Thursday, February 13, 2014

Is etholiad Cadnant

Roedd yna is etholiad ar gyfer Cyngor Tref Caernarfon yn ward Cadnant heddiw.  Y canlyniad oedd:

Cemlyn Williams (Plaid Cymru) 216
Maria Sarnaki (Annibynnol) 126
Sally Haywood (Llafur) 77

Llongyfarchiadau i Cemlyn ar berfformiad cryf iawn a da iawn Plaid Cymru Caernarfon am wneud y joban effeithiol arferol o gael ei phleidlais allan.

2 comments:

Anonymous said...

Pam bod bron i hanner yr etholwyr heb bleidleisio i PC ? Pwy oedd yr ymgeiswyr eraill ?

Cai Larsen said...

Mae'r cwestiwn cyntaf braidd yn rhyfedd - mae'n anarferol i bawb bleidleisio i un ymgeisydd yng Nghymru - er fy mod yn deall bod hynny yn digwydd ambell waith yng Ngogledd Corea.

Fyddet ti ddim yn 'nabod y ddau ymgeisydd arall oni bai dy fod yn byw'n lleol - mae'r tri ohonyn nhw yn byw yn yr ward.

Mae Maria yn fam i'r gantores Sera Louise.