Friday, February 14, 2014

Amser i Andrew RT Davies hel ei gelfi?

Felly mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cicio yn erbyn y tresi ac yn sefyll yn erbyn barn David Jones a'r blaid Brydeinig.  Bydd yn ddiddorol gweld am faint y bydd o'n parhau yn ei swydd.

Er mai dim ond y blaid yn y Cynulliad sydd a'r hawl i orfodi etholiad arweinyddol, gallwn fentro y bydd yr aelodaeth ar lawr gwlad yn flin fel y tinceriaid diarhebol.  Mae rhan fwyaf o'r aelodaeth o gefndiroedd Seisnig, yn byw yn ardaloedd mwy Seisnig Cymru neu'n edrych yn naturiol tuag at Loegr am arweiniad.  Byddai cymryd safbwynt 'Gymreig' yn hytrach nag un 'Seisnig' yn seicolegol anodd i'r bobl hyn.

Mi fydd yna bwysau ar aelodau etholedig y Toriaid o gyfeiriad aelodau eu plaid.  Faint o'r ACau sy'n debygol o sefyll y tu ol i Andrew RT Davies yn wyneb pwysau o gyfeiriad San Steffan ac o gyfeiriad aelodau llawr gwlad ar yr un pryd? Dim llawer' dwi'n meddwl ydi'r ateb i honna.

Bydd yn gryn syndod i mi os mai Andrew RT fydd yn arwain y Toriaid Cymreig pan fyddant yn ymladd etholiad Ewrop.




6 comments:

Dylan said...

Felly ti'n meddwl bydd o wedi mynd cyn mis Mai? Ramsay yn ei le, felly?

O ran diddordeb, beth ydi barn Guto Bebb am y mater o dan sylw?

Cai Larsen said...

Dwi ddim eisiau siarad tros Guto wrth gwrs, ond o'r cyfweliad wnaeth echdoe byddwn yn meddwl ei fod mwy ar ochr Andrew RT na DJ.

Mae'r Toriaid yn tueddu i fod yn ddi drugaredd gyda mae arweinydd mewn trafferth - a byddwn yn disgwyl iddo fynd yn fuan.

Dyfed said...

Mae dyddiau'r creadur yn dod i ben, cytuno efo chdi.

Mae'r mater yn codi cwestiwn pwysig am wleidyddiaeth yng Nghymru - sef yr angen am blaid Gymreig ar y dde yng Nghymru. Plaid Brydeinig ar y dde sydd gennym ar hyn o bryd, sy'ndangos dim cydymdeimlad a Chymru o gwbl.

Cododd Melding y cwestiwn sbel yn ôl ond ddaeth dim o'r peth. Adeg codi'r mater eto.

Anonymous said...

Diddorol iawn, Cai.

Ond eto...

Yr hyn sydd o'i blaid ydi'r ffaith nad oes 'na opsiwn amgen credadwy. Ni all unrhyw un o'r 4 gamu i'r bwlch - ac yn sicr ddigon, nid Nick Ramsay. A mae'n anodd credu y byddai unrhyw un o'r lleill yn fwy parod i fod yn ufudd i Dai Jones. Yn enwedig ar fater y 'lock-step', lle mai Deio yn anwybyddu'r holl dystiolaeth a gasglwyd ynghyd gan Holtham a Silk.

Dwi'n tybio y gall Andrew RT oroesi DJ...cofia y bydd ad-drefnu ar y cabinet Llundeinig rhywdro eleni hefyd

Anonymous said...

Darren Millar neu Angela Burns am yr arweinyddiaeth?

Anonymous said...

Os ydi RT Davies yn colli ei swydd fel arweinydd, dim ond Ramsay neu Millar fysa a unrhyw siawns o fod yn arweinydd. Co finch, roedd hi'n agos iawn rhwng RT Davies a Ramsay yn ystod yr etholiad arweinydd diwethaf