Tuesday, February 11, 2014

Pwt arall am etholiad Ewrop

Mi fydda i yn cael fy hun yn cytuno efo dadansoddi etholiadol Vaughan Roderick yn amlach na pheidio, ond dydw i ddim mor siwr ei fod yn gywir yma yn darogan mai un sedd yr un mae Llafur, UKIP, Plaid Cymru a'r Toriaid yn debygol o'u hennill y tro hwn.

Er mwyn osgoi mynd i mewn i fathemateg yr etholiad yn ormodol y ffordd hawsaf o egluro pethau ydi fel hyn - os ydi'r blaid sy'n gyntaf yn cael mwy na dwywaith pleidlais yr un sy'n bedwerydd yna bydd y blaid honno yn cymryd sedd y blaid sy'n bedwerydd.  Yr hyn sydd gan Vaughan - ac mae ganddo bwynt - ydi nad ydi Llafur yn debygol o wneud mor wych a hynny oherwydd nad yw eu cefnogwyr yn tueddu i fynd allan i bleidleisio mewn niferoedd mawr mewn etholiadau Ewrop.  Serch hynny mae hanes yn awgrymu y bydd Llafur yn cael digon o bleidleisiau i gael dwy sedd.

Dyma oedd y canlyniad yn 2009:

Toriaid 21.2%
Llafur 20.3%
Plaid Cymru 18.5%
UKIP 12.8%
Lib Dems 10.7%

Dyma'r bleidlais salaf o ddigon i Lafur yng Nghymru ers 1918 - roedd Gordon Brown wrth y llyw yn Llundain, roedd Llafur newydd yrru'r economi i'r Diawl ac roedd y sgandal treuliau yn fyw iawn yn y cof.  Dyma ganlyniadau Llafur yn yr etholiadau Ewrop blaenorol:

1979 - 41.5%, 1984 - 44.5%,  1989 - 48.9%, 1994 - 42.7%, 1994 - 55.9%,  1999 - 31.9%, 2004 32.5%.

Rwan dydw i ddim yn meddwl y bydd Llafur yn cyrraedd yr amrediad 41.5% i 55.9% pan roeddynt yn wrthblaid yn San Steffan yn y gorffennol - petai hynny yn digwydd gallent yn hawdd ennill 3 sedd.  Dydyn nhw ddim yn gwneud cystal yn y polau Prydeinig nag oedden nhw bryd hynny, mae hi'n frwydr pum plaid yng Nghymru ar lefel Ewropiaidd - mae UKIP yn tynnu ar beth o'r bleidlais Lafur - ac mae eu peirianwaith wedi datgymalu mewn rhannau eang o'r wlad.  Serch hynny mae'n rhesymol cymryd y byddan nhw llawer cryfach nag oeddynt yn 2009 - yn y 30au o ran canran eu pleidlais.  Os felly maent yn debygol iawn o gael dwy sedd, ac mae rhywun arall am golli eu sedd.

Mae pol YouGov diweddar wedi awgrymu y byddai Llafur yn cael dwy sedd gyda Phlaid Cymru neu UKIP yn colli eu sedd.  Rwyf wedi egluro pam fy mod yn credu bod y canfyddiad hwnnw yn wallus yma.  Ar yr olwg gyntaf mae sefyllfa'r Toriaid yn ymddangos yn weddol saff - mae'r pol YouGov yn rhoi 20% o'r bleidlais iddynt ac mae eu pleidlais wedi bod o gwmpas y 20% ym mhob etholiad Ewrop ers 1994.  Serch hynny - fel rydym wedi trafod o'r blaen - mae'r Toriaid wedi cael cryn drafferth mewn is etholiadau lleol ac yn is etholiad Ynys Mon i gael eu pleidlais allan.  Parhaodd y patrwm hwnnw yn is etholiad Betws yn Rhos ddydd Iau.

Y tro diwethaf i'r Toriaid fod mewn grym a bod a ffigyrau polio (lefel San Steffan) yn y 30au cynnar oedd yn ystod etholiad Ewrop oedd yn 1994.  14.6% o'r bleidlais gawsant yng Nghymru bryd hynny - ac roedd honno'n etholiad lle nad oeddynt yn gorfod ymladd efo UKIP am bleidleisiau.

Mae'n anodd iawn gweld UKIP yn cael llai na'r 12.8% a gawsant o'r blaen ag ystyried eu ffigyrau polio cyffredinol, y sylw maent yn ei gael a diflaniad y BNP.  Yn wir mae'n debygol o gael cryn dipyn mwy na hynny - a bydd hynny ar draul y Toriaid i raddau helaeth.

Does yna ddim rheswm arbennig i ddarogan cwymp  ym mhleidlais y Blaid chwaith - mae wedi
 llwyddo i gael ei chefnogwyr allan mewn is etholiadau cyngor a chafodd fuddugoliaeth ysgubol yn
Ynys Mon y llynedd.  Ar ben hynny mae pleidleiswyr y Blaid yn hanesyddol yn well na phleidleiswyr y bedair plaid unoliaethol am ddod allan i bleidleisio - rhywbeth amrhisiadwy mewn etholiad sydd a chyfradd isel o bobl yn pleidleisio ynddi.

Cawn weld mewn can niwrnod beth fydd y canlyniad - ond a chymryd safbwynt y Blaid am funud mae gennym pob rheswm i fod yn obeithiol o gadw'r sedd - os daw'r bleidlais graidd  allan byddwn yn ei chadw.  Does yna ddim rheswm o gwbl i feddwl na fydd hynny'n digwydd.




1 comment:

Anonymous said...

Yn sicr fel rhywun sy'n cefnogi plaid cymru eich hyn, dydi hi ddim yn sioc I weld chi'n erbyn y ffigyrau sy'n dweud fydd y blaid yn colli un seed yn yr etholiadau.