Friday, November 12, 2010

Creuwyr cyfoeth y Bae

Mae'n debyg ei fod yn arwydd o'r parch sydd yna i Adam Price ar hyd y sbectrwm gwleidyddol bod cymaint wedi mynd ati i ddehongli, a cham ddehongli, ei sylwadau ynglyn ag ansawdd gwleidyddion Cymru. Wna i ddim ychwanegu at y ddadl ei hun ag eithrio i nodi fy mod yn credu bod cryn anwastadedd o ran ansawdd y cyfryw wleidyddion - a bod hynny yn wir am pob plaid. Efallai ei bod hefyd werth nodi nad ydi'r Cynulliad yn gynrycholiadol iawn o gymdeithas Gymreig yn ei chyfanrwydd - ond mae'n nes ati o lawer na San Steffan.


Mi fyddwn serch hynny yn hoffi tynnu sylw at un agwedd fach ar y ddadl - sef sylwadau a wnaethpwyd ar flog y Tori anhysbys o Fon - The Druid. Brolio mae'r Tori bod yna llawer mwy o rhywbeth mae'n ei alw yn wealth creators yn grwp Toriaidd yn y Cynulliad na sydd yn unrhyw grwp arall. Does gan y rheiny ddim llawer o'r bendigedig wealth creators yn eu mysg mae'n ymddangos. Ym myd y Derwydd mae wealth creators yn bobl bwysig iawn.



Mae Alwyn wedi ateb draw ar ei flog Saesneg nad oes yna ddim byd arbennig o fendigedig am etifeddu llwyth o bres a chysylltiadau busnes. Mae'r blog yma hefyd wedi tynnu sylw yn y gorffennol at y ffaith bod cabinet y Glymblaid yn Llundain yn llawn hyd yr ymylon efo cyfoethogion. Wedi dweud hynny, a bod yn deg, 'dydi cyfoeth mawr ddim yn un o nodweddion y Toriaid ym Mae Caerdydd.

Rwan, 'dwi'n siwr nad oes yna neb yn disgwyl i mi gofio enwau'r ACau Toriaidd - wedi'r cwbl maen nhw i gyd yn edrych mor debyg i'w gilydd. Serch hynny 'dwi'n gwybod bod dau o'r grwp yn ffermwyr. Ganwyd un yng nghanol y ganrif ddiwethaf pan oedd ameuthyddiaeth yn wir yn creu cyn dipyn o gyfoeth. Erbyn diwedd y ganrif honno, fodd bynnag, o dan oruwchwyliaeth ofalus ei blaid ei hun yn bennaf, roedd y sector amaethyddol mor ddibynnol ar bres cyhoeddus a'r Gurnos.

Wedyn mae yna dri o'r hogiau gydau'u cefndir mewn bancio. Mae banciau yn dda iawn am greu cyfoeth - i fancwyr. Maent yr un mor effeithiol am greu tlodi i bawb arall.

Ac wedyn mae yna gyn hyfforddwr gyrru, cyn wonc polisi i'r Blaid Geidwadol, syrfewr, darlithydd yn y gyfraith a swyddog Ewropeaidd (beth bynnag ydi hynny) mewn coleg addysg bellach.

Ac yna mae yna'r boi 'ma o Gasnewydd a adawodd y Blaid oedd yn gwneud ei fara menyn yn cyfri pres pobl eraill. O, a bu bron i mi ag anghofio - mae ganddyn nhw ddynes yn aelod o'r grwp hefyd. Mae gan honno brofiad sylweddol ym myd busnes. Mae hi hefyd ymysg yr aelodau mwyaf di ddim a di werth o unrhyw blaid yn y Cynulliad fel mae'n digwydd.

Does yna affliw o ddim o'i le yn y swyddi uchod - maen nhw i gyd (ag eithrio'r bancwyr wrth gwrs) yn swyddi digon teilwng. Popeth yn dda. Maen nhw'n swyddi sector breifat, dosbarth canol - ac mae'r ffaith bod yna aelodau o'r Cynulliad wedi eu cyflogi ynddynt ar un cyfnod yn eu bywydau yn gwneud y lle yn fwy amrywiol nag y byddai fel arall.

Ond mae gwneud mor a mynydd bod y cyfeillion yn wealth creators, ac awgrymu y byddant, o gael y cyfle, yn creu cyfoeth i ni oll yn - wel - ddigri o naif.

ON 14/11 - newydd sylwi ar drafodaeth ddifyr, ond digon ffyrnig ar y pwnc ar flog Saesneg Alwyn.


4 comments:

Anonymous said...

Mae'n od fel ma'r Derwydd yn troi'n gas bob tro mae'n cael ei gyhuddo o fod yn Dori asgell dde.

Ac os ydi'r Acau Toriaidd yn gallu creu cyfoeth mae'n nhw gallu ei wario fo hefyd - mewn partis penblwydd yn Aberystwyth os cofia i'n iawn.

Ifan Morgan Jones said...

Mae o fel yr hen ddywediad, “Those who can't do, teach.”

Efallai bod rhai gwleidyddion yn fodlon brwydro dros ryddid dyn i greu busnes a gwneud ffortiwn ond ddim digon medrus i wneud hynny eu hunain.

Anonymous said...

Oes awgrym gan Ifan ynghlyn a pwy sy'n cuddio tu ol i'r clogyn ?

Cai Larsen said...

Go brin - mae'r cyfaill yn cadw ei gyfrinach yn rhyfeddol o dda i flogiwr.