Thursday, February 20, 2014

Is etholiad Treganna, Caerdydd

Susan ELSMORE Llafur 1,201 (41.7%)
 Elin TUDUR (Plaid Cymru 972 (33.7%)
Pam Richards Tori 381 (13.2%)
Jake GRIFFITHS Plaid Werdd 148 (5.1%)
Steffan BATEMAN Trade Unionist and Socialist Coalition101 (3.5%)
Matt HEMSLEY Welsh Liberal Democrats 80 (2.8%) 

Gogwydd o 10% oddi wrth Llafur i'r Blaid. Esiampl arall o bolau YouGov yn dweud un peth ac etholiadau go iawn yn dweud rhywbeth arall.

 Da iawn Elin - perfformiad cryf iawn.

7 comments:

Dylan said...

Poenus i'r Democratiaid Rhyddfrydol!

Cai Larsen said...

Ia, bechod de?

Anonymous said...

Am wn i, os oedd un sedd yng Nghaedydd y gallai'r Blaid ei hennill, hwn oedd hi.

3 beth:

1. Mae'n dweud rhywbeth fod y Blaid, o'r diwedd, a dwi'n meddwl y cyhoedd a'r wasg, yn gweld Plaid Cymru yn ennill sedd yng Nghaerdydd fel rhywbeth weddol normal yn symudiad anferthol ymlaen i'r Blaid.

2. Maen siwr fod canran dda o'r bobl a bleidleisiodd yn Gymry Cymraeg. Ond y pwynt yw fod llawer o Gymry Cymraeg y ddinas wedi, a dal i wneud, yn pleidleisio Llafur felly, nid jyst fôt y 'Welshies' (chwedl y Blaid Lafur) yw hon. Mae 'na bleidlais dda gan bobl nad sy'n siarad Cymraeg o gwbl. BYddai'n ddiddorol gwybod faint?

2. Yn ail, am wn i, a yw pleidlais Llafur yn cynnwys carfan o bobl sy'n pleidleisio yn 'gwrth Gymraeg'? Os felly, a fyddai'r bleidlais hon yn cryfhau pe bai pobl yn teimlo fod 'gormod' o siaradwyr Cymraeg yn y ward?

3. Y newyddion da arall yw fod cenedlaetholwyr yng Nghaerdydd yn hytrach na mynd ar goll (diogi fyddai gair arall) nawr yn dechre ymgyrchu. Mae holl natur cenedlaetholdeb y ddinas yn newid. Mae modd o'r diwedd fod yn genedlaetholwr ac yn weithredol yng Nghaerdydd ac nid yn genedlaetholwr oedd yn digwydd byw yng Nghaerdydd ac yn weithedol yn y Cymoedd neu'r Gorllewin. Mae hynny'n newid mawr iwan i deinamig y ddinas, bywiogrwydd y ddinas, a chenedlaetholdeb Cymru.

4. Fel soniais, mae hon yn ward hynod. Mae'n wahanol iawn iawn i rhywle fel Llanrhymni neu Rhiwbeina neu Cathays. Dydy hi ddim o reidrwydd felly Blog Menai yn gwrth-brofi'r polau piniwn. Y cwestiwn i'r Blaid yng Nghaerdydd yw a ellir gweld canran tebyg, neu o leiaf yn yr 20%+, ar draws Caerdydd? Petai hynny'n digwydd yna mae 'na swing fawr yn digwydd i'r Blaid yn genedlaethol.

Beth bynnag - pob cefnogaeth i Elin a'r tim yno. Diolchwch i Elin a'r tim am eu gwaith. Dwi'n siomedig nad ydym wedi ennill!

Dwi'n meddwl hefyd fod angen diolch i Neil McAvoy sydd yn 'street fighter' ac sy'n gwybod sut mae ennill etholiadau. Mae, bron ar ben ei hun, yn ymladd yn erbyn Llafur yng Ngaerdydd ac mae'n tynnu gwaed. Da iawn Neil.


Cyn-brifddinaswr







Cai Larsen said...

Diddorol Anon 11.44 - ond dwi ddim yn cytuno yn llwyr.

Dydi Treganna - er y teimlad cymharol Gymreig sydd i'r lle - ddim yn arbennig o gefnogol i'r Blaid wrth safonau Gorllewin Caerdydd. A gweithio o fy nghof mae'r gefnogaeth yn well yn Grangetown, Glan yr Afon, Tyllgoed, Creigiau ac o bosibl Trelai - dwi ddim yn cofio honn'n iawn.

Mi fotiodd mam y Mrs a'i chyfneither i Elin a does ganddyn nhw ddim gair o Gymraeg rhyngddyn nhw. Dwi'n siwr i nifer dda o Gymry Cymraeg Treganna fotio i Elin - ond yn fy mhrofiad i o leiaf dydi Cymry Cymraeg Caerdydd ddim yn wych am fotio i'r Blaid. Mae yna lawer iawn mwy o siaradwyr Cymraeg yn y brifddinas na sydd yna o bleidleisiau i'r Blaid.

Ond fel ti'n dweud - da iawn Elin a'r Blaid yng Ngorllewin Caerdydd ar berfformiad clodwiw.

Anonymous said...

Dwi'n gyfarwydd iawn a ward y Tyllgoed - canoedd o Gymru di-Gymraeg dosbarth gweithiol Caerdydd yno yn pleidleisio yn rheolaidd i'r Blaid ac i Neil Mcavoy.

Anonymous said...

Neil McAvoy , gwneud y Blaid yn berthnasol yng Nghaerdydd .

Anonymous said...

Cytuno Cai

Mae nifer o'r CC yng Nghaerdydd yn hollol annobeithiol o ran cefnogi'r iaith, ac fe all cael ward gyda canran uchel o siadwyr Cymraeg fod yn niewidiol i'r Blaid h.y. creu y canfyddiad fod y Welshies yn cymryd drosodd heb fod y blincin Welshies yna actually yn fotio i'r BLaid yn y lle cyntaf!

Yr hyn sydd yn ddiddorol yng Nghaerdydd nawr yw fod pobl sy'n dod o ardaloedd lle mae'r Blaid wedi bod yn gryf (ac mae hynny'n cynnwys y Cymoedd) nawr, am y tro cyntaf, yn byw yng Nghaerdydd lle mae cyfle gwirioneddol gan y Blaid. Mae hynny'n ysgogiad iddynt wneud mwy gyda'r Blaid ac mae hynny am wedd-newid pethau.

O siarad gyda rhywun oedd yn agos iawn i'r ymgyrch, dwi'n deall i'r Blaid wneud yn arbennig o dda - efallai hyd yn oed ennill y bleidlais go iawn. ond fod Llafur wedi llorio pawb efo'r bleidlais bost.

Mae'n rhaid i mi ddweud 'mod i'n cytuno efo UKIP. MAe'r bleidlais bost yn rotten parish yn etholiadol. Mae'n hollol hollol llwgr ac mae angen ei ddileu. Os nad ydy pobl yn barod i wneud amser i bleidleisio yna tyff. Mae hynny'n well na chael system sy'n hollol agored i dwyll - twyll sydd wedi dod o gyfeiriad y Blaid Lafur yn amlach nag heb.

Neil McAvoy - dydy rhai o uchel aelodau'r BLaid ddim yn ei hoffi,ond ar lawr gwlad mae'n chwyldroi'r Blaid. Mae Llafur yn ei gasau - ac mae hynny'n ddigon da i mi. Mae'n ymladdwr nid drip heddychwr sy'n fab y mans.

Viva Neil McAvoy.


Cyn-brifddinaswr