Wednesday, January 28, 2009

Mae rhywbeth yn gyfarwydd iawn am farwolaeth araf llywodraeth Brown



'Dwi'n cofio llywodraeth yn newid dair gwaith - yn 1974 pan enilliodd Llafur oddi wrth y Toriaid, ym 1979 pan ddaeth Thatcher i rym ar draul llywodraeth Lafur Callaghan, a buddugoliaeth enfawr Blair yn 97. Roedd diwedd y tri chyfnod yn rhai cofiadwy, a chofiadwy am y rhesymau anghywir.

Daeth llywodraeth Geidwadol Heath i ben ym 1974 yng nghanol llanast economaidd oedd yn dilyn yn rhannol o gyllideb 1972 Anthony Barber – gyda’r glowyr i gyd ar streic, llawer o’r gweithlu ar wythnos dri diwrnod, diweithdra’n cynyddu, chwyddiant sylweddol ac ati.

Cyrhaeddodd llywodraeth Lafur Callaghan ei derfyn mewn amgylchiadau gwaeth hyd yn oed ym 1979 yn dilyn y Winter of Discontent – gyrrwyr loris ar streic, gorsafoedd petrol wedi cau ar hyd y DU, nifer y di waith yn saethu tua’r to, cyrff ddim yn cael eu claddu oherwydd gweithredu diwydiannol a son y byddai’n rhaid taflu’r meirw i’r mor, y rheilffyrdd ar stop, ysbytai ond yn trin achosion brys, y gwasanaeth ambiwlans ar streic a’r fyddin yn gorfod gwneud eu gwaith i enwi ond rhai o broblemau'r cyfnod.

Wedyn dyna i ni ddiwedd cyfnod llywodraethol y Toriaid yn ol yn y naw degau hwyr. Er ei bod wedi colli pob hygrededd economaidd yn 1992 pan lwyddodd Norman Lamont i wario £27,000,000,000 yn ceisio (ac yn methu) cadw'r bunt yn yr ERM, cael ei foddi mewn sgandal o fath arall wnaeth y llywodraeth yma yn y diwedd, gyda phobl fel of Graham Riddick, David Tredinnick, Neil Hamilton yn dangos bodlonrwydd i gymryd pres gan gwmniau masnachol er mwyn gofyn cwestiynau seneddol oedd o fudd i’r cwmniau hynny.



Lamont

Roedd hefyd yn gyfnod o sgandalau rhywiol mynych yn y papurau tabloid gyda storiau am aelodau seneddol Ceidwadol fel Piers Merchant a’i gariad dwy ar bymtheg oed, David Mellor a'r honiadau ei fod yn gwneud ei odinebu mewn crys Chelsea, Jerry Hayes a’i lythyrau ‘cariad’ i hogyn dwy ar bymtheg oed, ac wedyn roedd ein hen cyfaill Rod Richards yn ol pob golwg yn cael rhyw bum gwaith y noson y tu ol i gefn ei wraig gyda merch ifanc o’r enw Julia Felthouse.



Mellor

A dyma ni ar derfyn cyfnod llywodraethol arall, gyda llanast ariannol arall. Yn ol yr IMF mae economi Prydain yn debygol o grebachu bron 3% eleni – mwy nag unrhyw economi datblygiedig arall. Wnaeth hyd yn oed Heath a Callaghan ddim llwyddo i gyflawni'r fath gamp.

Ac wrth gwrs mi'r rydan ni ynghanol sgandal llygredd arall gyda rhai o'r arglwyddi Llafur yn ol pob tebyg yn fodlon addasu cyfreithiau am bres. Mae hyn yn ei dro cryn dipyn yn waeth na sgandal amlenni brown y Toriaid yn y 90au. Mae'r syniad bod gwleidyddion anetholedig yn fodlon gwyrdroi'r broses o lunio cyfreithiau yn ddigon a mynd a gwynt dyn.

Yr unig beth rydym ei angen 'rwan ydi sgandal rhywiol neu ddau a bydd diwedd y cyfnod llywodraethol hwn gydag holl ddrewdod y tri tro diwethaf y collodd y blaid sy'n llywodraethu etholiad cyffredinol yn perthyn iddo.

Sunday, January 25, 2009

Pres am addasu deddfwriaeth - unrhyw sylwadau Mr Flynn?



Yn ol y Sunday Times heddiw mae nifer o'r arglwyddi Llafur yn fodlon sicrhau bod deddfwriaeth yn cael ei addasu mewn ffordd sy'n fanteisiol i gwmniau masnachol am symiau sylweddol o arian (hyd at £120,000 y flwyddyn). Mae hyn yn mynd a ni'n ol at flynyddoedd olaf y Toriaid mewn grym pan roedd nifer o'u haelodau seneddol yn fodlon gofyn cwestiynau yn y Senedd ar ran cwmniau masnachol.
Mae drewdod marwolaeth gwleidyddol yn yr awyr mae gen i ofn.

Beth bynnag, bydd rhai ohonoch yn cofio'r gwichian ac ysgyrnygu dannedd rhyfeddol a gafwyd gan aelodau seneddol Llafur megis Wayne David (yr athrylith gwleidyddol a gollodd y rhondda i Lafur) a Paul Flynn ynglyn a mater cymharol ddibwys pan wariodd tri o aelodau seneddol Plaid Cymru eu lwfansau hysbysebu yn ystod ymgyrch etholiadol.

Roedd yr aelodau Llafur yn llai llafar o lawer pan aeth Peter Hain i drafferth am 'anghofio' datgan ei fod wedi derbyn £100,000 tuag at ei ymgyrch i fod yn ddirprwy arweinydd y Blaid Lafur. Yn wir nid oedd neb mor awyddus i'w amddiffyn na Mr Flynn.

Mi fydd yn ddiddorol gweld os bydd gan Paul unrhyw beth i'w ddweud am y sgandal ariannol ddiweddaraf yma. Y ffordd orau i weld os oes ganddo unrhyw sylw i'w wneud ydi cadw golwg ar ei flog. Mae Paul yn flogiwr hynod doreithiog, ac mae ganddo farn am pob dim dan haul, ac mae am i ni wybod ei farn am pob dim dan haul.

Os na fydd ganddo unrhyw sylw i'w wneud, neu os bydd yn ceisio amddiffyn yr arglwyddi llwgr, hwyrach y dylem gasglu mai er gwaetha'r holl ystumio sancteiddrwydd bod Paul yn gweld safonau mewn bywyd cyhoeddus yn nhermau mantais etholiadol i'w blaid ei hun a hynny'n unig.

Mewn geiriau eraill ni fyddai'n llawer mwy gonest na'i gyd Lafurwyr llwgr.

Saturday, January 24, 2009

Deddf Iaith Newydd - nid oes ond ei hangen oherwydd ein difaterwch ni

Mae manylion yr hyn mae llywodraeth y Cynulliad am ei weld yn y Ddeddf Iaith newydd wedi eu cyhoeddi ddoe. Mae'n ddiddorol oherwydd ei fod yn gryfach na'r hyn a ddisgwylwyd gan lawer. O'i weithredu yn ei gyfanrwydd (ac efallai na fydd hynny'n digwydd erbyn diwedd y broses) byddai'n anghyfreithiol i gwmniau telegyfathrebu, ynni ac efallai'r arch farchnadoedd i beidio darparu rhyw lun ar wasanaeth ddwyieithog. Byddai'r un gofynion ar y sector gyhoeddus wrth gwrs.

Nid yw hyn wrth fodd y CBI - maent yn cwyno'n groch bod treueniaid megis Vodaphone am orfod dod o hyd i'r pres i gynnal llinell gymorth Gymraeg a hithau mor ddrwg o fusnesau. Gwerth Vodaphone ar y farchnad stoc ydi £1,677,000,000.

Yn amlwg mae'n ddigon rhesymol rhoi gorfodaeth ar y cwmniau gwirioneddol anferth yma roi cydnabyddiaeth i'r Gymraeg - ond mae gan CBI un pwynt dilys. Maent yn dadlau y byddai mwy o ddarpariaeth Gymraeg yn cael ei ddarparu petai mwy o alw amdano, a bod y galw hwnnw yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd mae pobl yn siopa a masnachu. Mae hyn yn wir.

'Dydw i erioed wedi gweld ffigyrau, ond mae rhywbeth yn dweud wrthyf bod y darpariaeth cwmniau megis Dwr Cymru neu BT yn uwch na'r galw. Felly hefyd y rhan fwyaf o'r sector gyhoeddus. Pe byddai defnydd mynych yn cael ei wneud o'r hyn sydd ar gael, byddai cwmniau eraill yn ymateb ac yn datblygu eu darpariaeth.

Tra'n croesawu'r Ddeddf - mae'n drist nodi nad oes ond ei hangen am nad ydym ni'r Cymry Cymraeg yn creu galw ein hunain yn ein masnachu pob dydd.

Tuesday, January 20, 2009

Diolch Dick a George

Fel 'dwi'n 'sgwennu hyn mae delweddau o Obama cael ei wneud yn arlywydd America ar y teledu. Ar ddiwrnod mor hynod efallai y dylid diolch i'r cyn Arlywydd Dick Cheney a'i ddirprwy George Bush am yr oll maent wedi ei wneud i symud y byd yn ei flaen.

Mae'n anodd credu mai dim ond wyth mlynedd yn ol y daeth Dick yn arlywydd, ac roedd wedi mwydro ei ben bach gyda phob math o syniadau gwirion ar ol darllen holl lyfrau P J O'Rouke.



Er enghraifft roedd wedi dod i'r casgliad bod neo ryddfrydiaeth, sef y gred blentynaidd y bydd pob dim yn iawn os ydi'r wladwriaeth yn caniatau i farchnadoedd wneud fel y mynant. Mae fersiynau ychydig yn gwahanol o'r idiotrwydd 'deallusol' yma wedi creu llanast economaidd byd eang ar sawl achlysur yn y gorffennol, ond ta waeth mae PJ yn yn da am ddweud jocs, ac mae PJ yn dweud bod neo ryddfrydiaeth yn beth da - felly neo ryddfrydiaeth amdani.

Yr unig gredo seciwlar diweddar sydd hyd yn oed yn fwy idiotaidd na neo ryddfrydiaeth ydi neo geidwadiaeth. Yr unig elfennau call sydd i'r ddamcaniaeth chwerthinllyd yma ydi'r gred ei bod yn briodol i'r wladwriaeth ymyryd yng ngweithgareddau'r farchnad a bod gwladwriaeth les yn beth da. Taflodd Dick yr elfennau hynny allan trwy'r ffenest a chadw stwff y seilam i gyd - bod gan America hawl ymyryd yn filwrol ar hyd y byd yn ol ei dymuniadau, bod dilyn polisi tramor ymarferol a chymodlon yn beth drwg. Felly, yn anhygoel llwyddodd Dick i greu dogma wleidyddol unigryw - neo geidwadiaeth heb yr elfennau call ynghyd a neo ryddfrydiaeth. Mae'n anodd meddwl am ddamcaniaeth wleidyddol mor naif, anymunol ac idiotaidd. Natsiaeth neu gomiwnyddiaeth efallai - fedra i ddim meddwl am ddim arall.

Y peth gwaethaf am hyn oll ydi'r ffaith bod Dick yn fodlon troi ei syniadau gwirion yn bolisi, ac yn fodlon troi'r polisi hwnnw yn realiti. Felly dyna ni - rhyfel gwirioneddol drychinebus yn Irac ac un fawr llai trychinebus yn Afganistan, artaith a herwgipio yn rhan o bolisi swyddogol yr UDA, carchardai cudd, carcharu pobl heb achos llys, eithafwyr ar hyd a lled y byd yn edrych yn weddol gall wrth ymyl yr UDA, polisiau amgylcheddol mwyaf adweithiol y byd, celwydd yn rhan o naratif pob dydd y weinyddiaeth, difa'r cytundeb rheoli taflegrau rhyngwladol, y wladwriaeth yn clustfeinio ar ei dinasyddion ei hun, y wladwriaeth yn rhyddhau gwybodaeth am aelodau ei gwasanaethau cudd ei hun, banciau America wedi eu gwladoli i bob pwrpas, yr UDA i fyny at ei dalcen mewn dyled. O ia, ac mi edrychodd Dick yn ddi ffrwt o hirbell fel roedd un o brif ddinasoedd y De yn suddo o dan y don.

Yr unig gysur o lanast erchyll y blynyddoedd diwethaf ydi na fydd yna neb yn pleidleisio i rhywun sy'n arddel damcaniaethau Dick am flynyddoedd maith. Am hynny o leiaf, diolch hogiau.

