Tuesday, February 25, 2014

Y Daily Mail a Harriet Harman

Nid yn aml iawn y bydd Blogmenai yn cynnig gair o blaid rhywun fel Harriet Harman ac nid yn aml y cewch chi drafodaeth ar ryw a rhywioldeb yma, ond rydych am gael rhywfaint o'r ddau heddiw.  Mae Iain Dale (rhywun arall nad ydw i'n cytuno efo fo'n aml) yn ymateb yn eithaf da i'r 'sgandal' mae'r Daily Mail wedi ei chreu o gwmpas y gwleidyddion Llafur Harriet Harman, Jack Dromie a Patricia Hewitt.  Mae hefyd yn rhoi'r cefndir - i'r sawl yn eich plith sydd ddim yn gyfarwydd efo'r stori.

Dwi am edrych ar y stori mewn ffordd ychydig yn wahanol - yng nghyd destun y newidiadau sydd wedi bod mewn agweddau diwylliannol ers i'r triawd Llafuraidd fod yn gweithio i'r NCCL yn 60au a 70au y ganrif ddiwethaf.  Oes rhywun yn cofio can y Trwynau Coch - Merched dan 15?    Mae'n rhaid i chi fod o oed arbennig i'w chofio oherwydd nad oes yna unrhyw orsaf radio yn  unman am ei chwarae heddiw.  Byddai unrhyw un fyddai'n ddigon anoeth i wneud hynny yn gwahodd ymweliad cyflym iawn gan PC Plod.  Petai rhywun eisiau gwneud hynny - y Daily Mail efallai - gellid yn hawdd  defnyddio'r gan i bardduo'r sawl oedd yn ei chanu, ac yn wir y sawl oedd yn gwrando arni efo cyhuddiad o bidoffilia.  Yn yr oes sydd ohoni mae'r cyhuddiad hwnnw yn un difrifol iawn.  Yn y gorffennol roedd yn dderbyniol i gasau pob math o grwpiau oddi mewn i gymdeithas - erbyn hyn ychydig o grwpiau felly sydd ar ol - a pidoffiliaid sydd ar frig y rhestr fer.

Nid felly y bu pethau erioed wrth gwrs.  Am y rhan fwyaf o hanes y DU mae rhyw hoyw wedi bod yn anghyfreithlon - gyda dedfryd o farwolaeth yn aros y sawl a gafwyd yn euog hyd at 1861. Dim ond yn 1967 y daeth rhyw hoyw yn gyfreithlon yn y DU - a hynny i bobl hyn na 21 yn unig. Yn y flwyddyn 2000 y daeth rhyw rhwng dynion hoyw yn gyfreithlon i bobl 16 oed a throsodd.  Mae'r rheswm pam bod agweddau wedi newid yn ddiddorol.

Mae'r wladwriaeth Seisnig, ac yna'r un Brydeinig a'i dilynodd wedi deddfu ar faterion sy'n ymwneud a rhyw ers y dechrau bron.  Am y rhan fwyaf o'r amser yma roedd rhyw rhwng oedolion a phlant tros 12 oed yn gwbl gyfreithlon.  Gosodwyd 12 fel oed cyfreithiol yn  1275 ac fe'i codwyd i 13 yn 1875.  Yn 1885 y daeth y cyfyngiad 16 oed sy'n bodoli ar hyn o bryd i fodolaeth.  O edrych ymhellach na Phrydain ceir cryn amrywiaeth mewn oed rhyw cyfreithiol hyd heddiw - 18 yn Nhwrci, 13 yn Spaen, 15 yn Sweden, 14 yn yr Eidal er enghraifft.

A dyna ydi rhan o'r broblem efo'r hyn mae'r Daily Mail yn ei wneud - roedd agweddau cymdeithasol tuag at bidoffilia, rhyw hoyw a phob math o bethau eraill yn dra gwahanol yn y 70au a'r 60au o gymharu a heddiw.  Mae can y Trwynau Coch yn swnio'n ofnadwy heddiw - ond adlewyrchiad o ddinewitrwydd ydyw yn fwy na dim arall.  Doedd trais rhywiol yn erbyn plant ddim yn cael unrhyw sylw cyfryngol bryd hynny, a phrin y byddai'n croesi meddwl llawer o bobl ei fod yn digwydd o gwbl.  Doedd  gen i ddim syniad o ystyr y gair pidoffilia yn y 70au - ac mi fyddwn yn betio nad oedd gan aelodau'r Trwynau Coch ddim syniad chwaith.

Erbyn heddiw mae agweddau gwaelodol wedi newid ac maent yn fwy rhesymegol a chall.  Mae'r mwyafrif llethol o bobl yn y DU bellach yn cydnabod bod yna fyd o wahaniaeth rhwng y cam ddefnydd o rym a'r niwed a achosir i blant sy'n digwydd pan mae oedolion yn gorfodi perthynas rywiol arnynt a pherthynas rhywiol rhwng dau oedolyn o'r un rhyw sy'n cydsynio i gael rhyw efo'i gilydd.

Doedd. y gwahaniaeth hwnnw - er mor amlwg mae'n ymddangos heddiw - ddim yn amlwg i lawer o bobl yn y chwe degau a'r saith degau.  Roedd pobl yn ystyried rhai mathau o ryw yn 'normal' a rhai mathau ddim yn 'normal' ac roedd hynny yn ei dro yn cam lywio'r ffordd roeddynt yn edrych ar ryw a rhywioldeb.  Roedd yr agweddau cymdeithasol yma yn cael eu cynnal gan y ffaith bod cymdeithas yn edrych ar ryw trwy lygaid crefyddol - mae'r Beibl yn llawer mwy llawdrwm ar bobl hoyw nag yw ar bidoffiliaid. Mae sefydliadau crefyddol wedi tueddu i adlewyrchu'r rhagfarnau hyn.  Atgyfnerthwyd y canfyddiad yma o 'ddrygioni' pobl hoyw gan agwedd y gyfraith - roedd yn llawdrwm ar bobl hoyw ond yn oddefgar tuag at bidoffilia - a felly'n atgyfnerthu'r agweddau diwylliannol anffodus a arweiniodd at ddilorni, esgymuno cannoedd o filoedd o bobl nad oeddynt yn gwneud unrhyw ddrwg i neb.  


Yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd ydi bod y Mail yn ei ffordd arferol hysteraidd yn pardduo'r triawd oherwydd bod mudiad roeddynt yn gweithio iddo ers talwm iawn efo cysylltiad gwan efo corff oedd efo cysylltiad gwan efo corff arall oedd yn hyrwyddo 'hawliau' pidoffiliaid - grwp nad oedd fawr neb yn gwybod dim amdano ar y pryd, ond sydd - gyda phob cyfiawnhad - yn destun casineb cyffredinol erbyn hyn. Mae yna pob math o resymau i beidio hoffi Harman, Hewitt a Dromie - ond wir Dduw dydi sterics y Mail ddim yn un ohonyn nhw.

3 comments:

Anonymous said...

Barn deg iawn, cytuno.

Mae pob son glywais i am y PIE cyn yr wythnos yma yn son am restr honedig o aelodau'r grwp nol yn yr 80'au. Y stori honedig yw bod gwleidyddion y ddegawd honno yn gwarchod neu o bosib yn aelodau o PIE.

Beth sy'n od felly yw y gall stori'r Daily Mail, yn y pendraw, effeithio mwy ar eu plaid eu hunain na neb arall.

Anonymous said...

Pam fod y ddwy ferch dan sylw wedi ymddiheuro am beidio รข rhoi sylw teilwng i'r mater os nad oeddent wedi bod yn esgeulus parthed statws y PIE tybed?

Cai Larsen said...

Pwysau cyfryngol wrth gwrs.