Mae rhywbeth digri o ddi niwed am haeriad Guto Bebb bod streiciau diweddar rhai o'r undebau sy'n cynrychioli gweithwyr cyhoeddus yn ymylu ar fod yn anfoesol.
'Dydw i ddim yn ddiwynydd na'n foesegwr, ond mi fyddai dyn yn meddwl y gallai gweithred fod yn un foesol, anfoesol neu'n un nad oes iddi oblygiadau moesol y naill ffordd na'r llall. Mae cymysgu'r uchod trwy awgrymu bod gweithred yn foesol ond yn ymylu ar fod yn anfoesol, neu'n un nad oes iddi oblygiadau moesol ond sydd bron yn foesol yn ffordd benigamp o greu niwl a myrllwch. Ac mae yna rhywbeth annwyl o Gymreig am fynd ati i greu niwl a myrllwch, ac mae yna rhywbeth llai annwyl ond digon Cymreig am foesoli a gwleidydda ar yr un pryd.
Ta waeth, mae'r syniad bod streicio yn ddrwg neu'n ymylu ar fod yn ddrwg ynddo'i hun yn gysyniad diddorol, a chwbl wallus. Dyma pam.
Thesis Guto ydi bod aelodau undebau cyhoeddus yn gymharol freintiedig o gymharu a gweithwyr y sector breifat, ac felly bod amheuaeth moesol ynglyn a'r streic. 'Dwi am adael o'r neilltu'r ffaith bod y canfyddiad bod gweithwyr y sector gyhoeddus yn gyfoethog, tra bod gweithwyr y sector breifat yn dlawd, yn or symleiddiad dybryd (a bod yn garedig). Ond mae'r gred bod gweithred gan unigolyn neu grwp o unigolion i amddiffyn eu buddiannau eu hunain mewn rhyw ffordd yn foesol amheus yn broblematig - yn arbennig felly i rhywun sydd ar y Dde yn wleidyddol. Mae'r canfyddiad bod unigolion yn naturiol yn gweithredu er eu lles eu hunain, a bod peidio ag ymyrryd gormod ar hynny yn y pen draw er lles pawb yn greiddiol i ddealltwriaeth y Dde o'r ffordd mae economiau yn tyfu ac yn ffynnu.
Mae felly'n afresymegol i ddadlau bod amheuaeth moesol ynglyn a phobl sy'n gweithio yn y sector gyhoeddus yn gweithredu'n dorfol i amddiffyn eu buddiannau eu hunain, tra'n cymryd bod pobl sy'n gweithredu felly yn y sector breifat yn gwneud rhywbeth da. Yr un reddf yn union sy'n gyrru gweithredoedd undebau llafur, enterprenariaid unigol a chwmniau preifat - y reddf i gynnal a gwella safon byw, ac amddiffyn y dulliau lle gellir gwneud hynny. Y gwahaniaeth ydi'r amgylchiadau lle gweithredir ar y reddf honno - dim arall.
Yn groes i'r hyn mae Guto yn ei awgrymu 'does yna ddim yn ei hanfod yn wahanol rhwng yr hyn mae undebau sector gyhoeddus yn ei wneud heddiw a'r hyn a wnaed gan undebau gweithwyr chwarel yn y gorffennol. Nid streicio er mwyn amddiffyn buddiannau pobl dlawd yn gyffredinol oedd chwarelwyr y Penrhyn, ond ymateb i fygythiad gan y cyflogwyr i'w buddiannau eu hunain. Dyna sy'n digwydd yn y rhan fwyaf o streiciau o ddigon. Mae'n bosibl dadlau bod y bygythiad i fuddiannau chwarelwyr yn 1900 yn fwy niweidiol na'r un i fuddiannau gweithwyr cyhoeddus heddiw, ond mater o raddau a chanfyddiad o raddau ydi hynny yn y pen draw.
Mae'n bosibl beirniadu'r sector gyhoeddus trwy honni ei bod yn aneffeithiol er enghraifft, fel mae'n bosibl beirniadu'r sector breifat am greu anhegwch. Ond mae beirniadu pobl sy'n gweithio mewn un sector ar sail moesol am amddiffyn eu buddiannau eu hunain yn _ _ _ wel - wirion.