Tuesday, May 20, 2008

Y Blaid Lafur yn wynebu rhyfel mewnol ar ol dydd Iau

Yn ol Politicalbetting.com mae'n dra phosibl y bydd Alan Milburn yn herio Brown wedi i Lafur golli is etholiad Crew ddydd Iau (ac maent yn hollol sicr o'i cholli). Mae'r wefan hon yn gywir yn amlach o lawer na mae'n anghywir.

Mae dau gwestiwn sydd o ddiddordeb i genedlaetholwyr Cymreig yn codi o hyn:

(1) A fyddai cael Blairite yn gwneud mwy o ddrwg nag o les i Lafur yng Nghymru?

(2) Beth fyddai'n digwydd i gefnogaeth y Blaid Lafur yn yr Alban (mae eu cefnogaeth wedi bod yn fwy soled yno nag yma) petai'r Albanwr yn rhif 10 yn mynd?

No comments: