Wednesday, December 16, 2015

Pa mor ddi duedd ydi'r Sefydliad Materion Cymreig?

Roedd y blogiad diwethaf yn edrych ar y defnydd o'r refferendwm ar ddyfodol y DU yn Ewrop gan y Blaid Lafur 'Gymreig' fel rhan o'u strategaeth ar gyfer etholiadau mis Mai.  Dylid edrych ar y stori fach isod hefyd yng nghyd destun etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.


Mae Adam Price yn gwbl gywir i ymateb i'r stori yn y ffordd y gwnaeth.

Yr IWA wrth gwrs ydi'r Sefydliad Materion Cymreig - sefydliad sydd i fod yn gwbl ddi duedd.  Dydi cynnal dadl gyhoeddus rhwng gynrychiolwyr dwy blaid yn unig - yn y misoedd cyn etholiad Cynulliad - ddim yn edrych fel gweithred ddi duedd.  Mae'n edrych yn llai di duedd pan mae cynnal dadl felly yn ffitio'n berffaith efo strategaeth etholiadol un o'r ddwy blaid yna - sef y Blaid Lafur - i'r dim. Mae'n edrych yn llai di duedd eto pan rydym yn ystyried bod cyfarwyddor y Sefydliad Materion Cymreig hefyd yn ymgeisydd tros y Blaid Lafur ym mis Mai.

Mae gen i ofn y bydd y penderfyniad yma tanseilio enw'r Sefydliad Materion Cymreig fel corff di duedd - nid bod hynny am boeni'r Blaid Lafur wrth gwrs.  Wedi'r cwbl mae'r blaid honno yn disgwyl i pob sefydliad cyhoeddus Cymreig fod yn gefnogol iddi.




1 comment:

Anonymous said...

Efallai nad oes gan rai gwleidyddion o bleidiau eraill lawer o ddiddordeb mewn Ewrop, heblaw am y peldroed.

https://glynadda.wordpress.com/2015/12/15/taror-gwaelod-gwleidyddol/