Sunday, November 21, 2010

A fydd cywilydd y Weriniaeth yn arwain at dranc Fianna Fail?

Felly mae Gweriniaeth Iwerddon wedi derbyn benthyciad o hyd at 100bn Ewro gan y Gymuned Ewropeaidd a'r IMF - a'r cwbl mae hynny yn ei olygu o ran cyfyngu ar eu hawl i wneud eu penderfyniadau economaidd eu hunain. Mi fydd goblygiadau digwyddiadau heddiw yn bell gyrhaeddol a hir dymor.


Ymhell o fariau Temple Bar, a'r Iwerddon ddinesig sy'n gyfarwydd i lawer o bobl Cymru, mae yna Iwerddon arall tra gwahanol. Mae sir Donegal mor bell ag y gallai fod o Ddulyn - yn ddaearyddol, yn gymdeithasol ac yn gymdeithasegol. Byddai'n ormodiaeth i ddweud na ddaeth y Teigr Celtaidd i'r pellafion gorllewinol yma, ond mae'r sir yn llawer mwy dibynnol ar ei diwydiannau traddodiadol - pysgota a ffermio - nag ydi ar y diwydiannau newydd.

Mae cymunedau bach Donegal ymysg y mwyaf gwledig, y mwyaf ceidwadol a'r mwyaf cenedlaetholgar ar yr ynys. Yma hefyd, gyda llaw, y ceir rhai o'r cymunedau naturiol Wyddelig eu hiaith olaf. Mae'r ardal wedi bod yn gyson driw i'r blaid lywodraethol Fianna Fail ers y tri degau cynnar. Ardaloedd megis Donegal ydi perfedd dir cefnogaeth etholiadol Fianna Fail. Cefnogaeth cyson ardaloedd fel hyn sydd wedi sicrhau i'r blaid ddominyddu bywyd gwleidyddol y Weriniaeth ers wyth deg o flynyddoedd, mewn ffordd nad oes yna yr un plaid arall yn Ewrop wedi llwyddo i wneud.

'Dydi'r ddelwedd o arweinwyr y Weriniaeth ar eu gliniau o flaen tramorwyr yn gofyn am bres ddim am fod yn un atyniadol mewn llefydd fel hyn. I'r gwrthwyneb, bydd yn ennyn cynddaredd. Yn anffodus i'r llywodraeth mae yna is etholiad yn un o ddwy etholaeth Donegal ddydd Iau. Fel rheol gallant ddisgwyl dal y naill neu'r llall. Fyddan nhw ddim yn gwneud hynny ddydd Mercher - mi fydd yna ddaeargryn gwleidyddol yn Donegal South West. Bydd hynny yn arwain at gyfres o ddigwyddiadau fydd yn achosi cwymp y llywodraeth ddiwedd y flwyddyn yma neu ddechrau'r flwyddyn nesaf. Gallai hynny yn ei dro arwain at sefyllfa lle na fydd Fianna Fail yn arwain llywodraeth arall am genhedlaeth.

4 comments:

Anonymous said...

If you remove the English army tomorrow and hoist the green flag over Dublin Castle, unless you set about the organization of the Socialist Republic your efforts would be in vain. England would still rule you. She would rule you through her capitalists, through her landlords, through her financiers, through the whole array of commercial and individualist institutions she has planted in this country and watered with the tears of our mothers and the blood of our martyrs. - James Connolly

Cai Larsen said...

Efallai bod angen newid England am EU yma!

Anonymous said...

'A fydd cywilydd y Weriniaeth yn arwain ac dranc Fianna Fail'

Gobeithio.

Dyma blaid sy'n cynnys elfennau mwya gwrthyn y BLaid Lafur Gymreig, sy'n defnyddio dadleuon y 1920au a 30au fel cyfiawnhad a jingoistiaeth (fel Llafur Gymreig) sy'n brin o weledigaeth.

Gyda lwc fe fydd yn marw o'r tir.

Anonymous said...

Yn anffodus, mae'r digwyddiadau yma yn fel ar fysedd y Brit Nats.