Mae'r blog hwn wedi nodi ar sawl achlysur i 2011 fod yn flwyddyn wirioneddol erchyll i'r meicro grwp gwleidyddol o Wynedd - Llais Gwynedd.
Pan fydd y rhan fwyaf ohonom - yn unigol neu'n gorfforaethol - yn cael blwyddyn giami, byddwn (os ydym yn ddoeth) yn ymateb trwy ddysgu gwers neu ddwy o'r profiad, gweithredu ar y gwersi hynny a symud ymlaen. Nid felly Llais Gwynedd. Eu hymateb nhw ydi ceisio sicrhau bod rhywun arall yn cael blwyddyn erchyll yn 2012, neu a bod yn fanwl gywir bod 600 o deuluoedd yng Ngwynedd yn cael blwyddyn hynod anodd. Son ydw i wrth gwrs am eu cynlluniau cynhyrfus i sacio
600 o weithwyr Cyngor Gwynedd.
Rwan, mae sawl peth i'w ddweud am hyn. Yn gyntaf, mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi mynd trwy broses o raglennu toriadau am gyfnod o bedair blynedd. Mae rhywbeth yn wyrdroedig braidd am ganmol toriadau, ond mae'r broses wedi mynd rhagddi mewn modd cyfrifol, cynhwysol a threfnus. Canlyniad hynny ydi rhaglen fanwl sydd am sicrhau y bydd y toriadau anorfod yn digwydd mewn cyd fframwaith sydd wedi ei reoli a'i gynllunio. At ei gilydd mae aelodau Llais Gwynedd wedi chwarae rhan adeiladol yn hyn oll. Ar y pwynt yma efallai ei bod werth nodi i swyddi gael eu dileu ar gychwyn y broses rhai blynyddoedd yn ol pan aeth swydd cyfarwyddwr corfforaethol a phenaethiaid gwasanaeth.
Ag etholiadau ar y gorwel, fodd bynnag ymddengys bod Llais Gwynedd wedi penderfynu mai eu strategaeth orau ydi apelio at holl ddarllenwyr Daily Mail y sir. Bydd y sawl ohonoch sy'n dod ar draws y cyhoeddiad adain dde o bryd i'w gilydd yn ymwybodol mai un o'i amrywiol obsesiynau ydi 'biwrocratiaid'. Ym myd bach y Mail mae'r rheiny yn bobl hynod ddrwg a diwerth y dylid eu sacio mewn niferoedd mor fawr phosibl, cyn gynted a phosibl. Felly - os ydw i'n deall pethau yn iawn, mae'r rhaglen strythuredig wedi ei gollwng, ac mae Llais Gwynedd wedi neidio ar wagen bopiwlistaidd - os niwrotig - y Mail.
Mae'n bosibl wrth gwrs bod yna swyddi na ellir eu cyfiawnhau yn y cyngor - mae hynny'n wir am pob endid corfforaethol mawr, ond mae'n rhyfeddol o hawdd edrych ar swydd rhywun arall o hirbell ac amau ei gwerth. Fel 'dwi'n 'sgwennu y pwt yma 'dwi'n edrych ar farbwr mewn siop dorri gwallt tros y ffordd - mae o wedi treulio tri chwarter awr yn eistedd yn ei siop wag yn edrych ar y teledu. Ond 'dydi hynny ddim yr un peth a dod i gasgliadau gwrthrychol ynglyn ag effeithlionrwydd darpariaeth cyngor, a lle a phwrpas swyddi unigol o fewn y ddarpariaeth yna.
Gan fod Llais Gwynedd mor fanwl ynglyn a faint o swyddi maent am eu dileu, byddai dyn yn cymryd eu bod wedi gwneud ymchwil go fanwl i effeithlionrwydd Cyngor Gwynedd, a lle swyddi unigol o fewn y ddarpariaeth. Mae ganddynt gyfle i ddod a'u cynlluniau ger bron y Cyngor yn mis Mawrth a chyflwyno unrhyw waith ymchwil maent wedi ei wneud bryd hynny. Gallant wedyn egluro pa swyddi fydd yn cael eu dileu a pham, a gwneud cynnig yn unol a hynny. Ond fydd hynny ddim yn digwydd wrth gwrs - dydi popiwlistiaeth hysteraidd y tabloids adain dde Seisnig ag ymchwil gwrthrychol ddim yn cyd fyw yn rhwydd iawn.
Ac wrth gwrs mi fyddai yna gost sylweddol i Gyngor Gwynedd ac i'r economi ehangach o sacio'r 600. Mae 600 o swyddi yn nifer anferth yng nghyd destun Gwynedd. Byddai dod o hyd i'r arian diswyddo yn glec o £14m i'r sir. Byddai £16m a mwy yn cael ei dynnu allan o'r economi yn flynyddol. A bod yn blwyfol am funud, byddai hyn yn farwol i'r sector breifat yn nhref Caernarfon a'r pentrefi o'i chwmpas - ardal boblog sydd yn Gymreiciach o ran iaith na'r unman arall yng Nghymru. Byddai llai - llawer llai - yn cael ei wario ym mhob siop, tafarn, ty bwyta ac yn wir siop sglodion yn yr ardal. Mae'r un peth yn wir i raddau llai am ganolfannau gweinyddol eraill y sir, sydd wedi eu lleoli yn rhai o'r prif drefi. Mae unrhyw ymysodiad ar y sector cyhoeddus hefyd yn ymysodiad ar y sector preifat mewn ardal lle mae canran uchel o'r boblogaeth yn ddibynol ar wariant cyhoeddus am eu bywoliaeth.
Mae gweithwyr sector cyhoeddus o dan warchae yng nghyd destun y Deyrnas Unedig - ystyriaethau syniadaethol clymblaid adain dde yn Llundain dy'n rhannol gyfrifol am hynny. Mae Llais Gwynedd eisiau cefnogi'r agenda honno yn lleol, tra bod y Blaid Lafur yn llugoer o ran eu cefnogaeth i'r undebau. Dim ond un plaid yng Nghymru sydd wedi bod yn ddi amwys o ran ei chefnogaeth i weithwyr sector cyhoeddus a'u teuluoedd, a Phlaid Cymru ydi'r blaid honno. Mae'n bwysig i'r Blaid wneud hynny yn gwbl glir yn ystod y misoedd nesaf.