Monday, December 14, 2015

Ymgyrch brocsi Llafur

Felly mae Llafur Cymru wedi lawnsio eu hymgyrch refferendwm Ewrop cyn eu bod yn gwybod pryd y bydd y refferendwm hwnnw yn cael ei gynnal, ac mae'r ymgyrch yn cael ei harwain gan neb llai na'r Arglwydd Hain ei hun.

Wnawn ni ddim son am pa mor gredadwy ydi'r honiad y byddai Cymru yn colli 200,000 o swyddi - tua un o pob saith swydd - rhag ofn i ni gael ein hunain ar yr un ochr a Stephen Crabb.  'Dydan ni ddim eisiau hynny am funud.



Ond roedd gwleidyddion o blaid  Stephen Crabb yn defnyddio straeon hyd yn oed yn fwy eithafol nag un Peter Hain yn refferendwm yr Alban - y byddai Putin yn ymosod ar yr Alban petai'n annibynnol, y byddai Lloegr yn gorfod bomio meusydd awyr yr Alban, y byddai'r wlad yn agored i ymosodiadau o'r gofod ac ati, ac ati.  Peth felly ydi refferendwm wrth gwrs - mae'r ochr sydd yn gwrthwynebu newid yn rhybuddio rhag pob math o angau, dioddefaint, gwewyr ac ing os ydi'r newid yn digwydd.  Mae refferendwm, mewn rhai ffyrdd yn etholiad ar steroids.

Ond nid cadw Prydain yn Ewrop ydi'r gwir gymhelliad yn yr achos yma - meddwl mae Llafur am etholiad maent yn ymwybodol iawn o'i dyddiad - etholiad y Cynulliad ym mis Mai.  Mae'r blaid yn boenus o ymwybodol bod UKIP yn apelio at gydadrannau sylweddol o'u cefnogaeth naturiol.  Mae ymgyrch refferendwm yn rhoi cyfle i Lafur ddefnyddio technegau refferendwm i ymosod ar UKIP.  Ymgyrch brocsi ydi hi mewn gwirionedd - ymgyrch sy'n caniatau i Lafur fynd ar ol UKIP mewn ffordd mwy ffyrnig a fyddai'n bosibl fel arall.  

Bydd yn hwyl edrych ar y ddwy blaid unoliaethol yn mynd am yddfau ei gilydd.  

No comments: