Friday, May 30, 2008

Etholiadau lleol rhan 3 - dinasoedd mawr y De

Roedd yr etholiadau lleol rhai siomedig i'r Blaid Lafur yn Abertawe, yn sal iddynt yng Nghasnewydd ac yn drychineb di gymysg yng Nghaerdydd. Wele'r ffigyrau moel:

Abertawe:
Llafur - 30 (-2)
Ceidwadwyr - 4 (-)
Democratiaid Rhyddfrydol - 23 (+3)
Plaid Cymru - 1 (-3)
Eraill - 14 (+2)

Casnewydd:
Llafur - 19 (-8)
Ceidwadwyr - 17 (+5)
Democratiaid Rhyddfrydol - 6 (+3)
Plaid Cymru - 1 (+1)
Eraill - 1 (+1)

Caerdydd:
Llafur - 13 (-14)
Ceidwadwyr - 17 (+7)
Democratiaid Rhyddfrydol - 35 (+3)
Plaid Cymru - 7 (+3)
Eraill - 3 (+1)

Mae'n werth aros am ennyd gyda'r sefyllfa yng Nghaerdydd. Ychydig dros bedair blynedd yn ol roedd tri chwarter y seddi yn perthyn i Lafur - erbyn heddiw mae'r ffracsiwn yn is na chwarter. Mae'r cwymp yma ar lefel lleol yn rhyfeddol - ac yn ymylu ar fod yn unigryw yn hanes llywodraeth leol yng Nghymru.

Ceir naw sedd seneddol oddi fewn i ffiniau'r tri chyngor - Dwyrain a Gorllewin Casnewydd, Dwyrain a Gorllewin Abertawe a Gwyr, Gogledd, Gorllewin a Chanol Caerdydd a De Chaerdydd a Phenarth. Nid sedd drefol ydi'r rhan helaethaf o Wyr mewn gwirionedd, ac yn yr ystyr yna mae'n dra gwahanol i'r wyth sedd arall.

O'r naw, mae Llafur yn dal wyth ar lefel San Steffan a saith ar lefel Cynulliad ar hyn o bryd. Gallwn gymryd y bydd y bydd cwymp yn y nifer o seddi o dan reolaeth y blaid honno ar y ddwy lefel yn tro nesaf (yn 2010 a 2011 mae'n debyg). Y cwestiwn ydi, faint o gwymp sy'n debygol o fod?

San Steffan: 'Dwi am gychwyn efo'r rhai hawdd. Bydd Llafur yn dal Dwyrain Abertawe, bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn dal Canol Caerdydd a bydd y Toriaid yn cipio sedd Julie Morgan yng Ngogledd Caerdydd (mae hon eisoes wedi syrthio iddynt yn yr etholiadau Cynulliad).

15% o fwyafrif sydd gan Paul Flynn yng Ngorllewin Casnewydd tros y Toriaid. Dwi ddim yn meddwl bod hyn yn ddigon iddo ddal y sedd - ac mae'n debyg y bydd y Ceidwadwyr yn ennill sedd yma. Er bod mwy o fwyafrif gan Lafur (tros y Democratiaid Rhyddfrydol y tro hwn) yn Nwyrain y ddinas ar lefel San Steffan (21.5%) daethant yn nes at golli'r sedd yn etholiadau'r Cynulliad. Serch hynny dwi ddim yn disgwyl iddynt golli hon yn yr etholiad cyffredinol, er bydd yn agos. Os byddant yn colli, y Toriaid ac nid y Democratiaid Rhyddfrydol fydd yn elwa.

Dim ond 13% ydi mantais Alan Williams tros y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngorllewin Abertawe. Yr unig beth a allai ei achub ydi os bydd pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Toriaid yn glos. Byddwn yn rhyfeddu petai Alan Williams yn cael mwy na 35%. Gallai unrhyw un o'r tair plaid Brydeinig ennill, ond mae fy mhres ar y Democratiaid Rhyddfrydol ar hyn o bryd - nid bod gennyf fawr o hyder.

Dwi'n disgwyl i'r Toriaid gipio Gwyr gyda mwyafrif bach - mae'n anodd iawn dychmygu Llafur yn colli Gorllewin Abertawe ond yn dal Gwyr.

Y dyddiau yma mae'r bleidlais Lafur yn debyg iawn yn Ne a Gorllewin Caerdydd. Dylient ddal y ddwy - gyda mwyafrif bach - ond os oes pleidleisio tactegol o unrhyw fath yn eu herbyn byddant yn colli i'r Toriaid yn y ddau achos.

Beth bynnag, dyna fy namcaniaethu i ar sail yr etholiadau lleol. Os ydym yn edrych ar y pol diweddaraf (gweler isod) bydd Llafur yn colli pob dim ag eithrio Dwyrain Abertawe. 'Dwi ddim yn meddwl y bydd pethau cweit cyn waethed a hynny.

Felly'r sgor fydd Llafur 4, Toris 3, Dem Rhydd 2 - er gallai Llafur fod i lawr i 2 a'r Toriaid i fyny i 5.

Bydd pethau'n wahanol yn etholiadau'r Cynulliad:

Gogledd Caerdydd: Toriaid.
Dwyrain Abertawe: Llafur.
Canol Caerdydd: Dem Rhydd.
Gorll Casnewydd: Toriaid.
Dwyrain Casnewydd: Dem Rhydd.
Gorllewin Abertawe: Dem Rhydd.
Gwyr: Toriaid.
Gorllewin Caerdydd: Plaid Cymru. Does gen i ddim hyder mawr wrth ddarogan hyn, ond dwi'n gweld Gorllewin Caerdydd yn dod yn sedd debyg i Aberconwy neu Ddwyrain Caerfyrddin / De Penfro mewn etholiadau Cynulliad - hollt tair ffordd. Ar sail yr etholiadau lleol byddai'r Blaid yn agos iawn at gipio'r sedd, ac ni fyddai 'r Toriaid yn y ras. Dwi'n credu fy mod yn gywir i ddweud mai'r Blaid a gafodd y mwyaf o bleidleisiau o'r pedair plaid yn yr etholaeth yn yr etholiadau lleol.
De Caerdydd / Penarth: Llafur - o drwch blewyn tros y Toriaid.

Felly:

Llafur - 2
Toriaid - 3
Dem Rhydd - 3
Plaid Cymru - 1

No comments: