Gobeithiaf ddychwelyd at yr etholiadau lleol diweddar maes o law. Ar sawl cyfrif meant yn etholiadau diddorol, ac yn rhai sy’n cynnig gobaith gwirioneddol ynglyn a dyfodol Cymru.
Serch hynny, mae’r blog yma wedi ei gyfeirio at arweiynydd newydd grwp Plaid Cymru yng Ngwynedd. Bydd y swydd yma'n cael ei llenwi mewn cyfarfon ym Mhorthmadog yn ddiweddarach heno. Rhyfyg ar fy rhan i mae’n debyg ydi cymryd ei bod / ei fod yn darllen y blog di nod yma – ond waeth i mi drio ddim.
Ychydig fisoedd yn ol ysgrifenais y blog hwn. Prif bwrpas y blog oedd mynegi'r safbwynt bod y ffordd roedd grwp Plaid Cymru ar y cyngor yn gweinyddu yn niweidio eu cefnogaeth greiddiol. Y rheswm am hyn ydi bod cefnogaeth y sawl sy’n cefnogii’r Blaid mewn ardaloedd gwledig wedi ei wreiddio mewn canfyddiad o’r Blaid fel plaid leol yn annad dim arall. Mae’n dilyn felly bod disgwyliad i’r Blaid reoli mewn ffordd sy’n amddiffyn buddiannau lleol.
Mae nifer o bolisiau, ac yn arbennig yr un sy’n ymwneud ag ail strwythuro ysgolion cynradd y sir, wedi torri yn syth trwy’r canfyddiad yma. Y rheswm i'r sefyllfa yma ddod i fodolaeth ydi bod adain reolaethol y Blaid yn tra arglwyddiaethu yn siambr y cyngor.
‘Dwi’n sicr bod canlyniadau'r etholiadau diweddar wedi cyfiawnhau’r dadansoddiad yma. Cafodd y Blaid drwyn gwaed yn yr ardaloedd gwledig lle’r oedd y cynllun yn effeithio arno. Yn ffodus, dilynodd dwyrain y sir batrwm Cymru gyfan, a gwelwyd y Blaid yn rhoi crymen trwy’r bleidlais Lafur ddosbarth gweithiol yn y lleoedd hyn(mwy am hyn maes o law).
Felly fy nghyngor i bwy bynnag a etholir ar gychwyn ei gyfnod / chyfnod fel arweinydd ydi i gofio hyn:
‘Dydi’r hyn sy’n gwneud synwyr o safbwynt rheolaethol ddim o angenrhaid yn gwneud synwyr gwleidyddol. Yn wir, yn aml y gwrthwyneb sy’n wir – ac mae digwyddiadau diweddar yn esiampl drawiadol o hynny.
Problem arweinyddiaeth ddiwethaf y Blaid oedd blaenori ystyriaethau rheolaethol tros fuddiannau eu hetholwyr. Roedd y feddylfryd yma’n drychinebus o safbwynt etholiadol. Gallai pethau fod yn waeth hyd yn oed - byddwn yn dal i reoli gyda chymorth un neu ddau o annibynwyr yn ol pob tebyg. Roeddym yn lwcus iawn, iawn i ddwyrain trefol y sir ddilyn patrwm etholiadol ehangach.
‘Dwi’n derbyn bod angen gweledigaeth reolaethol ar pob gweinyddiaeth – ond mae’n rhaid cydbwyso’r weledigaeth honno gydag ystyriaethau gwleidyddol. Methiant i wneud hyn oedd methiant yr arweinyddiaeth sydd newydd gael ei sgubo o’r neilltu gan yr etholwyr. Mae dilyn agenda reolaethol swyddogion cyngor, heb ystyried goblygiadau gwleidyddol yr agenda honno yn wenwyn etholiadol i blaid wrth sefydliadol fel Plaid Cymru
Felly gyfaill, os nad wyt ti’n gwrando ar air arall o’t tipyn blog yma, gwrando am hyn. Ystyria goblygiadau gwleidyddol pob cais neu awgrym gan swyddogion y cyngor cyn nodio.
Os ydi hynny'n golygu dweud o bryd i'w gilydd - mae dy gynllun yn edrych yn ddigon derbyniol ar bapur Harri, ond mae gen i ofn nad yw'n dderbyniol yn wleidyddol. Dechreua eto, boed iddi fod felly.
Mae dyfodol y Blaid yn y Wynedd wledig yn dibynu ar gael areinnyddiaeth sy'n ddeall hyn.
2 comments:
Sylwadau call iawn....gobeithio y bydd o neu hi yn gwrando arnat...da o beth unwiath y byddwn yn gwybod pwy yw'r person hwnnw y byddet yn gyrru linc i'r ysgrif byr, syml ond gonest yma atynt fel ei gwers gwleidyddol cyntaf cyn dechrau ar ei swydd.
Diolch Gwilym, a llongyfarchiadau.
Post a Comment