Wednesday, June 01, 2016

Gwilym Owen - rhan 101

Bydd yn dda gennych wybod na wna i ddim mynd trwy holl rant Gwilym Owen yn Golwg yr wythnos diwethaf - ailadroddiad o fyllio gwleidyddion Llafur yn syth wedi i Leanne Wood sefyll yn erbyn Carwyn Jones i fod yn Brif Weinidog Cymru ydi hi i pob pwrpas - ynghyd a chwyno yn erbyn y cyfryngau oherwydd nad oeddynt wedi gwneud digon o ymdrech i wyntyllu fersiwn Llafur o bethau.  

Yr hyn dwi am aros efo fo fodd bynnag ydi'r honiad bod y penderfyniad i sefyll yn anemocrataidd.  Roedd Gwilym yn seilio'r honiad ar y ffaith bod gan Lafur fwy o seddi na Phlaid Cymru a bod ganddi 27 sedd 'agored' ganddi i chwech Plaid Cymru.  

Yr hyn mae Gwilym yn ei olygu efo 'agored' ydi seddi etholaethol.  Mae dau ddosbarth o aelodau Cynulliad yng Nghymru (a'r Alban) rhai etholaethol a rhai rhanbarthol.  Llywodraeth Lafur Tony Blair greodd y gyfundrefn ranbarthol er mwyn mynd i'r afael a'r diffyg democratiaeth sydd ynghlwm a'r gyfundrefn etholaethol ar ei phen ei hun.  Mae'r blog yma wedi beirniadu'r system sawl gwaith - ond mae'n llawer tecach a mwy democrataidd na'r gyfundrefn etholaethol ar ei phen ei hun.  

Efallai ei bod werth edrych ar beth fyddai wedi digwydd ers cychwyn y Cynulliad petai'r gyfundrefn ranbarthol ddim yn bodoli - ac mai 40 yn hytrach na 60 aelod fyddai yn y Cynulliad.

Llafur

1999 - pleidlais 37.6%, seddi 67.5%
2003 - pleidlais 40%, seddi 75%
2007 - pleidlais 32.2%, seddi 60%
2011 - pleidlais 42.3%, seddi 70%
2016 - pleidlais 34.7%, seddi 67.5%

Mewn geiriau eraill byddai Llafur wedi bod a mwyafrif clir iawn ym mhob etholiad - hyd yn oed pan roeddynt yn ennill llai na thraean o'r bleidlais.  Dydyn nhw heb ddod yn agos at gael hanner y bleidlais mewn unrhyw etholiad Cynulliad.

Mae gan y gyfundrefn ranbarthol wendidau - a gwendidau arwyddocaol - ond mae hi'n llawer mwy democrataidd na'r gyfundrefn etholaethol ar ei phen ei hun.

No comments: