n cael ei gyflwyno ganddi.  Oherwydd hynny mae'r sawl sy'n siarad ar ei rhan ar y cyfryngau torfol yn aml yn cyflwyno negeseuon sy'n rhannol bersonol iddyn nhw eu hunain, a sydd o bryd i'w gilydd yn gwrth ddweud ei gilydd.  Canlyniad hyn ydi bod y Blaid wedi magu delwedd gymhleth ac anelwig.  Dydi delwedd felly ddim yn un sy'n hyrwyddo llwyddiant etholiadol.  Mae sefyllfa lle mae llefarwyr y Blaid yn dadlau yn erbyn polisiau'r Blaid yn gyhoeddus yn cymhlethu a difrifoli'r sefyllfa yma.
  2. Fel mae Mike Haggett yn awgrymu mae cymryd y cyfle i ddadlau yn erbyn annibyniaeth ar y cyfryngau, tra'n gwrthod y cyfle i wneud hynny yn fewnol yn ymylu ar y bisar.  Os ydi Rhodri Glyn Thomas a Dafydd Ellis Thomas yn credu nad ydi hyrwyddo annibyniaeth yn syniad da mewn gwirionedd, yna dylid dadlau'r achos oddi mewn i'r Blaid yn hytrach na dweud dim pan mae'r mater yn cael ei drafod yn fewnol, ond dadlau yn erbyn y polisi yn allanol.
  3. Mae dylanwad ol genedlaetholdeb ar y naratif wrth genedlaetholgar a ddefnyddir gan Rhodri Glyn Thomas a Dafydd Ellis Thomas.  Gobyldigwc afresymegol ydi ol genedlaetholdeb - fel rydym wedi trafod yn y gorffennol.
  4. Mae yna fyd o wahaniaeth rhwng dylanwad gwlad a rhanbarth yng nghyd destun Ewrop.  Rhanbarthau ydi Lower Saxony a'r East Midlands.  Gwledydd ydi Romania, Iwerddon a Slovakia.  Mae gan wledydd unigol lawer  mwy o ddylanwad oddi mewn i'r Undeb Ewropiaidd na rhanbarthau - mae gan Gweriniaeth Iwerddon 12 Aelod Ewropiaidd - 4 sydd gan Gymru.  Yn ogystal a chael llawer mwy o Aelodau Seneddol Ewropiaidd na'r rhanbarthau, mae gan pob gwlad hefyd aelod ar Gyngor Ewrop, ar Gomisiwn Ewrop, a Chyngor yr Undeb Ewropiaidd.  Dyma'r strwythurau sy'n rhedeg yr Undeb Ewropiaidd.  Ymddengys bod Rhodri Glyn Thomas a Dafydd Ellis Thomas o'r farn bod anfon pedwar aelod i senedd o 751 aelod yn well na chael llais cryf yn y sefydliadau sy'n rhedeg yr Undeb Ewropiaidd mewn gwirionedd. 

6 comments:

Anonymous said...

Ta ta RhGT. Edrych ymlaen i weld Adam Price yn ymladd y sedd dros Blaid Cymru ac o blaid Cymru annibynnol - nid dibynnol - yn 2016. Neu gorau oll cyn hynny.

Anonymous said...

Efallai ei fod wedi dioddef o'r aflwydd sy'n taro pob gwleidydd o bryd i'w gilydd... dweud beth mae ei gynulleidfa eisiau ei glywed.

BoiCymraeg said...

A oes unrhywun yn gwybod beth yw barn Alun Ffred Jones ar annibyniaeth i Gymru? Dwi' eisiau gwybod os oes angen i mi roi'r gorau i bleidleisio drosto.

maen_tramgwydd said...

Dylid gofyn y cwestiwn gwreiddiol yma i bob AC a AS Plaid Cymru er mwyn i aelodau a chefnogwyr y Blaid fod yn gwbwl glir pwy y gallent gefnogi pan ddaw'r amser i ddewis ymgeiswyr neu i bleidleiso mewn etholiadau.

Mae'n ddiflas gen i feddwl fod rhai fel DE-T a RhGT yn gallu eistedd yn y Cynulliad fel aelodau o'r Blaid ac yn datgan yn gyhoeddus ar y cyfryngau eu barn sy'n rhedeg yn gwbl groes i bolisi creiddiol y parti.

Mae'n wir fod y ddadl yma wedi bodoli ers i'r Blaid gael ei sefydlu. Credaf fod hyn yn un o'r rhesymau sydd wedi ei dal yn ol yn enwedig yn y blynyddoedd diweddar.

Bydd rhaid i bethau newid os fydd y Blaid yn dal i gael fy nghefnogaeth.

Aled GJ said...

Dwi'n ryw synhwyro bod y cyfnod yma y tu hwnt i lywodraeth yn un hynod o anghyffyrddus i arweinyddiaeth Plaid Cymru gan nad oes modd iddynt osgoi'r cwestiwn ynghylch beth yn union ydi pwrpas y blaid bellach. Ar y llaw arall, dwi hefyd yn synhwyro bod y cyfnod hwn yn dechrau cryfhau llaw yr aelodau cyffredin, yn enwedig hefo gornest arweinyddol ar y gweill. Does dim dwywaith bod trwch yr aelodau hyn yn ysu am weld PC sy'n gwbl ddi-amwys am annibyniaeth i Gymru, a bydd rhaid i'r arweinydd newydd ymgorffori'r farn bendant hon, yn anad un peth arall. Mae'r shifft grym hyn o fewn y blaid yn rhywbeth y bu ei angen ers tro byd yn fy marn i.

Unknown said...

Mae syndiadau David Melding, Tori rhonc, am ddyfodol Cymru yn fwy uchelgeisiol nag a glywon oddiwrth DET, RhGT ad GD. Efallai y dylsent adnewid pleidiau?

Oes amser i Rhodri ymddiswyddo, ag i Adam enill y sedd, a sefyll yn y ras, o gwbwl?