Sunday, December 06, 2015

Tudalen flaen y diwrnod - 2

Os ydi'r  Western Mail yn gywir ni fydd Cymru yn cael fawr ddim cyllid ychwanegol yn sgil y gwariant o £80bn ar y rheilffordd cyflymder uchel newydd yn Lloegr - HS2.  Bydd yr Alban yn derbyn tua £5bn a bydd Gogledd Iwerddon yn cael tua £2bn.



Beth bynnag y manylion technegol am y trosglwyddiad ariannol i ddwy wlad ddatganoledig, a'r diffyg trosglwyddiad i'r llall, mae yna wahaniaeth sylfaenol yn agwedd San Steffan tuag at Gymru a'r ddwy wlad arall.  Mae Gogledd Iwerddon a'r Alban yn cael eu harwain gan wleidyddion caled, penderfynol sydd yn cael eu parchu - ond ddim eu hoffi - gan lywodraeth Llundain.  Mae Cymru'n cael ei harwain gan Carwyn Jones a'i griw di ddannedd, di glem, di lwyddiant, di fflach.  

Does gan Cameron ddim rheswm o gwbl  i roi unrhyw beth i lywodraeth datganoledig nad yw yn ei barchu na'i ofni

No comments: