Friday, December 16, 2011

Dyn sy'n edrych ar ol ei deulu

Yn yr oes sinicaidd a di deimlad sydd ohoni mae'n braf iawn dod ar draws dyn sy'n edrych ar ol ei deulu. Son ydw i wrth gwrs am Mohammad Asghar, sy’n Aelod Cynulliad Ceidwadol (ar hyn o bryd o leiaf) dros Ddwyrain De Cymru.

 Byddwch yn cofio i Mohammad Asghar, neu Oscar fel y bydd hefyd yn cael ei alw weithiau ,adael Plaid Cymru yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad wedi iddo gael ar ddeall nad oedd Ieuan Wyn Jones am gyflogi ei ferch Natasha fel ei swyddog i'r wasg.  Cyd ddigwyddiad hapus oedd hi i Nick Bourne addo iddo na fyddai'n rhaid iddo ymladd am enwebiad y Toriaid yn Nwyrain De Cymru - dydi'r Toriaid Gymreig ddim yn rhai mawr am ddemocratiaeth mewnol.



Ta waeth -ymdrech ddiweddaraf Oscar i edrych ar ol ei deulu oedd ei ymgais i ddyladwadu ar Doriaid Casnewydd i gefnogi ei wraig Firdaus Asghar am enwebiaeth i sefyll i fynd ar gyngor Casnewydd yn ward Allt yr Yn, wedi marwolaeth y cynghorydd o Dori, Les Knight oedd wedi cynrychioli'r ward ers 1964.  Yn wir cymaint ei frwdfrydedd i helpu ei wraig fel na thrafferthodd i ddisgwyl i gorff Les oeri'n iawn nag i ddiferyn o formaldehyde gael ei chwistrellu i'w wytheinau cyn cychwyn ar ei ymgyrch i gael ei wraig ar y cyngor.

Talodd Cyngor Casnewydd £873,597.70 mewn lwfansau cynghorwyr y llynedd.

7 comments:

Plaid Gwersyllt said...

O'n i'n gwybod fasa na fawr o golled ar ei ol...gwynt teg ddeuda i!

Anonymous said...

Dwi wedi siomi yn y Blaid ag Oscar.

a) oherwydd bod Oscar wedi actio fel hyn. AC cyntaf o cefndir ethnig- fysa fo'n wych petai o yn AC effeithiol a bysa nin gallu deud - sbiwch da. Ond na, dyn syn edrych ar ol ei deulu cyn pobl Cymru.

Dwi hefyd wedi siomi yn Bourne, ei fod o wedi gadael o i fewn mewn amgylchiadau "dodgy"

b) Ond hefyd dwi di siomi yn PC. Dylsa bod PC yn cael yr ACau gorau phosibl ir Senedd, ond dwin teimlo dim ond i daro target o gael AC ethnig- nathni roi rhywun rhywun i fewn. Rhywun oedd yn amlwg ddim yn cytuno gyda pholisiau y Blaid. Ond yn waeth na hynny gadael i'w ferch rhedeg fel MEP - rhywun yn fy marn i sydd ddim yn addas.

Anonymous said...

Undeniably believe that whiсh you sаiԁ.
Your favoгite justificаtion seеmed to
be on the wеb the easiest thіng to be aware of.
I ѕaу to you, I certainly gеt annoуeԁ while ρeople thinκ about worries that theу plainly don't know about. You managed to hit the nail upon the top and defined out the whole thing without having side-effects , people could take a signal. Will probably be back to get more. Thanks
My weblog : http://www.blogbiznes.pl/

Anonymous said...

Ηеllo, іts ρleasant post abоut media print, ωe all understanԁ mеdia iѕ a impressive source of data.


my site - just click the following internet page

Anonymous said...

Hi, Neat poѕt. There is a problem togetheг ωіth your site in intеrnet exрlorer,
woulԁ сheck this? IE nonethelеss is thе marketplace leadеr аnd a good section of other people will
leave out your fаntastiс writing
due to thіs problem.

my weblоg :: www.prweb.Com
My web page > Bonuses

Anonymous said...

Νice blog hегe! Also your website loaԁs up very fast!

What web host are you using? Can I gеt yοuг affiliate link tο youг host?

Ι wish my webѕite lοadeԁ up аs quickly
as youгѕ lol

Hеre is my sіte ... just click the next website page

Anonymous said...

Ιtѕ like you reаd mу mind! You appeaг tο know a lot about thіs, like you wrote thе book іn it or something.

I think that you can do with a few piсs tο drive the message
hοmе a little bit, but instead оf
that, this is magnificent blοg. A fаntastіc rеаd.
I'll definitely be back.

My homepage just click the next webpage