Tuesday, February 18, 2014

Un neu ddau o sylwadau ar bol diweddaraf YouGov

Gair brysiog am y pol YouGov a gyhoeddwyd ddoe.

Byddwch  yn cofio i mi wneud sylw ar bol YouGov y tro diwethaf y cyhoeddwyd un ym Mis Rhagfyr 2013.  Roeddwn yn nodi bod problem efo'r pol oherwydd nad yw'n ffiltro na phwyso i ddelio efo'r ffaith bod pol Ewrop yn debygol o fod yn un gyda chyfradd pleidleisio isel.  Hoffwn wneud sylw pellach ar y pol a ryddhawyd tros y dyddiau diwethaf.  Dwi'n ymwybodol nad ydi hi'n syniad da i ddiystyru pol nad ydym yn hoffi ei ganlyniad (mae hwn yn awgrymu y bydd y Blaid yn colli ei sedd Ewrop), ond mae yna broblem bach efo'r pol yma.

Ystyriwch yn gyntaf batrwm rhanbarthol pol diweddaraf YouGov.

A rwan dyma berfformiad y Blaid yn ol yn Etholiad Ewrop 2009.  O gymharu a ffigyrau pol YouGov yr hyn sy'n amlwg ydi bod y 'cwymp' yng nghefnogaeth y Blaid i gyd bron wedi digwydd yn y Gorllewin o'r Gogledd.  Mae'r symudiadau yng ngweddill Cymru i gyd yn weddol fach.


Rwan mae'r 'cwymp' yn y Gogledd yn syfrdanol.  Petai'n wir byddai'n awgrymu cwymp o efallai 20,000 o bleidleisiau.  Mae'r cwymp yn y Gorllewin a'r Canolbarth hefyd yn fawr - tua 17,000 o bosibl.

Ydi cwymp o'r fath yn bosibl?  Ydi wrth gwrs - ond pan mae cwymp o'r math yna yn digwydd mae yna reswm amdano ac mae yna dystiolaeth etholiadol amlwg o'i fodolaeth.  Esiampl diweddar ydi'r cwymp ym mhleidlais y Lib Dems ers i'r blaid honno fynd i lywodraeth efo'r Toriaid.  Mae'r rheswm am y cwymp yn amlwg - maent wedi symud i'r Dde gan waedu pleidleisiau asgell Chwith i Lafur, ac mae'r bleidlais brotest roeddynt mor dda am ei gorlannu yn mynd i UKIP.  Rydym yn gweld y dystiolaeth o'r dirywiad yn eu pleidlais ym mhob etholiad bron.

Ond dydi hyn ddim yn wir yn achos Plaid Cymru yn y Gogledd a'r Gorllewin.  Mae'n anodd meddwl bod rheswm am gwymp pleidlais y Blaid yn y Gorllewin a'r Gogledd yn benodol, a does yna ddim tystiolaeth etholiadol chwaith.   Yn wir mae'r etholiadau a gafwyd yn yr ardaloedd yma yn eithaf da.  Cafwyd dwy etholiad llwyddiannus iawn ym Mon y llynedd, ac mae'r is etholiadau cyngor a gafwyd wedi bod yn fwy na pharchus.  Mae'r pol yn dangos cwymp sydd ddim yn cael ei adlewyrchu mewn etholiadau go iawn.  Mae yna nifer o resymau posibl am hyn - ond wnawn ni ddim dilyn y trywydd hwnnw ar hyn o bryd.

Rwan dydw i ddim yn awgrymu am ennyd bod sedd y Blaid yn ddiogel.  Mae'r tirwedd etholiadol ehangach yn awgrymu y bydd pleidlais Llafur ac UKIP yn codi tra bydd un y Toriaid yn cwympo.  Dim ond polau YouGov a chyfres o is etholiadau sydd gennym i weithio arnynt o ran y Blaid - felly dydi'r darlun ddim yn glir.  Byddwn serch hynny yn disgwyl i Lafur gael dwy sedd, ac i'r ddwy arall fod rhwng y Blaid, UKIP a'r Toriaid.  Gellir gweld y canlyniad yn 2009 yma..  Byddwn hefyd yn ychwanegu un pwynt bach arall - mae'r Toriaid wedi methu a chael eu pleidlais allan dro ar ol tro yn ystod y dday flynedd diwrthaf.  Efallai y byddant yn fwy llwyddiannus ym mis Mai - ond os na fyddant nhw fydd yn colli'r sedd.

