Thursday, December 17, 2015

W00000573 - ardal Gymreiciaf Cymru?

Un o nodweddion diddorol cyfrifiad 2011 ydi bod data manwl wedi ei ryddhau ynglyn ag is adrannau o wardiau - a hynny ar ffurf hawdd i gael mynediad iddo.  Rwan dwi heb chwilio'n rhy fanwl - does gen i ddim amser, ac mae yna filoedd o unedau cyfri -  ond yr ardal mwyaf Cymraeg allaf ddod o hyd iddo ydi rhan o ward Seiont yn nhref Caernarfon - ardal W00000573 gyda mwy na 96% yn siarad y Gymraeg a 2.5% yn unig heb unrhyw sgiliau yn y Gymraeg o gwbl.  I'r sawl sydd ag obsesiwn efo dosbarth cymdeithasol mae'r ardal fach yma yn cynnwys tai preifat modern, yn ogystal a thai a blociau fflatiau cymunedol.

Os ydych eisiau chwilio eich hun, edrychwch yma.  



2 comments:

Anonymous said...

staff McDonalds hyd yn oed yn dechrau pob sgwrs yn Gymraeg hefyd..!

Cai Larsen said...

Mae McDonalds yn agos iawn at w00000573 - yn sownd ynddi o bosibl.