Saturday, February 01, 2014

Charles Windsor a gwyddoniaeth

Mae yna rhywbeth hynod o ddigri deall bod Charles Windsor yn tantro bod y sawl sydd yn amheus ynglyn a chynhesu byd eang o anwybyddu gwyddoniaeth. Mae'n fwy digri nodi bod y cyfryngau yn adrodd y stori yma heb gyfeirio at yr eliffant wrth ddrws Mr Windsor.  Mae'r dyn wedi defnyddio pob platfform sydd ar gael iddo - ac mae yna lawer o rai cyhoeddus a chudd - i geisio gorfodi'r trethdalwr i ariannu cyfres o  ffads 'meddygol' nad oes yna unrhyw dystiolaeth gwyddonol o gwbl i'w cefnogi.

Gwnaeth ei farn tuag at wyddoniaeth yn glir pan gafodd (am rhyw reswm neu'i gilydd) y cyfle i draddodi Araith Reith yn y flwyddyn 2,000.

It is only recently that this [religious] guiding principle has become smothered by almost impenetrable layers of scientific rationalism.  I believe that if we are to achieve genuinely sustainable development, we will first have to rediscover, or re-acknowledge a sense of the sacred in our dealings with the natural world, and with each other.

Yn wir mae Charles Windsor wedi mynd cyn belled a dweud ei fod yn 'falch' o gael ei alw'n elyn i'r Oleudigaeth.  

Ymysg y cymysgedd rhyfedd o mymbo jymbo mae'r dyn wedi eu hargymell tros y blynyddoedd ceir osteopathy, homeopathy, Ayurvedic medicine, acupuncture a  Gerson Therapy, Yn wir sefydlwyd rhywbeth o'r enw y Foundation for Integrated Health ym 1993 i hyrwyddo'r gwahanol feddygyniaethau amheus sydd o ddiddordeb i Charles, cyn gorfod dod i ben yn 2010 yn dilyn sgandal oedd yn ymwneud a thwyll  ariannol.

Mae Mr Windsor hefyd  yn gwneud elw personol o werthu gwahanol feddyginiaethau nad oes yna dystiolaeth eu bod yn gweithio.  Efallai eich bod eisiau prynu Organic Baby Hamper am £195 er enghraifft, neu ddad wenwyno eich perfedd efo rhywbeth neu'i gilydd mae Charles wedi cael Waitrose a Boots i'w werthu ar ei ran - er nad oes yna unrhyw dystiolaeth bod y corff dynol angen cymorth i gael gwared o wenwyn.

Mae gwyddoniaeth yn iawn yn ei le - ar yr achlysuron prin hynny pan mae'n cefnogi daliadau Mr Windsor - ond mae'n rhywbeth i'w anwybyddu a'i feirniadu ar yr achlysuron llawer mwy niferus pan nad yw'n cefnogi ei syniadau bach rhyfedd. 

1 comment:

Dylan said...

Diolch am hwn. Gwir pob gair. Mae'r clown yn elyn i resymeg.