* Dydi'r tabl etholiad Ewrop ddim yn hollol ddibynadwy oherwydd i rai ardaloedd newid rhanbarth wedi 2009 - er enghraifft aeth Dyffryn Conwy o'r Canolbarth i'r Gogledd ac aeth Dwyfor i'r cyfeiriad arall.  

14 comments:

Anonymous said...

iawn, ond mae pleidlais graidd y Toriaid yn fwy na phleidlais graidd Plaid Cymru felly, mae'n awgrymu i mi na fydd y Blaid yn curo y Toris.

Y cwestiwn wedyn yw a fydd y Blaid yn curo UKIP ... a dwi ddim yn sicr y gwneith hi.

Mae'n rhaid i Blaid Cymru cael neges glir syml i gael ei phleidlais graidd allan. A dydw i ddim yn gweld hynny. Mae neges y Blaid yn un wan iawn - ymladd dros Gymru a bod Cymru yn rhan o Ewrop - neges y gall Llafur (a'r LibDems) ei ddefnyddio.

Fe allai'r Blaid ddefnyddio slogan syml genedlaehtolaidd ac fe all hwnnw weithio - o ran cael y bleidlais graidd allan a rhyw elfen o 'fuck it' gan bleidleiswyr Llafur yn benthyng eu pleidlais i'r Blaid gan nad etholaid 'go iawn' yw hon.

Dwi ddim yn gweld sut mae'r Blaid am ysgogi a newid y drafodaeth yma. Mae'r neges yn wan iawn iawn.

Hogyn o Rachub said...

Dwi'n meddwl bod 'na berygl gwirioneddol i sedd y Blaid yn yr etholiadau hyn. Gan ddweud hynny mae dy ddadansoddiad o'r pôl yn codi pwyntiau diddorol, ac, wel, od, iawn. Anodd gen i gredu y bydd pleidlais y Blaid yn is yn y Gogledd nag yn ardal Caerdydd a'r cyffiniau er enghraifft.

Taswn i'n gorfod dyfalu mi fyddwn i'n meddwl y bydd Llafur yn enill 2 sedd gydag un yr un i UKIP a'r Blaid, er mewn difrif mae'n anodd iawn dyfalu.

William Dolben said...

camgymeriad samplo? sampl o ryw fil? pa mor ddibynadwy ydi hyne?

Cai Larsen said...

Anon 10.24 - Dwi ddim yn cytuno bod pleidlais graidd y Toriaid yn uwch nag un y Blaid - ond mae uchafswm pleidlais y Toriaid yn uwch nag ydi un y Blaid ar hyn o bryd.

HoR - cytuno.

William - Mae sampl o fil yn rhoi margin for error o tua 3% cyn belled a bod y samplo yn cynrychioli'r pleidleiswyr. Mae mfe y samplau rhanbarthol llawer uwch.

Dylan said...

Petai Iwcip yn ennill mwy o bleidleisiau na Phlaid Cymru, byddai hynny'n isafbwynt newydd. Mae'n drychinebus bod y peth hyd yn oed yn bosibl.

Cai Larsen said...

Dylan - mae'n ffenomena UKIP yn eithaf hawdd i'w egluro yn y bon - mae wedi ei greu gan y Glymblaid yn Llundain.

Pan ddaeth y Glymblaid i fodolaeth digwyddodd dau beth mawr o safbwynt UKIP. Yn gyntaf llusgwyd y Toriaid i'r Chwith gan greu gwagle newydd ar y Dde. Yn ail collodd y Lib Dems eu safle fel bwced pleidleisiau protest, ac etifeddodd UKIP y fraint a'r anrhydedd honno. Pan fydd y Glymblaid yn mynd bydd UKIP yn colli llawer o'i chefnogaeth.

