Friday, January 27, 2012

Wales Today a blaenoriaethau'r Bib

Difyr gweld bod prif long newyddiadurol y Bib, Wales Today wedi cynhyrfu'n lan oherwydd bod gwraig Mitt Romney - sy'n rhywbeth i'w wneud efo gwleidyddiaeth yr US of A - efo rhyw gysylltiad neu'i gilydd efo Maesteg. Doedd y ffaith i un o bleidiau Cymru ychwanegu 1,500 at ei haelodaeth ddim werth ei riportio.

Dweud pob dim sydd angen ei ddweud am natur y Bib yng Nghymru mae gen i ofn.

7 comments:

Anonymous said...

Cytuno,
Ond dwi'n siwr bod newyddion America hefo "what is Wales, is it a city in Florida?, Wales has no relation to Whales" ayyb.

Pads said...

Odd ei mam-gu 'di bwyta Welshcake?

Sa i'n gwbod beth odd y cysylltiad. Trois i'r teli bant.

Alwyn ap Huw said...

Ond chware teg, roedd y stori yma yn Nail y Post a'r Western Mule tair wythnos yn ôl. Hwyrach bydd yr hanes am y cynnydd mewn aelodaeth y Blaid yn cyrraedd desg newyddion Wales Today tua Ddydd Sant Folant!

Yn bersonol bydd fy nghefnogaeth i yn parhau i fod i'r ymgeisydd arlywyddol sydd â gwreiddiau yn y gogledd (yn hytrach nag i ŵr Hwntw), sef yr Arlywydd Obama o Fôn.

Bwlch said...

Wnaeth hen Mit son yn y trafodaeth neithiwr yn Florida am deulu ei wraig yn dod o Gymru pan oedd pawb arall yn trio rhwygo ei polisiau mewnfudo!!!!Braf clywed rhywbeth am Gymru ochor yma i'r Iwerydd. Pan mae y Beeb yn dod a Lucy Cohen draw o HTV fel transfer market pel droed ti ddim yn disgwyl llawer o sylwedd!!!

Anonymous said...

Prif newyddion Golwg 360 yn llawer mwy treiddgar.... Hyfforddwr telyn Gareth athomas yn ei gefnogi ar Celebrity Big Brother!

Cai Larsen said...

O leiaf mi redodd Golwg stori am y peth - Yr ail stori os dwi'n cofio' iawn - ar ol y delyn.

Anonymous said...

Rwyt ti'n iawn, stori rhwng Celebrity Big Brother a Bronnau Imogen!