Monday, January 19, 2009

Peidiwch a betio ar etholiad cyffredinol yn 2009

Fyddwn i ddim yn betio gormod ar etholiad eleni. Yn ol pol piniwn Ipsos Mori sydd i'w gyhoeddi fory mae'r Toriaid ar 44%, Llafur ar 30% a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar 17%. Golyga hyn i Lafur syrthio 5% i'r Toriaid godi 5% a'r Democratiaid Rhyddfrydol i godi 2% mewn mis.

Daw hyn ddyddiau wedi dau bol arall Com Res a You Gov sy'n dweud stori digon tebyg. 'Dydi Llafur ddim yn ol ym mhydew'r haf eto - pe bai etholiad wedi ei gynnal bryd hynny byddant wedi eu gadael gyda llai o seddi nag unrhyw etholiad ers dau ddegau'r ganrif ddiwethaf - ond maent ar y ffordd yn ol.

'Dydi tyrcwn byth yn dewis 'Dolig cynnar, ac ni fydd Brown yn mynd at yr etholwyr tan bod rhaid iddo.

Saturday, January 17, 2009

Sut y gallai'r Toriaid fod o gymorth i Gymru?

Wedi bod yn meddwl rhyw ychydig am y ddadl yma ynglyn a chynlluniau'r Toriaid i ostwng nifer y seddi San Steffan o 40 i 30.

Mae Meurig yn gwneud y pwynt y byddai nifer o'r seddi newydd yn ddaearyddol afresymegol. Mae hynny'n gwbl wir wrth gwrs, a dydi pobl fel rheol ddim yn uniaethu gydag unedau etholiadol nad ydynt yn gwneud synnwyr iddynt - ac efallai bod hynny'n gwneud cynlluniau'r Toriaid yn beth da o safbwynt datblygu democratiaeth Cymreig.

Mae'r drefn bresenol yn un sy'n creu cystadleuaeth rhwng y Cynulliad a San Steffan a rhwng aelodau Cynulliad a rhai San Steffan. Mae'r ffaith bod pobl yn fwy tueddol i fynd at eu haelodau San Steffan os ydynt eisiau cymorth, ac yn fwy tueddol o bleidleisio mewn etholiad San Steffan nag ydynt mewn etholiad Cynulliad yn niweidiol i'r Cynulliad ac yn awgrymu'n gryf fod ei statws yn is o lawer nag un San Steffan.

Os ydi diwylliant democrataidd yn Nghymru i ddatblygu mae'n bwysig bod statws y Cynulliad yn codi, ac un San Steffan yn gostwng. Byddai etholaethau rhesymegol ar lefel Cynulliad a rhai afresymegol ar lefel San Steffan yn gymorth i wireddu hyn.

Thursday, January 15, 2009

The Voice of Gwynedd speaks?

Newydd sylwi ar yr ymateb rhyfeddol yma i sylwadau cwbl ddi niwed ar flog Dyfrig Jones. Wna i ddim manylu - dilynwch y linc ac ewch i waelod y darn a darllenwch sylwadau Big Sis - maent werth eu ddarllen. Beth bynnag mae'r ddynas yn ei ddweud am ei chefndir, maent yn diferu o hyfdra a thraha'r gwladychwr - a'r wladychwraig.

'Rwan does yna ddim ffordd o wybod os mai'r awdur ydi'r unigolyn y cyfeirir ati yn y darn - 'does yna ddim ffordd o ddarganfod hynny heb ffonio'r ddynas ei hun a gofyn iddi - a does gen i beth bynnag ddim y dewrder i wneud hynny mae gen i ofn.

Serch hynny mi fanteisiaf ar y cyfle i ailadrodd pam nad oes dyfodol i Lais Gwynedd. Mae'n grwp sy'n glir ynglyn a'r hyn nad yw yn ei hoffi - Plaid Cymru. Oherwydd hynny mae'n dennu'r cymysgedd rhyfeddaf o bobl - gan gynnwys rhai o'r elfennau mwyaf gwrth Gymreig yng Ngwynedd. Fodd bynnag nid oes ganddo syniad sut i'w ddiffinio ei hun ynhellach na hynny. 'Dydi grwpiau felly byth yn goroesi yn yr hir dymor.

Tuesday, January 13, 2009

Y Toriaid i newid tirwedd etholiadol Cymru?

Mi glywais stori ar y radio y bore yma bod y Blaid Geidwadol yn bwriadu lleihau'r nifer o etholaethau Cymreig, a sicrhau bod yr etholwyr sydd ym mhob etholaeth yn debyg i'r cyfartaledd Prydeinig. 'Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud bod y cyfartaledd hwnnw yn tua 74,000 - uwch o lawer na'r etholaeth fwyaf poblog yng Nghymru - De Caerdydd a Phenarth. Fedra i ddim dod o hyd i'r stori ar y We.

Rhestraf isod yr etholaethau Cymreig, gyda'r nifer o etholwyr oedd yn byw ynddynt pan gafodd yr adroddiad ail wampio'r ffiniau ei gyhoeddi rhai blynyddoedd yn ol. Mae'r ffigyrau erbyn heddiw ychydig yn uwch yn y rhan fwyaf o'r etholaethau, ond nid yw'r gwahaniaeth yn arwyddocaol.

Aberafan 50,509
Aberconwy 44,158
Abertawe Dwyrain 57,419
Abertawe Gorllewin 58,957
Alyn a Glannau Dyfrdwy 60,512
Arfon 43,138
Blaenau Gwent 53,130
Bro Morgannwg
Brycheiniog a Maesyfed 53,596
Pen y Bont 57,166
Caerffili 64,230
Caerdydd Canol 62,211
Caerdydd De a Phenarth 68,340
Caerdydd Gogledd 64,066
Caerdydd Gorllewin 65,012
Caerfyrddin Dwyrain 52,887
Casnewydd Gorllewin 61,091
Caerfyrddin Gorllewin/ De Penfro 57,288
Casnewydd Dwyrain 56,503
Castell Nedd 57,057
Ceredigion 57,721
Clwyd De 51,310
Clwyd Gorllewin 55,501
Cwm Cynon 48,310
Delyn 54,429
Dwyfor Meirion 48,953
Dyffryn Clwyd 49,722
Gwyr 60,729
Llanelli 56,295
Merthyr 55,534
Mynwy 62,615
Ogwr 53,880
Pontypridd 54,216
Preseli Penfro 56,214
Rhondda 50,427
Trefaldwyn 46,775
Torfaen 61,460
Wrecsam 51,061
Ynys Mon 49,896

Yr hyn sy'n amlwg ydi y byddai yna gyflafan petai'r ffigwr cyfartalog yn cael ei newid i 74,000. Gan nad ydi siroedd Cymru yn ffiti i mewn i batrwm 74,000 byddai'r map newydd yn fler iawn o ran torri trwy ffinniau llywodraeth leol. Mae'n ddiddorol ceisio rhagweld yn fras beth fyddai'r Comisiwn Ffiniau yn ei wneud.



Mi fyddai'r newidiadau mwyaf yn y Gymru wledig ac yn y cymoedd. Fe gychwynwn yn y Gogledd. Mae'n debygol y byddai Arfon (rhif 4 ar y map) yn diflanu ac yn cael ei hollti'n ddau, gydag ardal Bangor yn mynd at Ynys Mon (40) ac ardal Caernarfon yn mynd at Meirion Dwyfor (20). Gellid ffurfio tua dwy sedd 74,000 o Aberconwy (2), Gorllewin Clwyd (17)a Dyffryn Clwyd (37). Gellid cyfuno De Clwyd (16) a rhan deheol Alyn a Glannau Dyfrdwy o efo Gogledd Trefaldwyn (26)(gan hollti etholaeth sydd prin wedi ei newid erioed), a gellid ffurfio dwy etholaeth o gweddill Alyn a Glannau Dyfrdwy (3), Delyn (19) a Wrecsam (39).

Byddai'n bosibl cyfuno de Trefaldwyn a Brycheiniog a Maesyfed (6), gan greu bwystfil o etholaeth. Mae'n debyg y byddai Ceredigion (15) yn cael ei hymestyn i'r de - i ogledd Preseli Penfro (32). Yna gellid defnyddio'r hyn sy'n weddill o Breseli Penfro, a'r rhan o Orllewin Caerfyrddin De Penfro (14) sydd ym Mhenfro i greu un etholaeth. Byddai'n bosibl wedyn creu dwy etholaeth o Lanelli (23), gorllewin Caerfyrddin a Dinefwr Dwyrain Caerfyrddin (13).


Gellid diddymu Gwyr (21) a chyfuno'r de efo'r ddwy etholaeth Abertawe (34 a 35) a chyfuno'r gogledd gyda Chastell Nedd Port Talbot (27) i greu un etholaeth.

Mae yna ddigon o etholwyr i gyfiawnhau tair sedd newydd o bedair sedd bresenol Rhondda, Ogwr, Pen y Bont ac Aberafan. Yn yr un modd gellid creu tair etholaeth o Ogledd Caerffili (8), Cwm Cynon (18), Merthyr (24) a Phontypridd (31) - ond byddai de Caerffili yn mynd at Ogledd Caerdydd (10). Yna gellid symud rhan o Benarth o Dde Caerdydd (11) i Fro Morgannwg (38) a chadw pedair sedd ond newid y ffiniau yng Nghaerdydd.

Gellid diddymu Torfaen (36) a chyfuno tua thraean o'r etholaeth honno gydag Islwyn a Blaenau Gwent (5) i greu dwy sedd newydd, tros i draean gyda'r ddwy etholaeth Casnewydd i greu dwy etholaeth newydd (28 a 29) a'r gweddill gyda Mynwy (25).

Golygai hyn golli deg sedd ar lefel San Steffan - byddai'r cyfanswm yn gostwng o 40 i 30. Newid yn wir yn nhirwedd etholiadol Cymru.

Saturday, January 10, 2009

Pam na ddylid cymryd unrhyw sylw o farn David Davies a'i debyg ar hil

Digwydd dod ar draws y stori yma sydd wedi dyddio rhyw ychydig. Mae'n ddiddorol bod arch Brydeiniwr fel David Davies yn defnyddio'r naratif o oddefgarwch sy'n dominyddu'r tirwedd deallusol ac ideolegol ym Mhrydain i ymosod ar gorff sy'n ceisio hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Ni ddylid cymryd barn rhywun sydd a gormod o barch at y traddodiad gwleidyddol Prydeinig mae David yn ei hoffi o ddifri ynglyn a materion fel hyn.



Mae edrych yn ol i hanes yn gallu bod yn brofiad rhyfedd - ac yn un sy'n ysgwyd pobl weithiau. Flynyddoedd maith yn ol roeddwn yn gweithio ar rhyw gynllun creu gwaith neu'i gilydd yn Archifdy'r Sir yng Nghaernarfon. Fel llawer o swyddi o'r fath, nid oedd disgwyl i ddyn weithio'n rhy galed - ac roeddwn yn aml yn gallu bachu awr neu ddwy i fynd i'r ystafell bapurau newydd lle'r oedd yr archif o bapurau newydd o'r gorffenol yn cael eu cadw.

Un o'r pethau sy'n taro dyn fel morthwyl o ddarllen papurau newydd Fictorianaidd oedd mor hiliol oeddynt (y rhai Cymraeg yn ogystal a'r rhai Saesneg)- ac yn bwysicach efallai, pam mor ddi feddwl oedd yr hiliaeth hwnnw. Roedd yn rhan o'r cyd destun deallusol ac ideolegol yr oedd pob dim yn cael ei ysgrifennu ynddo. Rydym ninnau heddiw yn byw ein bywydau mewn cyd destun arall nad ydym hyd yn oed yn ei ystyried - un rhyddfrydig sy'n hyrwyddo democratiaeth, goddefgarwch tuag at grwpiau lleiafrifol ac ati.

Roedd damcaniaethau yn ymwneud ag uwchraddoldeb ac is raddoldeb hiliol yn gyffredin iawn ar y pryd - roedd Phrenology yn esiampl o hyn. Roedd llyfrau yn cael eu hysgrifennu ar y pwnc. Yr enwocaf efallai oedd Robert Knox - The Races of Men 1850, ond roedd llawer iawn o rai eraill hefyd.

Un o ddeilliannau hyn oedd bod y Fictorianiaid gyda ffordd gwahanol iawn i ni o edrych ar y Byd. Roeddynt yn graddio pobl yn ol eu deallusrwydd - ac yn wir yn ol eu hawl i gael eu hystyried yn ddynol. Roedd y Celtiaid yn gymharol uchel yn nhrefn pethau - tua hanner ffordd i lawr yr ysgol - pobl dywyll iawn eu crwyn oedd ar y gwaelod - gyda'r Hotentots druan yn dal yr holl bentwr i fyny. Nid oes rhaid dweud wrth pwy oedd ar ben y rhestr.

'Rwan mae rheswm pob amser pam bod ideoleg arbennig yn tra arglwyddiaethu - ac mae'n hawdd gweld pam bod yr ideoleg yma yn bwysig yn oes Fictoria. Roedd Prydain yn ganol i ymerodraeth mwyaf yn hanes y Byd. Roedd rhaid wrth gyfiawnhad moesol tros yr ymerodraeth hwnnw - ac roedd uwchraddoldeb hiliol y sawl oedd yn rheoli yn darparu'r tirwedd deallusol i wneud hynny.

Mi soniais yn gynharach bod y Celtiaid tua hanner ffordd i fyny'r ysgol hil Fictorianaidd, ond dydi hynny ddim yn golygu bod parch mawr tuag atynt. Mae'r adroddiad a adwaenir fel Brad y Llyfrau Gleision yn adlewyrchu'n aml rhai o'r rhagfarnau Seisnig yn erbyn y Cymry - diffyg moesoldeb rhywiol ac ati. Mae'r un rhagfarnau i'w gweld yng ngwaith Caradog Evans.

Oherwydd bod anghytuno gwleidyddol mynych rhwng y Gwyddelod a'r Saeson yn gyffredin ar y pryd, roedd tueddiad i ragfarnau gwrth Wyddelig gael eu mynegi'n amlach. Mae i'w weld ym mhob man yn ystod oes Fictoria.

Er enghraifft, mewn llythyr at ei wraig nododd Charles Kingsley wedi ymweliad a Sligo yn 1860:

I am haunted by the human chimpanzees I saw along that hundred miles of horrible country. I don't believe they are our fault. I believe ... that they are happier, better, more comfortably fed and lodged under our rule than they ever were. But to see white chimpanzees is dreadful; if they were black, one would not feel it so much, but their skins, except where tanned by exposure, are as white as ours.

Disgrifiad yr hanesydd James Anthony Froude o Babyddion Gwyddelig yn 1845 oedd: "

more like tribes of squalid apes than human beings

Doedd gan ein cyfaill Robert Knox fawr i ddweud wrth y Gwyddelod chwaith.

the Celtic race does not, and never could be made to comprehend the meaning of the word liberty ... I appeal to the Saxon men of all countries whether I am right or not in my estimate of the Celtic character. Furious fanaticism; a love of war and disorder; a hatred for order and patient industry; no accumulative habits; restless, treacherous, uncertain: look at Ireland

Roedd y traddodiad yma o bortreadu'r Gwyddelod fel hil is ddynol yn cael ei gynrychioli'n weledol wrth gwrs - ac roedd y gynrychiolaeth yma ar ei mwuaf amlwg yng nghartwnau enwog y cylchgrawn Punch.






Ceir adlais o'r traddodiad gweledol hwn hyd heddiw, a bydd yn dod i'r wyneb o bryd i'w gilydd. Cartwn yn y Sun yn dilyn digwyddiad a arweiniodd at farwolaeth dau filwr y tu allan i fynwent Milltown ym Melfast yn 1988 yw'r isod.



Rwan mae ideolegau sydd wedi eu seilio ar y canfyddiad bod rhai grwpiau o bobl yn hiliol uwchraddol i grwpiau eraill yn hanesyddol wedi arwain at amgylchiadau lle mae'n bosibl caniatau i niferoedd sylweddol o bobl farw.

Ystyrier y newyn mawr yn Iwerddon yng nghyd destun agweddau'r sawl oedd yn rheoli er enghraifft. Mae hanes y newyn - An Gorta Mor yn weddol adnabyddus. Cafwyd cyfres o hafau pan fethodd y cynhaeaf tatws rhwng 1845 a 1852. Arweiniodd hyn at newyn, yn arbennig felly yng ngorllewin gwledig y wlad a bu farw tua miliwn o bobl, a bu'n rhaid i filiwn arall adael. Cafodd canoedd o filoedd o denantiaid man ffermwydd eu taflu oddi ar eu tir, a dadboblogwyd y gorllewin. Gadawyd cyrff marw ar ochr y lonydd am flynyddoedd wedyn oherwydd nad oedd neb i'w claddu. Nid yw poblogaeth yr ynys wedi cyrraedd lefel 1845 hyd heddiw.

Rwan mae cynhaeaf yn methu o bryd i'w gilydd - ond yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd nid yw hynny'n arwain at farwolaethau ar raddfa eang. Ond roedd Iwerddon yn allforio cyflenwadau sylweddol o fwyd o phob un o'i phorthladdoedd trwy gydol y cyfnod - ac roedd y porthladdoedd hynny yn cael eu hamddiffyn gan filwyr arfog. Nid oedd y papurau newydd Prydeinig yn trafferthu cuddio eu gorfoledd. Yn ol erthygl olygyddol y London Times (fel y'i gelwid ar y pryd:)

They are going. They are going with a vengeance. Soon a Celt will be as rare in Ireland as a Red Indian on the streets of Manhattan...Law has ridden through, it has been taught with bayonets, and interpreted with ruin. Townships levelled to the ground, straggling columns of exiles, workhouses multiplied, and still crowded, express the determination of the Legislature to rescue Ireland from its slovenly old barbarism, and to plant there the institutions of this more civilized land.

'Dydi hyn oll ddim yn golygu o anghenrhaid bod polisi bwriadol o hil laddiad (er ei fod yn awgrymu hynny'n gryf) yn cael ei weithredu - ond mae'n golygu nad oedd y wladwriaeth yn poeni'n ormodol am y drychineb anferth oedd yn mynd rhagddi y tu hwnt i'r Mor Celtaidd. Mae agwedd felly'n gwneud synnwyr yng nghyd destun yr ideoleg sydd wedi ei disgrifio uchod. Ac nid oedd digwyddiadau 1845 - 1852 heb eu cyd destun ehangach wrth gwrs. Mae un o gyfraniadau cynharaf y blog hwn yn tynnu sylw at ddogfen oedd wedi ei arwyddo gan y Cadfridog Amherst yn 1763. Amherst oedd prif swyddog Prydain yng Ngogledd America. Cynnwys y neges ydi:

You will do well to try to inoculate the Indians by means of [smallpox-infected] blankets, as well as to try every other method that can serve to extirpate this execrable race.

Roedd yr arfer o drosglwyddo afiechydon yn fwriadol ymysg Indiaid yn un o'r ffyrdd a ddefnyddwyd i ennill Gogledd America i'r dyn gwyn. Yr ochr arall i'r Byd yn Tasmania 'llwyddwyd' leihau poblogaeth brodorol Tasmania o 8,000 people yn 1803, i tua 300 erbyn 1833 i 47 yn 1847, 12 yn 1859, cyn cyrraedd sero 1876. Llofruddiaeth gydag arfau rhyfel oedd y prif ddull a ddefnyddwyd i wneud hyn.

Ac yna roedd yna India wrth gwrs. Ymddengys i rhwng 12 a 29 miliwn farw mewn gwahanol newynau yn ail hanner oes Fictoria. Yn 1877 ac 1878, pan roedd newyn enfawr yn ei anterth allforwyd 6.4 miliwn cant o wenith o India - record. Gorchmynwyd swyddogion i sicrhau nad oedd unrhyw gynlluniau i liniaru ar y dioddefaint yn cael ei weithredu. Aeth deddf trwy'r senedd yn 1877 i sicrhau at the pain of imprisonment private relief donations that potentially interfered with the market fixing of grain prices

Gorchmynodd yr Arglwydd Lytton prif ddyn Prydain yn India ar y pryd there is to be no interference of any kind on the part of Government with the object of reducing the price of food a (you are to) discourage relief works in every possible way.... Mere distress is not a sufficient reason for opening a relief work

Gellid mynd ymlaen ac ymlaen ar y cywair yma - ond does yna fawr o bwynt. Yr hyn sy'n bwysig i'w ddeall ydi bod pobl fel David Davies, sy'n ymfalchio mewn fersiwn arbennig o'r traddodiad gwleidyddol Prydeinig, yn ymfalchio mewn traddodiad sydd wedi achosi mwy o ddioddefaint na bron i unrhyw draddodiad gwleidyddol arall. Prin bod ganddynt hawl i fynegi barn ynglyn a materion sy'n ymwneud ag hil.

Thursday, January 08, 2009

Darogan Vaughan Roderick

Ymddengys bod Vaughan yn bwriadu 'sgwennu am y rhagolygon ar gyfer deg o etholaethau yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Y deg sedd mae'n eu hystyried yn 'ddiddorol' ydi:

Aberconwy
Gogledd Caerdydd
Ceredigion
Bro Morgannwg
Arfon
Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro
Dyffryn Clwyd
Ynys Môn
Maldwyn
Pen-y-bont

'Dwi ddim yn gweld rhai o'r rhain yn arbennig o ddiddorol - maent eisoes wedi eu colli a'u hennill - ond dyna fo - pawb a'i farn.

'Dwi'n edrych ymlaen at ddarllen yr hyn fydd gan Vaughan i'w ddweud - fel y bydd y rhai ohonoch sydd yn darllen y blog yma'n gwybod mi fyddaf i'n gwneud y math yma o beth o bryd i'w gilydd. Serch hynny, charwn i ddim ceisio darogan ar hyn o bryd, a'r rheswm am hynny ydi nad wyf yn gwybod pryd fydd yr etholiad yn cael ei gynnal. Yn yr etholiad yma bydd amseriad yn arbennig o bwysig.

Pe byddai'r etholiad wedi ei gynnal yn hanner cyntaf y flwyddyn diwethaf byddai cyfres faith o seddi Llafur yng Nghymru wedi syrthio. Yn wir mae'n bosibl mai'r unig sedd ddinesig fyddai ganddynt ar ol fyddai Dwyrain Abertawe, gyda eu tair sedd yng Nghaerdydd, eu dwy yng Nghasnewydd a Wrecsam yn cwympo.

Daeth tro ar fyd yn yr hydref wrth gwrs, gyda Llafur yn elwa o'r argyfwng economaidd - sy'n eironig ag ystyried eu bod nhw'n rhannol gyfrifol am ei achosi. Petai etholiad wedi ei gynnal bryd hynny (nid ei bod yn bosibl cynnal un wrth gwrs), byddant wedi colli tair neu bedair o seddi yng Nghymru efallai.

Yn fy marn bach i, yr hiraf y bydd Brown yn dileu etholiad yna'r mwyaf o seddi y bydd yn cael eu colli yng Nghymru, ac yn y DU. Os bydd etholiad yng ngwanwyn 2010, bydd blwyddyn a hanner o ddirwasgiad economaidd chwyrn y tu ol i bobl, gyda chanoedd o filoedd yn ychwanegol yn ddi waith a degau o filoedd wedi colli eu cartrefi a'r rhan fwyaf o bobl wedi dioddef mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. 'Dydi pobl ddim yn pleidleisio i'r llywodraeth o dan amgylchiadau fel hyn. Yn ychwanegol, bydd y naratif idiotaidd, ond effeithiol, bod Brown yn achub y Byd yn hen, hen hanes.

Os bydd yr etholiad yn cael ei gynnal yn fuan - ym mis Mawrth dyweder - bydd Llafur yn debygol o golli'r etholiad a nifer o seddi yng Nghymru (hanner dwsin efallai), ond ni fyddant yn colli'n drwm. Byddant mewn sefyllfa i edrych ar y Toriaid yn ceisio delio gyda'u llanast nhw eu hunain ac yn colli eu poblogrwydd. Yn ychwanegol os bydd y llywodraeth Doriaidd yn wan, gallai syrthio mewn dwy neu dair blynedd.

Mae Brown yn ymweld a gwahanol ranbarthau ar hyn o bryd er mwyn gwrando ar broblemau economaidd yr ardaloedd hynny - meddai fo. Y gwir reswm wrth gwrs ydi ei fod eisiau ei wep yn y papurau lleol, sy'n awgrymu ei fod yn cadw ei opsiynau i gael etholiad buan yn agored.

Serch hynny 'dwi ddim yn gweld Brown yn mynd yn fuan - mae'n wleidydd ceidwadol a phetrusgar iawn. Fy nheimlad i ydi y bydd yn rhoi ei hun ar drugaredd yr etholwyr yn yr hydref - ac y bydd yn colli'r etholiad yn drwm - ond nid mor drwm ag y byddai'n colli petai'n aros am y gwanwyn.

Ni fydd yn etholiad da i Lafur yng Nghymru.

Sunday, January 04, 2009

Cleiantiaeth gwleidyddol - derbyniol?

Mae'r ddadl isod ynglyn a chynllunio yn codi cwestiynau ynglyn a pha mor dderbyniol ydi hi i bleidiau gwleidyddol weithredu'n wleidyddol mewn ffordd sy'n rhoi cymorth i rai grwpiau arbennig o bobl - eu cefnogwyr eu hunain, neu o leiaf i bobl sydd a'r potensial i fod yn gefnogwyr. Cleiantiaeth ydi'r term am hyn. Mae'n fater llawer ehangach na chynllunio wrth gwrs - ond mae'r ddadl ac addasu polisiau cynllunio yn gor gyffwrdd - waeth i mi fod yn onest am hynny.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod hyn yn digwydd trwy'r amser. Esiampl o gleiantiaeth gwleidyddol mewn gwirionedd ydi'r ffaith bod Llywodraeth y Cynulliad yn gwario'n sylweddol uwch mewn rhannau di freintiedig o Gymru. Yn amlwg mae dadl tros wneud hynny - delio gyda thlodi ac ati - ond mae dadl o rhyw fath yn ddi eithriad tros gleiantiaeth gwleidyddol. Mae polisi newydd y Toriaid o dorri treth ar gynilion yn esiampl arall. Mae'r bobl sydd gyda chynilion yn dioddef ar hyn o bryd oherwydd cyfraddau llog isel, ac mae'r Toriaid yn ceisio ennill pleidleisiau'r grwp yma o bobl. Maent yn ceisio eu hanfon i'w corlan etholiadol nhw eu hunain os y mynwch.

Gall ymddangos mewn pob math o ffyrdd. Byddwn yn dadlau mai cleiantiaeth (di gost) o fath oedd penderfyniad y llywodraeth Lafur diwethaf i wneud hela llwynog gyda chwn yn anghyfreithlon yn ymgais i blesio un garfan etholiadol (pobl dosbarth canol dinesig - sydd yn gydadran bwysig o glymblaid etholiadol Llafur newydd) ar draul carfan arall (pobl sy'n byw mewn llefydd gwledig, a sy'n sicr ddim yn rhan o'r glymblaid honno). Mae unrhyw bolisiau sy'n hyrwyddo buddiannau lleiafrifoedd ethnig neu ieithyddol yn agored i'r cyhuddiad o gleiantiaeth.

Yn wir, mae modd dadlau bod llwyddiant hir dymor y Blaid yng Ngwynedd yn rhannol yn dilyn o weithredu yn y ffordd yma. Daeth y Blaid i ddealltwriaeth gyda llywodraeth Lafur Callaghan yn ystod misoedd olaf y llywodraeth hwnnw i'w cefnogi am bris. Un o'r pethau oedd rhaid i'r llywodraeth ei wneud oedd cytuno i greu cynllun i ddigolledu chwarelwyr oedd yn dioddef o niwmoconiosis. Roedd hyn yn fater pwysig yn nwy sedd seneddol y Blaid yn y Gogledd Orllewin gan bod nifer sylweddol o ddynion y ddwy etholaeth yn gyn chwarelwyr.

Pan ddaeth etholiad cyffredinol yn 79, gwnaeth y Blaid yn dda yng Ngwynedd - er bod yr etholiad yn un hynod siomedig yng ngweddill Cymru. 'Rwan roedd nifer o resymau am hyn - gan gynnwys ansawdd yr aelodau seneddol. Ond mae'n anodd iawn gen i gredu nad oedd cysylltiad gyda'r cytundeb efo'r llywodraeth Lafur. Aeth y Blaid ymlaen i adeiladu cefnogaeth sylweddol yn y ddwy etholaeth tros y degawdau dilynol, gan ddod i ddominyddu gwleiddiaeth ar pob lefel yn yr ardal.

Dydi hyn ddim yn golygu o anghenrhaid bod y cytundeb niwmoconiosis yn anheg wrth gwrs - i'r gwrthwyneb, y sefyllfa oedd yn bodoli cyn y cytundeb oedd yn anheg o dan unrhyw ystyriaeth gwrthrychol.

Bu farw arwr gwleidyddol fore Sadwrn - Tony Gregory. Mae'n debyg na fydd llawr o ddarllenwyr y blog hwn wedi clywed amdano, ond roedd yn un o bedwar TD (aelod seneddol) Dublin Central. Gwleidydd annibynnol oedd Tony. Roedd yn tynnu ei gefnogaeth o un o ardaloedd mwyaf di freintiedig y ddinas - ardal etholiadol y North Inner City. I'r rhai ohonoch sy'n ymweld a Dulyn, mae'n eithaf sicr eich bod wedi mynd trwy'r ardal - mae'n cynnwys O'Connell Street a'r rhan fwyaf o ganol y ddinas i'r gogledd o'r Liffey.

Un o'r prif resymau pam roedd Tony yn cael ei edmygu ymhell y tu hwnt i'w etholaeth oedd oherwydd ei ddewrder a'i ymroddiad i'w etholwyr - rhai o'r bobl mwyaf di freintiedig yn y Weriniaeth. Cafodd ei garcharu am bethefnos ym 1987 am gymryd rhan mewn protest i gefnogi masnachwyr stryd, ac roedd ei safiad cyhoeddus yn erbyn y gwerthwyr cyffuriau oedd yn dominyddu rhannau o'i etholaeth yn yr 80au - a'i gefnogaeth i ddulliau - ahem - uniongyrchol o gael gwared ohonynt yn rhywbeth oedd yn creu cryn dipyn o risg personol iddo.

Etholwyd Tony gyntaf fel TD yn etholiad cyffredinol 1982 - ac o fewn diwrnodiau roedd wedi cyflawni un o'r gweithredoedd gwleidyddol cleiantyddol mwyaf di gywilydd yn hanes gwleidyddiaeth Ewrop. Roedd arweinydd Fianna Fail ar y pryd - yr enwog Charlie Haughey mewn penbleth. Roedd yr etholiad yn agos iawn, ac roedd Charlie angen i Tony bleidleisio trosto yn y Dail - neu o leiaf beidio a phleidleisio yn ei erbyn er mwyn iddo gael ei ethol yn Taoiseach. Y broblem oedd nad oedd Tony yn hoff iawn o Charlie, ac roedd yn casau ei brif gyfaill gwleidyddol, Bertie Ahern, gyda chas perffaith. Ond roedd ganddo ei bris, a'r pris oedd £80,000,000.

Er mwyn iddo beidio a phleidleisio yn ei erbyn roedd rhaid i Haughey gytuno i gyfres maith o gonsesiynau - y rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud a chanol Dulyn, a llawer o'r rheiny o fantais i'r North Inner ei hun - £4,000,000 er mwyn creu 500 o swyddi yn y North Inner, 440 ty cyngor yng nghanol Dulyn a 1,600 o rai eraill ar draws y ddinas, gwladoli Melin Bapur Clondalkin am bod bygythiad y byddai'n cau, grantiau sylweddol i ddennu busnes i'r ddinas, cardiau meddygol am ddim i pob pensiynwr, cyflogi llawer mwy o athrawon anghenion addysgol arbennig yng nghanol y ddinas ac ati, ac ati. (Gyda llaw, ymddengys i Tony wneud i'r trafodaethau gyda Haughey barhau am dair awr a hanner yn fwriadol oherwydd ei fod yn gwybod bod Bertie Ahern yn eistedd yn y car y tu allan yn barod i ddreifio'r Bos adref).

Fel mae'n digwydd ni chafodd y rhan fwyaf o'r arian ei wario oherwydd i lywodraeth Haughey syrthio cyn diwedd y flwyddyn, ond roedd dyfodol gwleidyddol Tony wedi ei sicrhau. Er bod gwleidyddion annibynnol yn cael eu hethol yn lled aml yn y Weriniaeth, fel rheol nid oes iddynt fywyd gwleidyddol hir. Bron yn ddi eithriad byddant yn cael eu targedu gan y prif bleidiau a byddant yn colli eu seddi mewn etholiad neu ddwy. Ail etholwyd Tony yn hawdd yn yr wyth etholiad cyffredinol dilynol, ac roedd yn TD hyd y diwrnod y bu farw - ac roedd hynny mewn etholaeth lle mae'r gystadleuaeth etholiadol yn ddi eithriad yn wirioneddol ffyrnig.

'Rwan roedd elfennau rhyddfrydig a llawer o'r wasg wedi ei ffieiddio at y bargeinio 'anheg' a'r gwleidydda noeth gleiantyddol yma (am gwahanol resymau 'doedd o ddim yn poeni botwm ar Tony na Charlie). Eu dadl oedd ei fod yn anheg i elfennau eraill mewn cymdeithas. Dyma'r brif ddadl yn erbyn cleiantiaeth - er nad ydi natur yr anhegwch yn gwbl glir pob tro - gyda chynllunio er enghraifft.

Ond mae ffordd eraill o edrych ar bethau. Ar y pryd roedd ardaloedd dosbarth gweithiol canol Dulyn - yn arbennig y rhan ogleddol ohono ymysg y llefydd tlotaf yng Ngorllewin Ewrop, ac wedi dioddef o dan wariant cyhoeddus a than fuddsoddiad dybryd am ddegawdau. Roedd cyffuriau yn broblem barhaus a difrifol ac roedd rhannau o'r ardal yn rhy berygl i gerdded trwyddynt wedi iddi nosi. Roedd ymysg y llefydd mwyaf di galon dan haul i fagu plant - ac roedd yna lawer iawn o blant yno. I Tony roedd yn cymryd mantais o gyfle unwaith mewn oes i wella ansawdd bywydau pobl oedd wedi eu bradychu a'u hanwybyddu gan y pleidiau gwleidyddol a'r gyfundrefn. Fedra i yn un ddim edrych i lawr fy nhrwyn ar yr opertiwnistiaeth yma - roedd Tony'n gywir i wneud yr hyn a wnaeth.

Ac fel arfer efo'r blog yma daw hyn a ni'n ol at ni ein hunain, rwan. Y ffaith syml (ond anymunol efallai) ydi bod cleiantiaeth ar rhyw ffurf neu'i gilydd yn rhan o wleidyddiaeth - ac felly mae wedi bod erioed. 'Dydi hi ddim yn gwneud synwyr gwleidyddol nag etholiadol i beidio a cheisio amddiffyn buddiannau unrhyw grwp o gwbl. Byddai hynny'n hunanladdiad etholiadol. Mater o gydbwyso gwahanol ystyriaethau ydyw - Pa mor anghenus ydi'r grwp rydym yn amddiffyn eu buddiannau? Ydi'r hyn rydym yn ei wneud yn cael effaith negyddol sylweddol ar eraill? Ydi'r hyn rydym yn ei wneud yn gyson gyda'n gwerthoedd sylfaenol ein hunain?

Fel gyda chymaint o bethau mewn bywyd does yna ddim atebion syml - ond heb unrhyw amheuaeth mae yna'r fath beth a gwleidyddiaeth rhy egwyddorol - a dydi gwleidyddiaeth felly ddim yn debygol o lwyddo'n etholiadol - ac heb lwyddo'n etholiadol, ni ellir gweithredu i hyrwyddo unrhyw egwyddorion o gwbl.

Friday, January 02, 2009

Sut y gall y Blaid yng Ngwynedd gael gwared o'i phlentyn siawns

Mi'r ydw i weithiau (wel yn aml) yn cael fy nghyhuddo o fod yn ddilynwr un llygeidiog i Blaid Cymru. Efallai y byddai'n ychydig o syndod i ambell un fy mod wedi derbyn cwynion gan fwy nag un aelod blaenllaw o'r Blaid oherwydd peth o'r cynnwys sy'n ymddangos yma o bryd i'w gilydd. 'Dwi hefyd wedi derbyn cwynion ac yn wir bygythiadau gan bobl o bleidiau a grwpiau eraill - felly 'tydi cadw blog fel hwn ddim yn ffordd effeithiol iawn o fod yn boblogaidd - ond dyna fo, mae yna bethau sydd angen eu dweud o bryd i'w gilydd.

Mae rhai o'r sylwadau sydd i ddilyn yn feirniadol o'r Blaid yng Ngwynedd - ond 'dwi'n mawr obeithio y byddant yn cael eu cymryd fel beirniadaeth adeiladol.

Fel mae pawb yn gwybod mae'n debyg, collodd Plaid Cymru gyfres o seddi yn Ne a Gorllewin Gwynedd yn ystod etholiadau lleol eleni. Mae llai o sylw wedi ei roi yn y wasg leol a'r blogiau sy'n ymddiddori yn y pethau hyn, mai dyma etholiadau lleol mwyaf llwyddiannus y Blaid erioed y tu allan i'r ardaloedd hynny - ac mae hynny yn cynnwys Dwyrain Gwynedd.

Roedd cyd destun ehangach i golledion y Blaid mewn rhannau o Wynedd ac roedd hwnnw'n gyd destun Cymru gyfan. Dioddefeodd y pleidiau oedd yn rheoli ar hyd a lled Cymru, ac mae rhesymau hawdd i'w hadnabod am hynny - y ffaith bod amgylchiadau ariannol yn anodd a bod y pleidiau oedd yn rheoli yn gorfod gweinyddu'r rheiny. Bydd pethau'n waeth tros y bedair blynedd nesaf, ac o ganlyniad bydd y Blaid o dan fwy o bwysau yng Ngwynedd. O safbwynt etholiadau San Steffan, mae mantais i'r Blaid fod wedi gwneud yn dda, ond methu ag ennill grym yng Ngheredigion a Chaerfyrddin. Bydd rhaid i weinyddiaethau sydd yn cynnwys y Rhyddfrydwyr a Llafur weithredu toriadau yn y ddwy sir yn y misoedd cyn etholiad cyffredinol.

Roedd y cynllun ail strwythuro ysgolion yn broblem ychwanegol yng Ngwynedd wrth gwrs. Mae'r blog yma wedi dadlau sawl gwaith bod natur cefnogaeth y Blaid yng Ngwynedd yn ei hanfod yn wrth sefydliadol (mae rhesymau hanesyddol am hyn - ac efallai y cawn gyfle i edrych ar hynny rhywbryd), a bod hynny'n golygu ei bod yn hanfodol o safbwynt etholiadol nad ydi'r Blaid yn cael ei gweld fel un sefydliadol. Roedd y broses ymgynghori ynglyn ag ail drefnu ysgolion yn un a wnaeth i'r Blaid ymddangos yn sefydliadol

'Rwan 'dydi hyn ddim yn golygu na ddylai'r Blaid gael ei hun mewn sefyllfaoedd lle maent yn ennill ac yn ymarfer grym - i'r gwrthwyneb. Ond mae'n golygu y dylid ymddwyn mewn ffordd arbennig pan enillir grym - fel mae'r Blaid wedi ei wneud yng Ngwynedd ers cryn gyfnod bellach. I symleiddio pethau mae'n bwysig creu'r ddelwedd ein bod yn defnyddio strwythurau sefydliadol i hyrwyddo buddiannau grwpiau o bobl sy'n ein cefnogi - a sydd yn eu hanfod yn wrth sefydliadol. I'w roi mewn ffordd arall, mae'n bwysig peidio a dangos mwy o barch at y strwythurau sefydliadol yr ydym yn eu rheoli nag ydym yn ei ddangos at y bobl sydd yn ein hethol.

'Rydym eisoes wedi edrych ar sut oedd y llanast ysgolion yn torri'n gwbl groes i'r egwyddor yma. Nid y bennod ail strwythuro ysgolion ydi'r unig esiampl o fethiant yn y cyswllt yma - mae cynllunio wedi bod yn fater cynhenus ers talwm mewn ardaloedd gwledig. Ysgolion ddaeth a phethau i fwcwl mewn aml i gymuned wledig, ond mae'r ffordd mae polisi cynllunio'r sir yn cael ei weithredu wedi bod yn erydu cefnogaeth y Blaid ers tro, ac mae'n parhau i wneud hynny.

Mae cynllunio'n bwysig - mae'n fater sy'n effeithio yn uniongyrchol ar le mae pobl yn byw, neu lle mae eu plant a'u wyrion yn byw. Mae polisiau cynllunio yn aml yn penderfynu os ydi pobl yn gallu byw yn y pentrefi lle cawsant eu magu, os ydynt yn gallu byw yn agos at gefnogaeth eu teulu estynedig - rhywbeth sy'n bwysig os ydi'r ddau riant yn gallu cael mynedoiad llawn i'r farchnad waith. Does yna prin ddim byd sy'n bwysicach i bobl na'r materion hyn.

Cyn mynd ymlaen hoffwn dynnu sylw at erthygl yn rhifyn cyfredol y Ddraig Goch gan Dafydd Iwan. Ymdrin a pholisi cenedlaethol y Blaid ar gynllunio mewn ardaloedd gwledig mae'r erthygl. Fedra i ddim anghytuno efo dim yn yr erthygl - dim. Mae'n amlinelliad o bolisi ymarferol, hyblyg ac yn bwysicach na dim, yn un ag iddo gydymdeimlad ag anghenion gwledig. Y broblem yng Ngwynedd ydi ein bod wedi gorfodi polisi cenedlaethol pobl eraill gyda gormod o arddeliad yn lleol. Mewn geiriau eraill rydym wedi dangos gormod o barch at strwythur sefydliadol hyd yn oed pan mae'n ymarfer polisi nad ydym yn cytuno efo fo. O safbwynt etholiadol mae hyn yn ymgais ar hunan laddiad. Ystyrier y stori isod er enghraifft:

Gwnaed cais am hawl i godi ty fforddiadwy yn ddiweddar gan gwpl ifanc, lleol o Drefor, Dwyfor. Mae'r cwpl a'u plentyn yn byw mewn carafan y tu ol i dy rhieni'r gwr. 'Rwan codi ty eu hunain ydi unig opsiwn ymarferol os ydyn nhw am fforddio ty addas iddyn nhw eu hunain i aml i gwpl ifanc yn y Gymru wledig. Y drefn arferol ydi eu bod yn prynu darn o dir ac yn trefnu'r adeiladu eu hunain. Gellir gwneud hyn yn rhad trwy wneud peth o'r gwaith eu hunain, cael cyfeillion sydd efo arbenigedd i wneud rhannau ohono'n rhad ac ati. Yn yr achos yma roedd y cwpl yn berffaith fodlon i ddynodi'r ty fel un fforddiadwy sy'n golygu bod cyfyngiadau sylweddol pan mae'n dod i'w werthu ymlaen yn ddiweddarach. Eisiau cartref, nid buddsoddiad oeddynt.

Roedd caniatau hawl cynllunio ar y darn tir y gwnaed cais i godi ty arno yn groes i bolisi cynllunio Cyngor Gwynedd. Efallai y dyliwn aros yma am ennyd i egluro'n fras y polisi hwnnw. Ceir rhai lleoedd dynodedig lle caniateir adeiladu. Mae'r lleoedd yma fel rheol y tu mewn i bentrefi. Mae o fewn y polisi hefyd i ganiatau adeiladau ar dir sydd yn ffinio efo'r darnau tir dynodedig.

Caniatawyd y cais yn wreiddiol gan y Pwyllgor Ardal (Dwyfor) er ei fod y tu allan i'r polisi ar y sail ei fod yn ffinio gyda darn o dir lle'r oedd ty eisoes yn cael ei godi arno. Roedd y darn tir hwnnw yn ffinio gyda thir dynodedig.

Cyfeirwyd y cais i'r Pwyllgor Canol gan y swyddog, ac fe'i gwrthodwyd oherwydd ei fod y tu allan i ganllawiau'r polisi. Pleidleisiodd y cynghorydd annibynnol lleol a chynghorydd Llais Gwynedd o blaid y cais, ond pleidleisiodd y tri aelod Plaid Cymru, a'r gweddill yn erbyn. Ni chaniatawyd y cais, ac mae'r teulu o dan sylw yn byw mewn carafan o hyd.

'Rwan, mae yna nifer o bethau i'w dweud yma. Yn gyntaf roedd penderfyniad y Pwyllgor Canol yn unol a pholisi'r Cyngor - does yna ddim amheuaeth am hynny (Mae polisi'r cyngor wedi ei yrru i raddau helaeth gan gyfarwyddiadau'r Cynulliad wrth gwrs). Ond - ac mae'n ond mawr - mae dadleuon da tros dorri'r polisi yn yr achos yma.

Yn gyntaf, fel y nodwyd mae'r safle, er ar gyrion y pentref yn ffinio efo tir lle ceir adeiladu ar hyn o bryd. Yn ail mae ffin naturiol i'r pentref - llwybr i'r fynwent - dau ddwsin o lathenni ymhellach allan o'r pentref. Yn drydydd nid oes unrhyw dir arall ar gael ar hyn o bryd i adeiladu arno yn y pentref. Dydi'r darn arall o dir dynodedig yn y pentref ddim ar werth ar hyn o bryd - a beth bynnag nid yw'n addas ar gyfer datblygiad unigol - byddai'n rhaid wrth gwmni adeiladu i'w ddatblygu. Gan nad oes unrhyw gwmniau adeiladu am fuddsoddi yn y farchnad gydag amodau fel y maent ar hyn o bryd, 'does yna ddim tir i adeiladu arno yn Nhrefor, ac felly ni all Trefor ddatblygu.

'Rwan mae yna geisiadau am hawl cynllunio yn cael eu gwneud sydd ymhell y tu allan i'r polisi, a lle nad oes dadl tros dorri'r polisi. Oddi tan yr amgylchiadau hynny, nid oes dewis mewn gwirionedd ond gwrthod. Byddai methiant parhaus i gydymffurfio a pholisiau cynllunio'r Cynulliad yn gallu arwain at golli'r hawl i reoli'r broses yn ei chyfanrwydd - a byddai hynny'n drychineb i gymunedau gwledig yng Ngwynedd.

Ond, nid yw'r achos 'dwi wedi ei amlinellu - ynghyd ag aml i achos arall yn bell y tu allan i'r polisi. Neu i roi'r peth mewn ffordd mwy rhesymegol - mae'n weddol hawdd creu naratif effeithiol i gyfiawnhau torri'r polisi.

Dylid torri'r polisi pan mae gwneud hynny yn ateb gofynion lleol, a phan ei bod yn bosibl cyfiawnhau hynny. Mae dau reswm am hyn.

Ymwna'r cyntaf a gwleidyddiaeth etholiadol - mae'n llesol yn etholiadol i'r Blaid godi dau fys ar reolau sefydliadol, ac mae'n bwysicach iddi gael ei gweld fel plaid sy'n fodlon troi pob carreg i roi cymorth i bobl leol.

Ymwna'r ail a bod yn driw i bolisiau cenedlaethol ni ein hunain - maent yn llawer callach na'r rhai cenedlaethol presenol, a dylid gwneud pob dim posibl i wneud i'r ffordd mae'r gyfundrefn cynllunio yn gweithredu yn y llefydd yr ydym yn eu rheoli, neu gyda dylanwad ynddynt, mor debyg a phosibl i'n polisiau cenedlaethol ni ein hunain. Mae gweithredu fel hyn yn rhesymegol, yn gyson, yn llesol i'r Blaid ac yn rheoli'r risg o gael ymyrraeth o'r tu allan. 'Dydi plesio swyddogion cyflogedig ddim yn rhan o'r cyfrifiad yma. Pwrpas a dyletswydd swyddogion cyflogedig ydi gwireddu ewyllus cynghorwyr etholedig - nid y gwrthwyneb.

Yn anffodus mae tueddiad y Blaid yng Ngwynedd i ganiatau i'w delwedd ddatblygu i fod yn un o blaid sefydliadol, wedi creu tir gwleidyddol gwag, ac mae hwnnw wedi ei lenwi gan Lais Gwynedd. I'r graddau hynny creadigaeth y Blaid ydi Llais Gwynedd - rhyw fath o blentyn siawns os y mynnwch - un o ganlyniadau anffodus posibl gweithredu'n amhriodol.

'Dwi ddim yn credu bod dyfodol hir dymor i Lais Gwynedd - dydi hi ddim yn bosibl creu plaid wleidyddol trwy ddod ag amrediad eang o elfennau gwleidyddol gwrthnysig at ei gilydd. Mae'n ddigon anodd weithiau i bleidiau sy'n cynnwys pobl sydd a llawer iawn yn gyffredin yn wleidyddol gadw ar yr un llwybr, heb son am grwp sydd ond yn gytun ynglyn a'r hyn nad ydynt yn ei hoffi.

Mater cymharol fach felly ar un olwg ydi 'delio' a Llais Gwynedd - eu hamddifadu o'u tir gwleidyddol. Golyga hyn newid y ddelwedd sydd i'r Blaid yn rhannau gwledig y sir - ac mae hynny yn ei dro yn golygu addasu rhyw gymaint ar y ffordd yr ydym yn rheoli - yn arbennig felly wrth ddelio a materion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar bobl.

'Dwi ddim eisiau rhoi'r argraff nad ydwyf yn sylweddoli bod rhaid gwneud rhai pethau amhoblogaidd - 'does yna ddim dewis o dan yr amgylchiadau presennol - mi fydd yna byllau nofio yn gorfod cau, a thai hen bobl, a thoiledau. Bydd rhaid i pob cyngor wneud y math yma o beth yn yr amgylchiadau argyfyngys sy'n bodoli mewn llywodraeth leol ar hyn o bryd. Ond mae llawer iawn y gellir ei wneud i newid delwedd y Blaid yn lleol lle nad oes oblygiadau cyllidol. Mae hyn yn arbennig o wir am faes cynllunio.

Un pwynt bach olaf - mae hefyd yn bwysig i droi pob carreg er mwyn sicrhau bod y polisi cenedlaethol yn cael ei dderbyn gan Lywodraeth y Cynulliad, a bod y polisi hwnnw yn cael ei adlewyrchu yng nghyfarwyddiadau'r Cynulliad.

Wednesday, December 31, 2008

Delweddau na fyddwch yn eu gweld ar Sky, na'r BBC nag yn y papur newydd



Lluniau a geir uchod o gost dynol y don gyntaf o ymysodiadau ar Ragfyr 27.

Fel 'dwi'n postio hwn 'dwi'n gwrando ar rhyw ddynas o lywodraeth Israel yn dweud nad oes gan ei llywodraeth unrhyw ddewis ynglyn a'r hyn maent yn eu gwneud ar Lain Gaza, ac y byddai unrhyw wlad arall yn gwneud yr un peth.

Wna i ddim sylw ynglyn a hynny am y tro, ond mi hoffwn nodi bod canlyniadau cwbl ragweladwy pan mae awyrennau F16 yn saethu taflegrau i un o'r llefydd gyda'r dwysedd poblogaeth uchaf yn y byd.

Un o'r canlyniadau hynny ydi bod cnawd dynol yn cael ei losgi ei ddarnio a'i rwygo - ac mai cnawd plant ydi llawr o hwnnw.

Gobeithio ei bod yn meddwl bod deilliannau ymdrechion llu awyr ei gwlad yn cyfiawnhau'r gost.

Cais bach cwrtais gyfeillion

Gadawyd honiadau ynglyn ag un o gynghorwyr Llais Gwynedd ar waelod y cyfraniad diweddaraf ar y blog yma.

'Dwi wedi chwalu'r sylw oherwydd nad oes gen i ddim ffordd o wybod os oedd yr honiad yn wir neu beidio.

Mi fyddaf yn ceisio osgoi cymedroli, ac mi fyddaf yn gadael i unrhyw un wneud unrhyw sylw mae eisiau ei wneud - cyn belled a fy mod yn hapus nad ydi'r sylw hwnnw'n enllibus.

'Dwi'n gwybod fy mod yn gwneud honiadau fy hun o bryd i'w gilydd - ond fydda i byth yn gwneud rhai nad wyf yn 100% siwr eu bod yn wir. Fedra i ddim bod yn siwr am rhai sylwadau sy'n cael eu gadael yma, a chan mai fy mlog i ydi hwn, fi fyddai'n gyfrifol petai rhywun yn mynd i gyfraith.

Felly, os gwelwch yn dda foneddigion - byddwch yn gyfrifol pan rydych yn gadael sylwadau yma.

Monday, December 29, 2008

'Ymadawiad' Linda Wyn Jones a grwp y Blaid ar Gyngor Gwynedd

Mae'n hysbys i rai ohonoch am wn i bod Gwilym Euros wedi dyfynnu'r honiad yn y Caernarfon & Denbigh - papur sydd prin yn un o brif gyfeillion y Blaid yng Ngwynedd - bod Linda Wyn Jones wedi ymadael a grwp y Blaid.

A bod yn deg a Gwilym, 'dydi o ddim yn honni bod Linda wedi gadael, er ei fod yn nodi - yn gwbl gywir - ei bod yn anhapus a rhai penderfyniadau diweddar gan y cyngor. Nodi mae o bod y stori yn y C&D. 'Dydi hyn ddim yn atal Alwyn ap Huw rhag dweud i Gwilym wneud yr honiad. Mae gwneud sylwadau camarweiniol yn nodwedd o flogiau Alwyn wrth gwrs, ac mae wedi cynhyrfu cymaint mae'n mynd ymlaen i wneud cyfres o honiadau tra anhebygol - megis y gallai deg cynghorydd adael - ac mae hyd yn oed yn rhagweld y bydd Llafur yn 'cadw' Arfon - er gwaethaf y gweir anferth gaethant yn yr etholaeth gan y Blaid yn yr etholiadau Cynulliad a'r etholiadau lleol diweddar.

Beth bynnag, rhydd i bawb ei farn - ond mi hoffwn wneud un sylw bach. Nid oes yna unrhyw wirionedd yn y stori yn y Caernarfon & Denbigh i Linda adael grwp y Blaid ar Gyngor Gwynedd.

Thursday, December 25, 2008

Rol y snob ideolegol yn y teulu cenedlaetholgar

Mae'r ddadl rhwng Rhydian, gwahanol gyfranwyr anhysbys a Hogyn o Rachub yma wedi codi nifer o gwestiynau digon diddorol. Mi gefais gip y diwrnod cyn y Nadolig ar y cwestiwn o pryd y dylid cynnal refferendwm. Fy mwriad heddiw ydi cael golwg ar fater arall - rol y snob ideolegol mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Efallai bod snob ideolegol yn derm ychydig yn gas - chwilio am derm am ideological purist oeddwn i, ond mae'n mynegi'r hyn 'dwi'n ceisio ei ddweud cymaint yn well. Y peth cyntaf i'w ddeall am y snob ideolegol ydi nad oes ganddo unrhyw ddiddordeb mewn, na dealltwriaeth o wleidyddiaeth etholiadol. Ei brif ddiddordeb ydi harthio nad ydi pobl eraill cyn bured a fo ei hun. Felly mae'r snob ideolegol sydd hefyd yn genedlaetholwr Cymreig yn meddwl ei fod yn well cenedlaetholwr na neb arall, ac mai ei le fo yn nhrefn pethau ydi tynnu sylw at pob dim mae ei gyd genedlaetholwyr yn eu gwneud nad ydynt yn genedlaetholgar yn eu hanfod.

'Dwi wedi canfasio tros rhyw Bleidiwr neu'i gilydd ers etholiad cyffredinol 1983. Yn ystod yr amser yna gallaf ddweud gyda pheth hyder fy mod wedi sefyll wrth ddrws miloedd ar filoedd o bobl yn trafod gwleidyddiaeth efo nhw. Mae pobl yn barod iawn i drafod yr hyn sydd yn eu poeni.

Y themau mwyaf cyffredin ydi materion yn ymwneud a thai a chynllunio, swyddi, cymdogion sy'n defnyddio cyffuriau ac yn ymddwyn yn wrth gymdeithasol, treth y cyngor, datblygiadau lleol ('dwi wedi clywed am y datblygiad ar Ddoc Fictoria mor aml nes fy mod eisiau sgrechian pob tro 'dwi'n meddwl am y lle). Roedd y rhyfel yn Irac yn codi ar aml i stepan drws yn ystod y ddwy etholiad diwethaf - roedd pawb, yn ddi eithriad yn erbyn.

Mae pobl yn codi pob math o bethau eraill hefyd - llawer ohonynt yn bisar - cefais un cyfaill oedd wedi gwisgo fel dynas yn dweud mai hawliau hoyw oedd y peth mawr iddo fo a chymydog agos oedd gyda baner fawr yr hen Dde Affrica (hy baner y De Affrica aparteid) yn bytheirio bod gormod o bobl sydd a gwyrdroedigaethau rhywiol yn poblogi San Steffan. 'Dwi wedi clywed llawer un yn dweud nad ydynt am bleidleisio oherwydd eu bod eisoes wedi pleidleisio tros Grist. Mae yna foi yn Twtill sy'n poeni bod Caernarfon yn cael ei boddi gan bobl dduon, ac mae yna foi yn yr un rhan o'r dref sy'n poeni bod gwreiddiau coeden sy'n tyfu o flaen ei dy yn mynd i chwalu'r seiliau a ddymchwel ei gartref i'r llawr. Mae'n fodlon pleidleisio i'r sawl sy'n fodlon torri'r goeden. 'Dwi hefyd wedi clywed aml i fan swyddog cyngor yn gwrthod dweud i bwy maent am bleidleisio oherwydd bod eu swydd mor ofnadwy, ofnadwy o bwysig nes ei bod yn hanfodol bod yn ddi duedd pob amser.

'Dwi erioed - ddim unwaith wedi clywed neb yn codi mater cyfansoddiadol o unrhyw fath - dim byd ynglyn a datganoli, dim ynglyn a'r frenhiniaeth, dim ynglyn a Thai'r Arglwyddi a dim ynglyn ag annibyniaeth i Gymru, dim gair, dim sill, dim byd - zilch.

Mi fedra i gyfri ar un llaw yr adegau mae pobl wedi codi statws y Gymraeg. Y tro diwethaf i hyn ddigwydd oedd ar stad dai cyngor 'Sgubor Goch ar gyrion Caernarfon rhyw dair blynedd yn ol. Daeth dyn mewn tracwisg a chap pel fas i'r drws a chymryd fy mhapur o fy llaw ac edrych trosto'n frysiog cyn dweud - Da iawn chdi cont felna mae'r peth i fod yn Gnarfon Cymraeg gynta a Susnag wedyn nath y boi Tori roid papur i fi yn dre ddoe efo'r Susnag gynta rel ffycin Cardiff mi nes i stwffio fo i lawr i gorn gwddw fo dwi'm yn fotio i neb cofia gas gin i politics. 'Dwi ddim yn gwamalu.

'Rwan 'dydi hyn ddim yn golygu nad ydi'r materion sydd yn agos at galon HRF, HOR a'u tebyg yn ogystal ag i'r rhan fwyaf o aelodau a gweithwyr y Blaid ddim yn bwysig i'r cyhoedd yn gyffredinol. 'Dwi'n siwr eu bod yn bwysig i lawer o bobl - ond dydyn nhw ddim yn flaenoriaethau uchel iawn i bobl pan maent yn meddwl am sut i bleidleisio. Mae pobl sy'n ymddiddori mewn materion ieithyddol a chyfansoddiadol yn fwy tebygol o bleidleisio i'r Blaid wrth gwrs - ond 'dydi naratif syml a di gyfaddawd ddim yn ennill digon o bleidleisiau i ennill unrhyw etholiadau o unrhyw fath. Dyma gamgymeriad mawr y Blaid am tua hanner ei hanes - yr hanner cyntaf pan nad oedd yn ennill unrhyw etholiadau a phan nad oedd ganddi nemor ddim dylanwad ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Mae gwleidyddiaeth etholiadol yn estron i dirwedd gwleidyddol y snob ideolegol - tirwedd mewnol ydyw yn y bon - tirwedd sy'n ymwneud mwy ag anghenion personol y snob ideolegol nag anghenion gwlad y snob ideolegol.

Y peth cyntaf i'w ddeall am dirwedd gwleidyddol y snob ideolegol ydi ei fod yn lle braf i fod ynddo. Mae cynnal safbwynt deallusol cyson ac anhyblyg yn hawdd, cyn belled nad ydym yn caniatau i fywyd go iawn amharu llawer arno. Mae'n hawdd ennill dadl abseliwtaidd yn erbyn rhywun sy'n hyblyg ac ymarferol. Mae yna fanteision ychwanegol wrth gwrs - gall y snob ideolegol edrych i lawr ei drwyn ar y sawl sydd wedi cyfaddawdu gyda bywyd pob dydd er mwyn symud yr agenda genedlaethol yn ei blaen. Gall deimlo'n bwysicach, yn fwy gonest, yn fwy cyson ac yn burach na'i gyd genedlaetholwyr. 'Dydi'r ffaith mai'r dywydiedig gyd genedlaetholwyr sydd wedi dod a ni i lle'r ydym heddiw ddim yn amharu mymryn ar y pleser hwnnw wrth gwrs.

Gall y snob ideolegol fod yn ddiog ac eistedd yn ol yn ei gadair a chyfiawnhau peidio a gwleidydda - wedi'r cwbl does yna'r un blaid yn ddigon pur iddo fo. Felly gall edrych o hirbell ar eraill yn ymdrechu, croesawu pob cam ymlaen yn ddistaw bach tra'n beirniadu'r mudiad cenedlaethol am beidio a chyflawni digon yn ddigon cyflym, wrth unrhyw un sy'n fodlon gwrando.

Mae yna stori fach sydd bron yn ddameg o ddiffygion y snob ideolegol. Os 'dwi'n deall safbwynt Hogyn o Rachub yn iawn 'dydi o ddim yn pleidleisio i'r Blaid yng Nghaerdydd oherwydd nad yw'n ystyried y Blaid yno yn ddigon 'cenedlaetholgar'. 'Rwan pe byddai'r Blaid yng Nghaerdydd yn dilyn cyngor HoR ni fyddant yn etholadwy mewn unrhyw ward yn y ddinas. Ni fyddant yn etholadwy hyd yn oed yng Ngwynedd, nag yn wir yn Rachub.

Yn y cyfamser mae'r Blaid trwy gyfaddawdu, bod yn ymarferol a cheisio apelio at amrediad eang o bobl wedi cael peth llwyddiant yng Nghaerdydd - yn rhannol oherwydd pleidleisiau pobl o leiafrifoedd ethnig. Un o ganlyniadau'r llwyddiant rhannol yma ydi bod y Blaid yn rhan o'r glymblaid sy'n rheoli yng Nghaerdydd, ac un o ganlyniadau hynny yn ei dro ydi bod y ddarpariaeth addysgol Gymraeg yn y brif ddinas yn debygol o gael ei thrawsnewid tros y blynyddoedd nesaf. Hwn ydi un o'r datblygiadau pwysicaf yn hanes addysg Gymraeg ers blynyddoedd lawer.

Hynny yw mae cenedlaetholwyr naturiol sydd wedi dod i ddeall tros flynyddoedd sut i lwyddo yn etholiadol wedi defnyddio'r llwyddiant hwnnw i symud agenda genedlaetholgar yn ei blaen. Mae'r snob etholiadol am ymateb trwy ddweud nad yw'r llwyddiant yn ddigonol, a'i fod o ei hun yn llawer purach na neb arall. Ond wrth gwrs pe byddai cyngor y snob ideolegol wedi ei ddilyn ni fyddai unrhyw beth o gwbl wedi ei gyflawni - ond 'dydi hynny ddim ots - mae'r snob wedi amddiffyn ei direwdd mewnol cyfforddus - a dyna'r oll sy'n bwysig yn y pen draw.

'Rwan o ddarllen hyn oll efallai eich bod yn meddwl fy mod o'r farn nad oes gan y snob ideolegol unrhyw rol o gwbl - ond mi fyddech yn anghywir. Mae yna bwrpas iddo - ond 'dydi o ddim yn bwrpas arbennig o bwysig. Mae'r mudiad cenedlaethol angen cydwybod o rhyw fath. 'Rwan yn amlwg mae mymryn o berygl i'r broses etholiadol droi cenedlaetholdeb yn risgl gwag sydd heb agenda cenedlaetholgar o gwbl - ychydig fel Llais Gwynedd sy'n canolbwyntio eu holl ymdrechion ar amddiffyn hen doiledau drewllyd ac ymosod ar yr amgylchedd oherwydd eu bod yn meddwl bod hynny'n etholiadol boblogaidd. 'Dydi'r perygl yma ddim yn fawr iawn wrth gwrs - i'r gwrthwyneb - mae'r Blaid wedi llwyddo i symud yr agenda cenedlaethol yn ei blaen pan mae mewn grym, a phan nad yw mewn grym. Ond rhag ofn, 'mond rhag ofn, efallai nad ydyw'n ddrwg o beth i gael rhywun yn grwgnach yn y cefndir.

Mae'n debyg bod gan bawb rhyw berthynas mewn oed mawr - hen nain efallai - sy'n boenus am pob dim ac yn swnian yn ddi ddiwedd - gwna'n siwr dy fod yn rhoi dy felt pan rwyt yn mynd i'r car, criba dy wallt, paid a dreifio yn lysh gachu, rho dy got cyn mynd allan rhag ofn i ti ddal anwyd, paid a chysgu efo pobl dwyt ti ddim yn eu 'nabod rhag ofn i ti ddal rhywbeth, clyma dy sgidiau rhag ofn i ti faglu, torra dy wallt, cau'r drws mae yna ddrafft yma, tynna dy ddwylo allan o dy boced, ti angen bath, cofia gau dy falog ac ati ac ati.

Mae'r holl nagio yn blydi niwsans ac mae dyn yn cael bath ac yn cau ei falog a dreifio'n sobor beth bynnag - ond efallai - jyst efallai bod yr holl swnian yn gwneud rhyw fymryn bach, bach, bach o wahaniaeth weithiau.

Gwneud dipyn bach, bach, bach o wahaniaeth weithiau ydi rol y snob ideolegol.

Wednesday, December 24, 2008

Refferendwm - pryd?

Mae nifer o faterion wedi codi yn y ddadl ar waelod fy mlog isod - ac os caf gyfle ceisiaf edrych ar un neu ddau o'r materion tros y diwrnodiau nesaf. 'Dwi am gychwyn efo amseriad refferendwm.

I ddechrau fe gawn ni anwybyddu sylwadau Dafydd Elis Thomas yn y Western Mail. Yn anffodus mae Dafydd yn benderfynol mai fo ydi Connor Cruise O'Brien cenedlaetholdeb Cymreig, ac mae'n cael hwyl yn dweud pethau sy'n gwneud i bobl fel Hogyn o Rachub a Hen Rech Flin neidio i fyny ac i lawr mewn cynddaredd. Mae'r sylwadau y dylid disgwyl tan bod 20% o fwyafrif a bod rhaid wrth gytundeb y gymdeithas gyfan yng Nghymru - nid i'r Blaid a Llafur yn unig yn arbennig o ffol, ond wnawn ni ddim aros efo nhw rhag ofn i mi gael fy hun yn neidio i fyny ac i lawr ar ben yr un bocs sebon a HRF a HoR.

Mae erthygl Richard Wyn Jones yn Barn yn haeddu mwy o barch fodd bynnag. Dadl Dicw ydi na ddylid mynd am refferendwm eto oherwydd nad oes modd sicrhau mwyafrif tros bwerau deddfu ar hyn o bryd oherwydd nad oes modd adeiladu ymgyrch gryf o blaid hynny yn ystod y cyfnod o gwmpas etholiad cyffredinol Prydeinig. Mae sylwedd i'r ddadl yma. Mi fyddwn i'n ychwanegu problem arall hefyd - mae'r amgylchiadau anodd economaidd a geir ar hyn o bryd yn ei gwneud yn llai tebygol y byddai refferendwm yn llwyddiannus - yn yr un ffordd a bod annibyniaeth i'r Alban wedi ei daflu'n ol oherwydd y cyd destun economaidd.

Mae yna ateb, ac mae hwnnw ar gael yn erthygl Dicw - er nad ydi o yn tynnu sylw ato. Un o'r pwyntiau diddorol mae Dicw yn eu codi yn ei erthygl ydi bod y drefn anfoddhaol bresennol o anfon LCOs i San Steffan yn golygu bod aelodau'r pwyllgor dethol tros faterion Cymreig yn San Steffan gyda mwy o ddylanwad tros faterion Cymreig na llawer i aelod o'r Cynulliad ei hun. Mae'n debygol mai'r Toriaid fydd yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf a bydd hyn yn arwain at fwyafrif iddynt ar y pwyllgor dethol - beth bynnag y canlyniad yng Nghymru. Golyga hyn y bydd y drefn bresenol o ddeddfu trwy LCOs yn arwain at ddylwanad sylweddol gan y Toriaid - pobl fel David Davies a David Jones - ar y broses o ddeddfu yng Nghymru.

'Rwan, dydi'r Toriaid ddim yn dderbyniol i elfennau arwyddocaol o gymdeithas yng Nghymru - a fyddan nhw byth. Mae hyn yn rhoi cyfle i adeiladu naratif gwleidyddol a allai ennill - pleidleisiwch Ia er mwyn sicrhau nad yw'r Toriaid yn rhedeg y sioe yng Nghymru. Ni fyddai'n naratif cwbl onest - ond yng nghyd destun troelli gwleidyddol Prydeinig mae'n ddigon di niwed. Yn bwysicach mae'n llawer gwell naratif etholiadol na pleidleisiwch Ia er mwyn sicrhau bod deddfau sy'n ymwneud a Chymru yn cael eu creu yng Nghymru .

Wrth gwrs gallai'r Toriaid yn San Steffan atal y refferendwm - ond byddai hynny'n sicrhau llwyddiant yn diweddarach wedi i'r Toriaid golli grym.

Tuesday, December 23, 2008

Beth ydi pwrpas Hen Rech Flin?

Mae Hen Rech Flin yn gofyn beth ydi pwrpas Plaid Cymru?.

Y rheswm am hyn ydi ei fod wedi darllen rhywbeth yn y Western Mail sy'n dweud nad ydi Dafydd Elis Thomas am weld refferendwm ar bwerau deddfu i'r Cynulliad tan ei fod yn siwr y bydd yn cael ei ennill.

Yn rhyfedd iawn mae dau o aelodau blaenllaw y Blaid - Bethan Jenkins ac Adam Price wedi galw am roi cychwyn ar ymgyrch yn syth bin. Ymddengys nad ydi Alwyn wedi sylwi ar hyn. A dweud y gwir nid yw'n hawdd deall agwedd Alwyn o gwbl at y pwnc yma - hanner yr amser mae'n edrych i lawr ei drwyn ar y sawl ohonom sy'n gweld datganoli fel y ffordd o ddod ag annibyniaeth i Gymru. I'r graddau bod y ddadl yn ddealladwy o gwbl y rhesymeg mae'n debyg ydi bod na rhyw gynllwyn i atal annibyniaeth ydi datganoli.

Mae Alwyn hefyd wedi ypsetio ei ben bach oherwydd bod adroddiad ffug yn golwg bod un o gynghorwyr Plaid Cymru, Eddie Dogan o Fangor wedi galw Gwilym Euros yn fucking idiot yn siambr y Cyngor wythnos diwethaf. 'Dydi hyn heb ypsetio Gwilym ei hun a bod yn deg - er y byddai hynny wedi bod yn rhagrithiol braidd ag ystyried ei fod yn dod mor agos ag y gall i ddisgrifio cynghorydd arall - Dyfrig Jones - fel coc oen. yn ei gyfraniad nesaf i'w flog. Rhywbeth arall na sylwodd Alwyn arno. Mi fyddai'n ddiddorol cael gwybod beth ydi barn Llais Gwynedd am fwy o bwerau i'r Cynulliad - os ydynt wedi ystyried y mater o gwbl.

Felly mae Alwyn wedi dod o hyd i un sylw nad yw yn ei hoffi ynglyn a refferendwm, ac un sylw gan Eddie (wedi i hwnnw gael y myll fel y bydd ambell waith) am Gwilym Euros a wele - mae ganddo i esgus i ofyn ei hoff gwestiwn mewn bywyd.

Pwrpas Alwyn wrth gwrs ydi gofyn beth ydi pwrpas Plaid Cymru pob hyn a hyn a mynd trwy'r rigmarol o fflyrtian rhyw ychydig efo plaid David Davies.

Friday, December 19, 2008

Erthygl Arwel Elis Owen yn Barn


Anaml y bydd unrhyw beth yn Barn yn fy ngwylltio (ers i Simon Brooks fynd o leiaf), ond roedd erthygl Arwel Elis Owen ar y ffilm Hunger ymhlith yr ymarferiadau mwyaf idiotaidd 'dwi wedi ei weld ers tro byd.

Fel arfer gydag Arwel, mae yna wybodaeth sydd yn ffeithiol anghywir yn y darn. Ceir awgrym bod yr arweinydd cynnar gweriniaethol, Wolf Tone, yn ymprydiwr newyn. Mi laddodd Tone ei hun – ond trwy hollti ei un o rwydweiliau ei wddf y noson cyn ei ddienddio – nid trwy lwgu ei hun i farwolaeth. Dianc oddi wrth y rhaff oedd - nid protestio. Nid Terence McSweeney oedd yr ymprydiwr newyn ‘nesaf’ i farw. Yn 1920 y bu farw McSweeney, bu Thomas Ashe farw o ganlyniad i ympryd newyn ym 1917. Mae’r datganiad nad oedd fawr ddim cysylltiad rhwng y carcharorion a’r byd y tu allan hefyd yn ffeithiol anghywir. Roedd cysylltiadau dyddiol rhwng arweinyddiaeth y mudiad Gwereniaethol y tu mewn a’r tu allan i’r carchar. Mae’r syniad bod Thatcher ac Adams wedi arwyddo cytundeb yn wirioneddol ddigri yn ei ddineweitrwydd. Mae'r awgrym bod Gerry Adams a Bobby Sands yn rhan o'r brotest pan oedd yn Cage 11 hefyd yn gamarweiniol - nid oedd angen i garcharorion Cage 11 brotestio i gael statws gwleidyddol oherwydd bod y statws hwnnw eisioes ganddynt. Wedi cael ei ail arestio a chael ei anfon i'r H Blocks aeth Sands ar y brotest.

Nid y man gamgymeriadau sy’n fy mhoeni – mae’r rheiny yn nodweddu gwaith newyddiadurol Arwel ar Iwerddon mae gen i ofn. Ail bobi hen fethiannau’r BBC pan oedd Arwel yn gweithio i’r corff hwnnw yng Ngogledd Iwerddon ar ffurf erthygl ydi’r peth gwirioneddol chwydlyd.

