Mae’r dull wedi ei ddefnyddio dro ar ol tro ar ol tro mewn etholiadau lleol yn ardaloedd trefol Cymru, ac mae’r patrwm yn rhyfeddol o gyson – os ydi un aelod o blaid arbennig yn cael ei ethol tros ardal, yna mae’n hynod debygol y bydd pob aelod arall tros yr ardal honno yn cynrychioli’r un blaid. ‘Does ond rhaid i ni edrych ar y ddinas lle mae pencadlys y Blaid Lafur yng Nghymru wedi ei leoli ynddi i ddangos hyn yn weddol glir. ‘Dwi’n rhestru isod ganlyniadau’r etholiadau yng Nghaerdydd yn 2008 yn y wardiau aml aelod. Mae yna lond dwrn o wardiau un aelod yn y brif ddinas – ‘dwi ddim yn cynnwys y rheiny yn y tabl.
| Ward | Lib Dems | Llafur | Toris | Plaid | Annibynnol |
| Adamsdown | 2 | ||||
| Caerau | 2 | ||||
| Treganna | 3 | ||||
| Cathays | 4 | ||||
| Cyncoed | 3 | ||||
| Elai | 3 | ||||
| Tyllgoed | 3 | ||||
| Gabalfa | 2 | ||||
| Grange | 3 | ||||
| Heath | 1 | 2 | |||
| Llandaf | 2 | ||||
| Llandaf (Gog) | 2 | ||||
| Llanishen | 4 | ||||
| Llanrymni | 3 | ||||
| Pentwyn | 4 | ||||
| Penylan | 3 | ||||
| Plasnewydd | 4 | ||||
| Pontprennau | 2 | ||||
| Rhiwbina | 3 | ||||
| Glan yr Afon | 3 | ||||
| Rhymni | 2 | ||||
| Splott | 1 | 2 | |||
| Trowbridge | 1 | 2 | |||
| Eglwys Newydd | 4 |
Felly o’r 70 aelod sydd wedi ei ethol mewn seddi aml aelod mae 61 (87%) yn cynrychioli wardiau lle mai aelodau o’u plaid nhw yn unig sydd wedi eu hethol. Rhywbeth tebyg i hyn ydi’r patrwm yn gyffredinol.
Mae yna reswm cwbl syml pam bod Llafur yn ffafrio’r dull hwn – mae o fantais etholiadol iddyn nhw. Llwyth o gelwydd ydi’r holl rwdlan i’r gwrthwyneb.
4 comments:
A fyddai'r deg cael ryw fath o system 'PR' dau aelod ym mhob sedd? Felly e.e. yng Ngheredigion fe fyddai yna un aelod PC ac un aelod LD. Dw i'n siwr y byddai yna ddau aelod Llafur yn rhai o gymoedd y de, a dau aelod PC yn Dwyfor-Meirionydd, ond fe allai fod yn system tecach? Y broblem wrth gwrs yw y byddai yn tynnu dipyn o'r angerdd allan o'r frwydr etholiadol ei hun!
Mi fyddai hynny'n cynhyrchu canlyniad mwy cyfrannol. Byddai'n rhaid i ti gael 50%+ i gael y ddau aelod. O dan y cynlluniau Llafur gallai circa 35% roi'r ddau aelod i blaid.
Sut mae'r cynlluniau dau aelod ma yn gweithio? Hynny yw, dwi'n deall sut byddai dull PR yn gweithio, gan olygu y byddai gofyn i'r blaid ar y blaen gael 50%+ er mwyn cael y ddau aelod, ond beth yw'r dull sy'n rhoi'r ffigur 35%?
Iwan Rhys
Pawb efo dwy bleidlais a'r ddau sydd ar ben y rhestr yn cael eu hethol.
Post a Comment