Thursday, May 22, 2008

Sut i ennill etholiadau - a sut i'w colli nhw

Mae sut i lwyddo yn etholiadol yn ei hanfod yn hollol syml - gellir torri'r holl broses i lawr i bump cam syml:

(1) Llunio 'stori wleidyddol' glir sy'n apelio at grwpiau cymharol fawr o bobl.
(2) Adnabod (identify) y bobl mae ein 'stori'n apelio atynt.
(3) Cysylltu efo'r bobl hynny.
(4) Cadw mewn cysylltiad rhwng etholiadau, ac yn ystod ymgyrchoedd etholiadol.
(5) Sicrhau eu bod yn pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.

'Rwan mae gweithredu'r uchod yn fwy anodd wrth gwrs - ond mae'r broses yn hawdd iawn i'w hesbonio.

Y cam pwysicaf o ddigon ydi'r cyntaf. Os nad ydi'r naratif gwleidyddol yn apelio, neu'n rhy gymhleth mae pob un o'r camau eraill yn anodd.

Pa fath o naratif ddylai un y Blaid fod felly? Yn fy marn bach i mae'n mynd i amrywio o ardal i ardal.

Ar lefel cenedlaethol dylid creu stori o blaid sy'n rhoi Cymru'n gyntaf a sy'n cael llwyddiant wrth chwistrellu synnwyr cyffredin a gwerthoedd Cymreig i gyfundrefn sy'n cael ei harwain gan blaid sydd wedi methu yn y gorffennol, ac a fyddai o gael rhwydd hynt yn dilyn agenda Gordon Brown a Llafur Newydd yn methu eto.

Ar lefel lleol mae pethau'n dibynnu ar os ydi'r Blaid mewn grym neu beidio. Lle'r ydym mewn grym dylid cael stori o blaid genedlaethol sy'n gweinyddu yn effeithiol ac gwneud ei gorau glas i sefyll tros fuddiannau lleol - weithiau yn erbyn dymuniadau Caerdydd a Llundain, weithiau trwy ddefnyddio ei dylanwad cenedlaethol.

Lle nad ydym mewn grym, mae pethau'n hawdd mewn cyfnod lle ceir tocio gwirioneddol ar gyllidebau cynghorau. Dylem gael ein gweld fel plaid genedlaethol sydd yn wrthblaid yn lleol, ond a fyddai'n gwneud llawer gwell joban na'r criw sy'n rhedeg y sioe ar hyn o bryd.

Byddai'r stori yma'n gweithio'n well o lawer petai'r naratif genedlaethol o effeithlionrwydd mewn llywodraeth yn tarro deuddeg gyda'r etholwyr. Mae hyn hefyd yn wir am y stori a ddywedir mewn ardaloedd lle'r ydym yn rheoli.

Dyna pam mai llwyddiant y naratif cenedlaethol ydi'r elfen bwysicaf o hyn oll.

No comments: