Saturday, November 05, 2011

A fydd yna ganlyniadau anisgwyl i chwyldro Libya?

Roedd ymyraeth rhai o wledydd y Gorllewin ar ochr y gwrthryfelwyr yn Libya yn anarferol i'r graddau mai ychydig iawn o wrthwynebiad a gafwyd i'r ymyraeth yn y Gorllewin.  Dichon mai'r rheswm am hynny ydi bod y weinyddiaeth oedd yn rheoli Libya yn gyffredinol amhoblogaidd.  Serch hynny, mae'n briodol codi ambell i gwestiwn ynglyn a'r holl ymarferiad cyn i'r tywod setlo.

Y peth cyntaf i'w ddweud am ryfel neu ymyraeth filwrol ydi mai ffurf eithafol ar ymyraeth wleidyddol ydyw.  Mae unrhyw ymyraeth wleidyddol yn gallu arwain at ganlyniadau anisgwyl o safbwynt y sawl sy'n gyfrifol am yr ymyryd, ac mae hynny'n arbennig o wir am ymyraeth milwrol. Weithiau bydd yr canlyniadau anisgwyl yn digwydd yn syth, ond weithiau maent yn cymryd cyfnod o flynyddoedd lawer i bethau weithio ddod i fwcwl. 

Y math mwyaf arferol o ganlyniad anisgwyl ydi colli rhyfel wrth gwrs - mae'n rhyfeddol mor gyffredin ydyw i'r sawl sy'n ymyryd neu'n ymosod gael eu hunain yn mynd adref efo'u cynffonau rhwng eu traed maes o law - America yn Vietnam neu'r Undeb Sofietaidd yn Afghanistan er enghtaifft. 

Canlyniad anisgwyl arall ydi bod y rhyfel yn parhau yn llawer, llawer hirach na'r disgwyl - yr UDA yn Vietnam, Prydain yng Ngogledd Iwerddon, NATO a'r Undeb Sofietaidd yn Afghanistan, pawb yn y Rhyfel Byd Cyntaf  er enghraifft. 

Ond mae yna lawer o wahanol fathau o ganlyniadau anisgwyl - a gallant fod yn hynod o bell gyrhaeddol.  Er enghraifft arweiniodd ymyraeth Prydain yn yr Aifft ym 1956 yn dilyn gwladoli Camlas y Suez at ymddiswyddiad Eden, at leihad sylweddol yn nylanwad Prydain yn y Byd, at sylweddoliad na allai Prydain bellach weithredu'n filwrol heb ganiatad yr UDA, ac at ddatgymalu'r Ymerodraeth ynghynt nag oedd y rhan fwyaf o bobl yn disgwyl ar y pryd.

Ennyn ymyraeth gan y Gorllewin oedd canlyniad ymysodiad Irac ar Kuwait yn 1990, rhyfel cartref secteraidd a marwolaeth tros i 100,000 o sifiliaid a chryfhau Iran yn sylweddol oedd effeithiau anisgwyl ail ryfel Irac.  Colli De Affrica oedd canlyniad Rhyfel y Boer yn y pen draw, niweidwyd diplomyddiaeth America am ddegawdau yn dilyn smonach y Bay of Pigs, llwyddodd Bolifia a Paraguay i golli mwy na 3% o'u poblogaaeth mewn rhyfel am ddarn diwerth o anialwch cwbl ddiwerth yn 1932, colli lwmp dda o'u poblogaeth oedd hanes Romania hefyd yn yr Ail Ryfel Byd pan aethant ati i ymladd ar y ddwy ochr ar adegau gwahanol - a hynod anoeth.

Ac mae cwestiwn yn codi ynglyn a chanlyniadau anfwriadol posibl i'r rhyfel yma.  Mae'r ffaith bod cryn son am ymchwiliadau i droseddau rhyfel  gan NATO yn ystod y rhyfel yn Libya yn peri gofid, ac mae'r ffordd y cafodd Gaddafi ei arteithio a'i ddienyddio yn codi cwestiynau ynglyn a natur y bobl fydd yn cymryd ei le.  Nid eithriad oedd yr hyn a ddigwyddodd i'r cyn unben.  Dydw i ddim am ddarparu linc rhag effeithio ar batrymau cwsg darllenwyr Blogmenai, ond os chwiliwch ar We mi gewch hyd i ddelweddau gwirioneddol erchyll sy'n dangos (mae'n debyg) sut roedd y lluoedd roedd NATO yn eu cefnogi yn ymladd eu rhyfel.

'Dydi'r ffaith bod Bengazi, cryd y chwyldro, bellach yn for o faneri du Al Qaeda ddim yn lleddfu dim am yr amheuon mae hyn oll yn ei godi..

 Y perygl yma ydi y bydd y sawl fydd yn rheoli Libya maes o law cyn waethed, neu'n waeth na'r hyn a gafwyd yn y gorffennol - ond mae yna sgil effaith posibl pellach i'r hyn sydd wedi digwydd. 

Roedd Gaddafi wedi ufuddhau i alwadau gweddill y Byd i roi'r gorau i'w wahanol gynlluniau i greu WMDs.er mwyn cael dychwelyd i'r gorlan ryngwladol.   Canlyniad hynny oedd nad oedd mewn sefyllfa i amddiffyn ei hun pan benderfynodd NATO gael gwared ohono.  Bydd y wers honno yn cael ei dysgu gan rai o unbenaethiaid mwyaf annifyr y Byd mae gen i ofn.


No comments: