Wednesday, December 21, 2011

Beth ydi biliwn yma ac acw rhwng ffrindiau?

Mae'n gyd ddigwyddiad bach rhyfedd bod cost blynyddol pensiynau sector cyhoeddus i'r wladwriaeth a chyrff cyhoeddus eraill, sydd yn ol y llywodraeth  yn anferthol (£26.5bn), mor debyg i'r £25bn nad ydi Swyddfa Dreth wedi trafferthu i'w godi mewn trethi gan gwmniau mawr megis Vodaphone, Goldman Sachs ac ati.

Ymddengys bod arfer o drafod rhwng swyddogion y Swyddfa Dreth a swyddogion cwmniau mawr, faint o dreth y dylai'r cwmniau ei dalu tros ginio mewn rhai o dai bwyta drytaf y DU.  Mae nifer o'r dywydiedig gwmniau yn cyfranu symiau sylweddol i'r prif blaid lywodraethol Brydeinig wrth gwrs.

Dydi'r naill ddim yn talu am y llall wrth gwrs - ffigwr blynyddol ydi'r un am bensiynau ac un llwyr ydi'r un treth.  Ond mae'r £2.8bn blynyddol mae'r llywodraeth yn gobeithio ei arbed wedi gweithredu'r newidiadau yn edrych braidd yn dila wrth ymyl y £25bn nad ydynt yn trafferthu i'w gymryd gan eu cyfeillion.

2 comments:

Anonymous said...

Yn achos Vodafone, dwi'n deall mai treth ar elw tramor ydi'r hyn yr honnir y maen nhw'n osgoi ei dalu.

Os ydi'r cwmni'n talu treth ar elw yn yr Almaen, ydi hi'n deg eu bod nhw'n talu treth ar yr un elw ym Mhrydain?

Cai Larsen said...

Ha ha ha - mae'r cwmni arbennig yna mor enwog am osgoi eu trethi yn yr Almaen nag ydyn nhw yma.

Efallai eu bod yn dweud yn yr Almaen eu bod yn talu eu trethi yn y DU, tra'n dweud y gwrthwyneb yma!