Cyfnod yr ymprydiau newyn oedd un o'r penodau mwyaf llwfr yn hanes y BBC. Eu prif rol yn ystod y cyfnod oedd gweithredu fel parot i naratif llywodraeth Prydeinig y dydd. Y naratif hwnnw yn syml oedd bod yr ymprydwyr yn cael eu defnyddio gan yr IRA ar y tu allan am bod y rheiny eisiau cefnogaeth i’w hymgyrch dreisgar – felly cefnogaeth i’r ymprydwyr = cefnogaeth i drais. Roedd y naratif idiotaidd yma yn gwthio pob math o bobl nad oedd ganddynt y diddordeb lleiaf mewn trais i gyfeiriad mudiadau treisgar Gwereniaethol.

Roedd y canfyddiad yma’n wirioneddol drychinebus – ac arweiniodd at roi degawd ychwanegol o fywyd i ryfel oedd yn rhedeg allan o stem yn ogystal a rhoi cychwyn i broses a arweiniodd at ddifa cenedlaetholdeb cymhedrol cyfansoddiadol yn y Gogledd. Mae i’r BBC – a’r sawl oedd yn gweithio iddi ar y pryd – ran bwysig mewn creu’r amodau a ganiataodd i hyn ddigwydd. Mae’r dyfyniad o sylwadau idiotaidd Thatcher am yr Eglwys Babyddol Wyddelig – yr unig gorff sefydliadol i ddod allan o’r holl drychineb gyda mymryn o hygrededd yn wirioneddol anymunol. Oni bai i'r sefydliad hwnnw weithredu yn gall a chyfrifol o dan amgylchiadau gwirioneddol ddirdynnol(yn gwbl wahanol i’r BBC) byddai’r holl beth wedi llusgo ymlaen ac ymlaen ac ymlaen, a byddai’r canlyniadau wedi bod hyd yn oed yn waeth.

Mae Arwel yn gwneud yr honiad (bod yr ymprydwyr yn cael eu defnyddio gan yr IRA a chenhedlaeth newydd o arweinwyr Gweriniaethol - hy Adams) fel petai yn rhyw ganfyddiad treiddgar ar ei ran ei hun yn hytrach na mantra a ailadroddwyd hyd at syrffed gan ohebwyr llwfr a diog ar orchymyn llywodraeth Mrs Thatcher yn ystod y cyfnod. Mae’r ffordd mae’n gwneud yr honiad yn ddryslyd gan ei fod yn ceisio gludo dau fersiwn gwahanol o’r naratif gwirion yma at ei gilydd – y fersiwn gwreiddiol ac un mwy diweddar.

Honiad y llywodraeth a’r BBC ar y pryd oedd bod yr IRA yn ‘defnyddio’r’ deg dyn, ac mae Arwel yn gwneud yr honiad hwnnw yn ei ddarn. Doedd yna ddim tystiolaeth bod hyn yn wir ar y pryd – ac mae cryn dipyn o dystiolaeth ar gael bellach nad oedd gwirionedd i’r honiad. Mae’n debyg bod y mudiad Gweriniaethol ar y tu allan yn awyddus i atal yr ympryd ac i leihau’r tyndra yn y Maze. Un o’r rhesymau am hyn oedd bod ympryd y flwyddyn flaenorol wedi torri i lawr, a bod cynnal honno - a methu wedi bod yn niweidiol i’r mudiad yn ehangach.

Mae tystiolaeth ddogfennol sylweddol i gefnogi hyn. Er enghraifft mae llythyr gan Sands i Gyngor y Fyddin (oedd yn arweinydd yr IRA yn y Maze ar y pryd) yn ymddiheuro am fethu atal terfysg yn H5 ychydig ddyddiau cyn i’r datganiad i’r wasg bod yr ail ympryd i fynd rhagddi ar gael hyd heddiw. Mae ymateb ganddo i gais ffurfiol gan Gyngor y Fyddin i beidio a mynd ymlaen a’r ympryd ychydig ddyddiau cyn ei chyhoeddi hefyd ar gael – Comerade we received your comm – 30.1.81. We have listened carefully to what you said _ _ _ _ . But however distressing it may be, we regret that our decision to hunger strike remains the same.

Yn rhyfedd iawn mae Arwel yn rhyw led gyfeirio at hyn, gan nodi bod Adams a Sinn Fein yn erbyn yr ympryd. Mae hefyd yn awgrymu bod cynnig ar y bwrdd pan oedd Sands yn ei gell – un nad oedd yn ymwybodol ohono. ‘Dydw i erioed wedi clywed am y cynnig yma, a ‘dydw i ddim yn meddwl bod neb arall wedi chwaith. Mae’r cynnig yn ffrwyth dychymyg Arwel.

Neu efallai nad yw yn ffrwyth ei ddychymyg – yn rhywle arall yn yr erthygl ddryslyd mae Arwel yn honni y gellid bod ‘telerau newydd wedi eu cynnig i Adams mewn da bryd i achub bywydau o leiaf pump o’r deg newynnwr a fu farw yn haf 1981’. Hwyrach bod Arwel yn ei ffordd ddryslyd ei hun yn meddwl am gynnig nad oes amheuaeth iddo gael ei wneud gryn gyfnod wedi i Sands farw (yn niwedd mis Gorffennaf 81 – roedd Sands wedi marw ar y pumed o Fai).

Cafodd y ‘telerau newydd’ chwadl Arwel eu trosglwyddo i’r ymprydwyr ar Orffennaf 29, 1981 yn y Maze gan Adams. Gwrthodwyd y telerau hynny gan pob un o’r ymprydwyr. Cytunodd Adams hefyd ar y diwrnod cynt mewn cyfarfod gyda’r Tad Dennis Faul a rhai o deuluoedd yr ymprydwyr i ofyn i’r IRA roi gorchymyn i’r ymprydwyr oedd yn dal yn fyw i roi’r gorau i’r brotest. ‘Doedd yna ddim pwynt mewn gwneud hyn gan y byddai’r ymprydwyr yn sicr o wrthod ufuddhau’r gorchymyn, ond gwnaed y cais beth bynnag.

Neu efallai bod Arwel yn meddwl am honiad sydd wedi ei wneud mewn llyfr cymharol ddiweddar (dydw i ddim yn gwybod oherwydd nad ydi Arwel yn trafferthu dweud at beth mae'n gyfeirio) gan ddyn o'r enw Richard O'Rawe. Dadl O'Rawe ydi bod cynnig anffurfiol wedi ei wneud i'r arweinyddiaeth ar y tu allan na chafodd ei drosglwyddo i'r carcharorion - ond mae i hwnnw ei broblemau - mae yna nifer o ffeithiau sy'n hawdd dangos nad ydynt yn wir yn y llyfr, a does yna neb arall oedd yn agos at bethau ar y pryd yn derbyn y fersiwn, gan gynnwys teuluoedd yr ymprydwyr, nag arch elyn Adams, Ruairí Ó Brádaigh. Ond dydi hyd yn oed hwnnw ddim yn cefnogi honiadau Arwel - yn ol y fersiwn yma gwnaed y cynnig wedi marwolaeth y pedwerydd ymprydiwr - misoedd wedi marwolaeth Sands. – efallai bod Arwel yn meddwl ei bod yn bosibl atgyfodi Sands trwy ddod i gytundeb ychydig fisoedd wedi iddo farw. Roedd 6 (nid 5) o’r ymprydwyr nad oeddynt eto wedi marw yn dal yn fyw ar y pryd.

Rwan dyna fi wedi cael dweud fy nweud. Mae gan Barn pob hawl i ofyn i Arwel am erthygl, ac mae gan y BBC hawl i'w ddisgrifio fel arbenigwr ar Ogledd Iwerddon
- fel y byddant yn ei wneud yn aml. Ond y gwir syml ydi hyn - roedd Arwel yn rhan o ymgyrch bropoganda'r BBC oedd yn hyrwyddo polisiau gorffwyll llywodraeth Thatcher yn Iwerddon yn yr wyth degau cynnar - a'i brif feirniadaeth o'r ffilm ydi'r ffaith nad yw'n ail adrodd y propoganda di dystiolaeth roedd y BBC ac Arwel ei hun yn ei ailadrodd yn ddi ddiwedd ar y pryd.

Wednesday, December 17, 2008

Llafur yn codi pobl allan o dlodi!


O ganlyniad i alw cyhoeddus enfawr, ‘dwi wedi penderfynu amddiffyn cwpl ifanc sydd wedi cael sylw negyddol braidd yn sgil y cwyno sur am dreuliau Aelodau Cynulliad a gafwyd yn ddiweddar.

‘Dwi’n gwybod mai Plaid Cymru ydi’r blaid mae’r blog yma yn ei chefnogi fel rheol, ond mae ambell achlysur lle mae’n rhaid canmol gwleidyddion o bleidiau eraill – yn arbennig pan mae sylwadau anheg ac anymunol yn cael eu taflu i’w cyfeiriad. Mae Nick Bourne, fel y gwelwyd eisoes wedi ei bardduo – sy’n beth anffodus iawn i ddyn sydd yn cymryd y ffasiwn drafferth i sicrhau ei fod pob amser yn lan, yn arogli’n hyfryd ac yn dwt fel pin mewn papur.


Dau arall i gael amser caled anhaeddianol ydi’r cwpl priod disglair - Lynne Neagle a Huw Lewis. ‘Rwan mae Lynne a Huw yn Aelodau Cynulliad tros ddwy o etholaethau mwyaf di freintiedig Cymru – Torfaen a Merthyr Tudfyl. Maen nhw wedi gwneud yn gwbl siwr ein bod ni i gyd yn gwybod hynny, ac maent hefyd wedi gwneud yn gwbl siwr ein bod i gyd yn deall mae eu blaenoriaeth gwleidyddol mawr nhw ydi mynd i’r afael efo amddifadedd a chodi’r math o bobl maent yn eu cynrychioli allan o’u tlodi.

Yn hyn o beth maent wedi cael cryn lwyddiant. Mae un cwpl ifanc wedi elwa yn arbennig o gael eu cynrychioli gan Lynne a Huw yn y Cynulliad – er mwyn sicrhau eu preifatrwydd, ac er mwyn cadw ar yr ochr gywir i’r Ddeddf Amddiffyn Data, mi wnawn ni eu galw nhw yn L a H.

‘Doedd gan L ddim ond canmoliaeth i’r cwpl pan aeth blogmenai draw i gydymdeimlo efo nhw yn ddiweddar ar yr holl gyhoeddusrwydd anffodus.

“Cyn i ni gael ein hethol roeddem yn gorfod byw ar gyflogau pitw athro cemeg ac ymchwilydd gwleidyddol mewn twll ym Merthyr Tudfyl. Erbyn hyn rydan ni’n gyfoethog iawn a ‘does dim rhaid i ni fyw ar gyfyl hen bobl dlawd mewn llefydd fel Merthyr neu Dorfaen am bump diwrnod yr wythnos”, meddai.

“Erbyn heddiw rydan ni’n medru byw ynghanol pobl barchus, chwaethys hyfryd a glan digon tebyg Nick Bourne, yma ym Mhenarth”, ychwanegodd H. “Digon agos at y clwb sboncen a’r clwb golff, a digon pell oddi wrth hen siopau elusen drewllyd, siopau sglodion seimllyd, siopau pob dim am bunt efo leino wedi rhwygo ar y llawr, caffis Siddollis wedi eu bordio i fyny a thafarnau’n llawn o hen ddynion chwyslyd”.

“Mi fydda i’n siwr o bleidleisio i H pan fydd yn sefyll i fynd yn arweinydd Llafur”, oedd sylw olaf L. “Wedyn mi fydda i hyd yn oed yn fwy cyfoethog”.

Ac yn wir ni all neb wadu i Huw a Lynne fod yn arbennig o garedig gyda H a L. Maen nhw bellach yn gallu fforddio pob math o bethau ar gyfer eu cartref ysblennydd ym Mhenarth gan gael £22,298 mewn un blwyddyn yn unig tuag at ei gadw. Pethau na allent ond breuddwydio am eu prynu hyd yn ddiweddar - Rwan maen nhw’n gallu prynu amrywiaeth mawr o ddodrefn i’r llofft ac i’r gegin – yn wir i pob ystafell yn y ty, gwresygyddion, silffoedd, cypyrddau llyfrau, matras gwerth £560 (Duw yn unig beth maen nhw yn ei wneud i greu angen am un mor ddrud), lleni gwerth £1,700 ac ati, ac ati, yn ogystal a thy ychwanegol i gadw eu holl geiriach ynddo.

Peidied neb a dweud nad yw’r Blaid Lafur Gymreig yn mynd i’r afael a thlodi.