Monday, June 06, 2016

Cydymdeimlo a Felix Aubel

Mae'n ddrwg iawn gan Blogmenai ddeall bod y Tori a'r gweinidog, Felix Aubel, yn cael problem anymunol efo gwrachod.  


Dwi'n siwr bod problem gwrachod yn beth digon annifyr - ac mae'n debyg y dyliwn fod yn ddiolchgar nad ydw i erioed wedi cael profiad cyffelyb.  Mae'n debyg mai'r rheswm am hynny ydi nad yw Felix a minnau yn troi yn yr un cylchoedd - mae o'n Dori o Gaerfyrddin tra fy mod i'n Bleidiwr o Wynedd.  

Dim ond dangos fel y dylem fod yn ddiolchgar am y bendithion yr ydym yn eu cael mewn bywyd.  

No comments: