Mi fydd darllenwyr rheolaidd y blog yma yn ymwybodol fy mod o bryd i'w gilydd yn cael y myll oherwydd bod y cyfryngau prif lif yn gor symleiddio gwleidyddiaeth leol yng Ngwynedd trwy ei dylunio fel rhyw anghydfod parhaus rhwng Plaid Cymru a Llais Gwynedd. Mae'r gwir ddarlun yn un mwy cymhleth o lawer wrth gwrs. Dim ond ar lefel cyngor mae gan LlG gynrychiolaeth ac mae'r rhan fwyaf o'r gynrychiolaeth yna ar Gyngor Gwynedd yn hytrach nag ar gynghorau plwyf a thref. Un grwp allan o bump ydi Llais Gwynedd ar Gyngor Gwynedd - y trydydd allan o bump o ran cryfder niferol.
Mae'n debyg bod yna ddau reswm pam bod hyn yn dan ar fy nghroen i braidd. Y cyntaf ydi bod newyddiaduriaeth ddiog yn fy mlino beth bynnag, ac yn ail mae'r canfyddiad mai Plaid vs Llais ydi hi yma yng Ngwynedd yn cyd redeg yn weddol dwt efo naratif bach simplistaidd y meicrogrwp.
Efallai nad oes llawer yn eich plith yn ymweld a
blog y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones (LlG Llandwrog) yn aml iawn, felly ni fydd nifer yn ymwybodol ei fod wedi ail ddechrau blogio bellach ar ol cymryd hoe fach wedi i'w gyfrifiadur dorri rhywbryd o gwmpas yr ail is etholiad ym Mlaenau Ffestiniog. Byddwch yn cofio i Lais Gwynedd golli un o'u seddi yno i Paul Thomas (Plaid Cymru) bryd hynny. Yn ffodus
mi gafodd gyfrifiadur arall jyst mewn pryd i riportio ar fuddugoliaeth ei grwp yn is etholiad Seiont yng Nghaernarfon. Mae ei
gofnod o ffraethineb geiriol arweinydd ei grwp (
Llais Chips Batters Plaid) yn cyfleu yn eithaf twt y ffordd mae'r grwp hwnnw yn edrych ar bethau - wedi curo Plaid Cymru oeddyn nhw - er mai sedd Annibynnol a gymerwyd mewn ward lle nad oedd y Blaid yn ail, nag yn wir yn drydydd yn yr etholiad blaenorol.
Mae'r is etholiad bach hwnnw yn ddiddorol i'r graddau ei fod yn dinoethi'r ffaith bod gwleidyddiaeth lleol Gwynedd yn gymharol gymhleth. Yn gyntaf cafwyd tipyn o ddrwg deimlad ar y diwrnod yn anffodus - ond nid rhwng Plaid Cymru a Llais Gwynedd oedd y drwgdeimlad hwnnw. Yn ail,
fel rydym wedi ei drafod eisoes, gwnaeth Llais Gwynedd cryn dipyn mwy o niwed etholiadol i Lafur ac i'r Annibynwyr nag a wnaethant i'r Blaid.
Mae rhai o oblygiadau'r etholiad hefyd wedi bod yn ddiddorol o'r safbwynt yma. A barnu oddi wrth flog Aeron Maldwyn eto,
mae Llais Gwynedd yn flin efo Plaid Cymru oherwydd na chawsant gynrychiolaeth ychwanegol ar Fwrdd y Cyngor yn sgil eu buddugoliaeth yn Seiont.
Rwan yr hyn a ddigwyddodd yn y tair is etholiad diweddar oedd i'r Blaid ennill un, i Lais Gwynedd ennill un a cholli un, ac i'r grwp Annibynnol golli un. Neu mewn geiriau eraill cymrodd y Blaid gam bach ymlaen, arhosodd Llais Gwynedd yn yr unfan, a chymrodd y grwp Annibynnol gam bach yn ol.
Y sefyllfa gyfansoddiadol yn y Cyngor yn dilyn y 3 is-etholiad diweddar ydi bod Plaid wedi cynyddu ei seddi i 36 a bod Annibynnol wedi gostwng un i 17 tra bod Llais Gwynedd yn parhau ar 13. Mae ceisio dyrannu seddi yn fater mathemategol llwyr, ond mae yna hyblygrwydd er mwyn cyrraedd y rhif terfynol. Dadl Llais ydi bod y bwlch rhwngddyn nhw a'r grwp Annibynnol wedi cau oherwydd i'r grwp hwnnw golli un aelod, a felly dylid dyrannu un sedd ychwanegol i Llais ar Fwrdd y Cyngor - 3- ar draul yr Annibynns fyddai'n gostwng o 4 i 3.
Cytunodd y Grwp Busnes (Arweinwyr pob plaid) ar yr egwyddor o gael cyn lleied a newid ac sy'n bosibl. Roedd Llais yn gwrthwynebu hynny wrth gwrs. Mewn gwirionedd roedd yna ddadl i roi sedd ychwanegol ar y Bwrdd i'r Blaid mae'n debyg. Wedi'r cwbl dim ond y Blaid sydd wedi cynyddu nifer ei seddi. Mae 3 aelod ar y Bwrdd i'r grwp Annibynnol a 3 i Lais Gwynedd yn gyfansoddiadol dderbyniol, fel mae 4 i'r grwp Annibynnol a 2 i Lais Gwynedd yn gyfansoddiadol dderbyniol.
Dewis y Cyngor yn ei gyfanrwydd oedd dilyn barn y Grwp Busnes ac aros efo 4 aelod i'r grwp Annibynnol a 2 i Lais Gwynedd. Ffrae rhwng Llais Gwynedd a'r grwp Annibynnol ydi hon mewn gwirionedd - 'dydi o ddim yma nag acw i'r Blaid os mai aelod o Lais Gwynedd ynteu aelod o'r grwp Annibynnol sydd ar y Bwrdd. Ond a barnu o flog Aeron, mae Llais Gwynedd yn gweld y sefyllfa yn nhermau anghydfod rhyngddyn nhw eu hunain a'r Blaid.
Ac mae hyn yn ei dro yn dinoethi gwirionedd arall mae'r blog yma wedi tynnu sylw ato sawl gwaith. Mae Llais Gwynedd yn diffinio ei hun fel gwrthbwynt i Blaid Cymru, ac mae'r canfyddiad yma yn gwyrdroi eu holl resymu gwleidyddol. Mae eu rhesymu gwleidyddol wedi ei gyflyru gan eu dadansoddiad simplistig o Blaid Cymru fel ffynhonell pob drygioni, i'r fath raddau eu bod yn dod i gasgliadau cwbl unigryw unigryw a bisar -
fel yr em yma (eto o flog Aeron) lle maent yn dadansoddi ffurfio'r glymblaid Tori / Lib Dem yn Llundain fel methiant i Blaid Cymru yn anad dim arall.