Hen stori ydi hi mewn gwirionedd - mae gwleidyddiaeth Lloegr yn dylanwadu llawer mwy ar wleidyddiaeth Cymru nag ydyw ar wleidyddiaeth yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Anonymous said...

Anodd cytuno efo Cai fod pleidlais graidd y Toriaid yn is na Phlaid Cymru. Hyd yn oed yn '97 a '01 pan etholwyd dim AS Ceidwadol roedd pleidlais y Ceidwadwyr ddwy waith yr hyn ddenodd PC. Mae'n rhaid mynd nol i 1999 i weld PC yn rhoi cweir i'r Ceidwadwyr mewn etholiad Cynulliad gyda'r gleision ar y blaen yn 2007 a 2011.

Cyn swnio'n rhy negyddol cofier fod etholiad Ewrop 2009 yn gryn benllanw i UKIP ac syrthio mae UKIP yn y polau piniwn ers rhai misoedd. Os dwy sedd i Lafur fe fyddwn yn disgwyl un yr un i Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr a deud gwir. Cawn weld!

Cai Larsen said...

Diolch Anon 7.57. Fel mae'r gyfraddpleidleisio yn syrthio mae perfformiad y Blaid yn gwella - mae hyn yn awgrymu bod y bleidlais greiddiol yn gadarn. Fel mae'r gyfradd yn cynyddu mae perfformiad y Blaid yn mynd yn salach. Mae hyn yn awgrymu nad ydi'r bleidlais botensial yn uchel iawn ar hyn o bryd.

Y broblem efo dy ddadansoddiad parthed UKIP ydi bod eu perfformiad yn y polau Prydeinig yn llawer, llawer cryfach nag oedd yn 99. Mae'n anodd gweld eu perfformiad yn Ewrop yn dirywio o dan yr amgylchiadau hynny.

Anonymous said...

Anon 7.57 sydd yma eto.

Dau bwynt sydyn. Mae dy bwynt am effaith canran y bleidlais ar berfformiad PC yn gywir. Mae hyn yn cyfrannu at lwyddiant y Blaid mewn etholiad Cynulliad ac Ewrop sy'n gyson well nag etholiad San Steffan. Hyn yn amlwg cyn ac ar ol dyfodiad y Cynulliad. Serch hynny, mae 'na fwy iddi na hynny. Heb os mae etholwyr Cymru yn ystyried PC yn fwy perthnasol mewn etholiad Cymreig nag un i San Steffan. Yn yr un modd, mae y Ceidwadwyr yn cael ei gweld yn fwy perthnasol mewn cyd destun San Steffan tra'n parhau i ddioddef o'r canfyddiad o fod yn Blaid Brydeinig (Saesnig?) mewn etholiad Cymreig. Serch hynny, tydi hyd yn oed berfformiad gwaethaf y Ceidwadwyr mewn etholiad Cynulluad (1999) sef tua 16% yn agos i fod mor wan a pherfformiad cyson wael PC mewn gornest San Steffan. Ar y sail hwnnw fe fyddwn yn dadlau fod pleidlais graidd y Ceidwadwyr yn uqch nag un PC. Fe fyddwn yn mynd mor bell a deud fod tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu fod uchafswm canran y Blaid oscrhywbeth yn uwch na'r Ceidwadwyr o gymharu 32% PC yn 1999 yn erbyn prin 25% y Ceidwadwyr yn 2010.

O ran UKIP -,posib iawn ond yn 2009 gyda bron 20% trwy y DU cwta 13% gafwyd yng Nghymru. A fydd UKIP yn gyfforddus dros 20% yn yr haf ac fydd hyn yn cael ei drosglwyddo i berfformiad gwell na 13% yng Nghymru y tro hwn?

Cawn weld.

Cai Larsen said...

Sylwadau diddorol eto.

Dwi'n meddwl bod rhaid i ti ystyried pleidlais graidd yn nhermau nifer pleidleisiau yn hytrach na chanran. Wedi dweud hynny (a diystyru etholiadau cyngor) ti'n iawn bod pleidlais ddiweddar isaf y Blaid 126k yn Ewro 09 yn is nag un y Toriaid -142k yn 99. Ond mae pleidlais uchaf y Toriaid yn llawer uwch nag un uchaf y Blaid - cawsant 382k yn 2010 - llawer mwy na gafodd y Blaid yn etholiadau'r Cynulliad 99.

Alwyn ap Huw said...

Naw wfft i'r polau!

Yng Nghymru mae 'na 3 sedd "saff" yn Ewrop. Un i'r Blaid Lafur, un i'r Ceidwadwyr ac un i Blaid Cymru, yr unig sedd gwerth ymgiprys amdani ydy'r bedwaredd sedd, sydd yn cael ei dal gan UKIP efo bron i 40 mil yn llai o bleidleisiau na Phlaid Cymru yn y drydydd safle ar hyn o bryd.

Heb ddymuno agor hen graith, roedd canlyniad y Blaid yn Ewrop 2009 y gwaethaf iddi gael o ran nifer y pleidleiswyr ers 1989, rwy'n mawr obeithio bydd Plaid Cymru wedi dysgu gwers ac yn gwneud gwell joban o gael y bleidlais craidd allan eleni!

I fod yn gwbl onest, dwi ddim yn gallu gweld y Ceidwadwyr na Phlaid Cymru yn cipio ail sedd eleni.

Bydd y brif ornest rhwng UKIP i ddal gafael ar sedd ac i Lafur cipio sedd.

Ond bydd ail ornest ddifyr, sef yr un rhwng y Blaid a'r Ceidwadwyr i sicrhau nad ydy'r naill na'r llall yn syrthio i'r bedwerydd safle bregus ar gyfer etholiad 2019.

Fy narogan Llafur, Ceid, Plaid, Llafur ac Iwcip a phawb arall o'r ras!

Dyfed said...

Pleidlais graidd yn cael cryn sylw yma. Iawn. Ond be ddigwyddodd i'r syniad o geisio ennill cefnogaeth newydd i'r achos cenedlaethol? Ynteu ydi hynny wedi ei hepgor bellach?

Anonymous said...

Pwynt arall o gysur o ran UKIP ydi fod etholiad 2009 wedi digwydd reit yng nghanol y sgandal treuliau Aelodau Seneddol. Fe fanteisiodd UKIP yn fawr o fod yn blaid tu allan i'r broses wleidyddol.

Bellach, gyda disgwyliadau yn uwch fe fydd yna sylw i safbwynt a pholisiau UKIP ac er fod y blaid honno yn sgorio rhwng 10% a 15% yn y polau piniwn tueddol i feddwl mae go anodd fydd hi iddyn nhw wneud yn llawer gwell na 2009. O weld UKIP ddim uwch na 15% yng Nghymru fe fyddai angen 30% i Lafur gipio dwy sedd. Posibilrwydd crys os ydi polau ITV / You Gov yn gywir. Hynny dal yn gadael y Ceidwadwyr a PC gydag ASE pob un.

Un cwestiwn anodd serch hynny. Beth ddaw o 5% y BNP sef pleidlais y blaid honno yn 2009? Mynd yn ol i Lafur neu trosglwyddo i UKIP? Nid pardduo Llafur ydi'r bwriad fan hyn ond fe sgoriodd y BNP yn weddol drwm mewn etholaethau Llafur yn 2009.

Anonymous said...

Jyst i gadarnhau, mae tabl Blog Menai o ganlyniad Ewro 2009 yn dangos fod y BNP wedi croesi 7% ym mron pob etholaeth yn y cymoedd (Castell Nedd yn eithriad) a hefyd yn Abertawe a Wrecsam.