Thursday, January 15, 2009

The Voice of Gwynedd speaks?

Newydd sylwi ar yr ymateb rhyfeddol yma i sylwadau cwbl ddi niwed ar flog Dyfrig Jones. Wna i ddim manylu - dilynwch y linc ac ewch i waelod y darn a darllenwch sylwadau Big Sis - maent werth eu ddarllen. Beth bynnag mae'r ddynas yn ei ddweud am ei chefndir, maent yn diferu o hyfdra a thraha'r gwladychwr - a'r wladychwraig.

'Rwan does yna ddim ffordd o wybod os mai'r awdur ydi'r unigolyn y cyfeirir ati yn y darn - 'does yna ddim ffordd o ddarganfod hynny heb ffonio'r ddynas ei hun a gofyn iddi - a does gen i beth bynnag ddim y dewrder i wneud hynny mae gen i ofn.

Serch hynny mi fanteisiaf ar y cyfle i ailadrodd pam nad oes dyfodol i Lais Gwynedd. Mae'n grwp sy'n glir ynglyn a'r hyn nad yw yn ei hoffi - Plaid Cymru. Oherwydd hynny mae'n dennu'r cymysgedd rhyfeddaf o bobl - gan gynnwys rhai o'r elfennau mwyaf gwrth Gymreig yng Ngwynedd. Fodd bynnag nid oes ganddo syniad sut i'w ddiffinio ei hun ynhellach na hynny. 'Dydi grwpiau felly byth yn goroesi yn yr hir dymor.

3 comments:

Anonymous said...

gwynedd sydd yn dod yn gynta' - mae aelodau llais gwynedd yn gytun. mae annibyniaeth yn amhosib a plaid cymru wedi gwastio amser a neud tro gwael a pobol gwynedd. mae aelodau llais gwynedd yn rhoi gwynedd gynta' - da ni yma i aros

Hogyn o Rachub said...

"da ni yma i aros"

Son am famous last words...!

Gan ddweud hynny dwi'n siwr na fyddai llawer iawn o aelodau LlG yn cytuno gyda dy syniadau ar annibyniaeth - sy'n atgyfnerthu dadl blogMenai am gymaint o baradocs ydyw bodolaeth y 'blaid'.

Hogyn o Rachub said...

Sori, yn hytrach na 'llawer iawn' fel y dywedod uchod, ro'n i'n ceisio dweud byddai cyfran uchel, yn sicr, yn anghytuno