Thursday, January 19, 2012

Argyfwng ariannol y Toriaid Cymreig

Heb amheuaeth bydd darllenwyr blogmenai yn hynod drist a dryslyd o ddeall na fydd yn bosibl i'r Toriaid Cymreig gynnal eu Cynhadledd Wanwyn yn Llandudno eleni oherwydd tlodi.  Ymddengys bod y digwyddiad deuddydd wedi ei ganslo, a bod rali ar gyfer ymgyrchwyr yn etholiadau'r cynghorau i'w gynnal yn ei le. 

'Dwi ddim eisiau gwthio'r cwch i'r dwr am eiliad - mae pob amser yn beth perygl bysnesu mewn anghydfod deuluol, yn arbennig pan mai pres ydi asgwrn y gynnen.  Ond fedra i ddim atal fy hun rhag nodi i'r Toriaid Prydeinig dderbyn £12.2m o bunnoedd o gyfraniadau preifat yn y flwyddyn hyd at Fehefin y llynedd gan eu cyfnogwyr hoffus - miliwn y mis.  Rwan 'dwi'n gwybod bod y Feniw ar yr ochr ddrud, ond wir Dduw mi fyddai dyn yn disgwyl y byddai'r Toriaid Seisnig yn gallu cynnig rhyw fymryn o gymorth i'w cefndryd llywaeth a di geiniog yng Nghymru, gan eu bod wedi eu claddu gan y ffasiwn gyfoeth.  Naill ai eu bod yn rhyfeddol o grintachlyd,  neu does yna uffern o neb ymhlith y Toriaid Cymreig eisiau mynd i Landudno i falu cachu am ddeuddydd. 

Gyda llaw mae'n ddifyr nodi bod tros i hanner y wonga wedi dod o gyfeiriad sefydliadau ariannol yn ninas Llundain - sefydliadau sydd wedi'n cael yn y smonach ariannol rydym yn cael ein hunain ynddi ar hyn o bryd - a sefydliadau nad ydi'r Toriaid eisiau gwneud unrhyw beth o gwbl i'w hypsetio. 

1 comment:

Anonymous said...

Dwi o hyd eisiau gwybod hyn:
Sut mae cystadlaeth yr arweinyddiaeth ym Mhlaid Cymru yn cael ei redeg?

I gyd gan y Plaid, ta di rhai yn gorfod defnyddio arian ei hunain???