Sunday, June 26, 2016

Gwenwyn

Felly ymateb Llafur i'r argyfwng sydd wedi codi yn sgil canlyniad refferendwm ddydd Iau ydi cael rhyfel cartref.  Canlyniad hynny yn ei dro ydi gadael y DU heb wrthblaid sy'n gallu gweithredu mewn cyfnod lle mae'r llywodraeth ei hun mewn argyfwng a phrin yn weithredol.

Canlyniad hyn oll ydi nad ydi'r llywodraeth yn dangos unrhyw arwydd eu bod yn gwybod sut i ymateb i'r hyn sydd wedi digwydd, a dydi'r brif wrthblaid ddim mewn sefyllfa i ymateb chwaith.  Mae'n fwy na thebyg bod y coup wedi ei gynllunio ymhell cyn y refferendwm - a does yna ddim tystiolaeth uniongyrchol bod angen etholiadol i newid pethau - mae'r unig bol piniwn i'w gymryd wedi'r refferendwm yn awgrymu mai'r Toriaid ac nid Llafur oedd yn dioddef yn sgil canlyniad y refferendwm.  

Mae sefyllfa'r blaid bellach yn anobeithiol.  Os ydi Corbyn yn aros bydd yn wynebu etholiad cyffredinol yn yr hydref gyda'i awdurdod oddi mewn y blaid wedi ei ddryllio.  Os bydd yn gorfod mynd, yna bydd trwch actifyddion y blaid wedi eu pechu a'u dadrithio.

Mae'r Blaid Lafur yn wenwynig ar hyn o bryd - ac mae'n endid i'w osgoi'n llwyr.  Mae gwenwyn yn berygl i bawb sy'n dod i gysylltiad a fo.

No comments: